Nodynnau gohirio ar gyfer nwyddau alcohol (W5D)
Gohirio taliad o doll ecséis ar gyfer warws alcohol.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch ffurflen W5D i ohirio taliad o doll ecséis ar gyfer warws alcohol.
Gallwch ddod o hyd i godau’r math o dreth a chyfraddau ar gyfer y Doll Alcohol yn ‘UK Trade Tariff: excise duties, reliefs, drawbacks and allowances’ (yn Saesneg).
O 1 Chwefror 2025 ymlaen, mae’n rhaid i chi fod â chymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) i gynhyrchu cynhyrchion alcohol yn y DU.
O 1 Mawrth 2025, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiadau a thaliadau Toll Alcohol gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer rheoli eich Toll Alcohol.
O dan y telerau ar gyfer cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA), gallwch gael eich awdurdodi i gynhyrchu, dal a symud cynhyrchion alcoholaidd sydd mewn gohiriad tollau. Ni fydd disgwyl i chi weithredu warws ecséis ynghyd â’ch APPA, ond gallwch wneud hynny os ydych yn dymuno.
Os bydd gennych warws ecséis ynghyd â’ch APPA, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer Toll Warws Alcohol a Thybaco (ATWD) neu ffurflenni W5 a W5D i gyflwyno’ch datganiad. Bydd hefyd angen i chi gyflwyno datganiad ‘dim’ drwy’r gwasanaeth i reoli’ch Toll Alcohol. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y byddwn yn codi cosbau ar eich cyfrif.
Ar gyfer datganiadau hyd at a chan gynnwys Chwefror 2025, dylech ddefnyddio ffurflenni ATWD neu W5 a W5D i ddatgan a thalu’r doll. Ni fyddwch yn gallu rhoi gwybod am y Doll Alcohol hon na rhoi cyfrif amdani gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer rheoli eich Toll Alcohol.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
-
The deferment advice for alcohol goods W5D form has been updated.
-
Information about changes to Alcohol Duty and the requirement to hold an excise warehouse has been added.
-
Welsh translation added.
-
A new version of the W5D form has been added, as well as a link to the new tax type codes and rates that apply from 1 August 2023.
-
This page has been updated because the Brexit transition period has ended.
-
First published.