Canllawiau

Lefel 2: Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Diweddarwyd 22 Ebrill 2025

Cyflwyniad

Mae Hyderus o ran Anabledd yn creu mudiad o newid, gan annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella sut maen nhw’n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl. Mae bod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle unigryw i arwain y ffordd yn eich cymuned a dangos eich bod yn gyflogwr sy’n gynhwysol i’r anabl.

Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd wedi’i gynllunio fel taith ddysgu barhaus, gan annog cyflogwyr fel chi i esblygu a gwella gyda phob cam. Nid yw’n ymwneud â chyflawni lefel statig o’r cynllun; mae’n ymwneud â chofleidio cyfeiriad meddwl o dwf ac addasu. Gan ddefnyddio adnoddau’r cynllun, byddwch mewn sefyllfa well i feithrin gweithlu lle mae pob aelod yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i rymuso i gyfrannu ei dalentau unigryw.

Mae tair lefel y cynllun wedi’u cynllunio i’ch cefnogi ar eich taith Hyderus o ran Anabledd.  Efallai bod gennych ddiddordeb yn y cynllun a’ch bod yn chwilio am fwy o wybodaeth am yr hyn y mae’r daith gyfan yn ei olygu neu efallai eich bod eisoes yn gyflogwr lefel 1 ac yn edrych i gymryd y cam nesaf i ddod yn gyflogwr lefel 2. Lle bynnag yr ydych ar eich taith, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gymryd y cam nesaf.

Y 3 lefel yw:

  • Ymrwymedig i Hyderus o ran Anabledd (Lefel 1)
  • Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd (Lefel 2)
  • Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (Lefel 3)

Mae aelodaeth ar gyfer Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn para tair blynedd.  Rhaid i chi gwblhau pob lefel cyn symud ymlaen i’r nesaf ac fe’ch anogir i symud ymlaen i’r lefel nesaf (Arweinydd Hyderus o ran Anabledd – Lefel 3) cyn gynted ag y byddwch yn barod a fydd yn ail-ddechrau’r cyfnod aelodaeth tair blynedd.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru fel cyflogwr Ymrwymedig i Hyderus o ran Anabledd,  ceir ragor o wybodaeth ac arweiniad yn yr adran Ymrwymedig i Hyderus o ran Anabledd (lefel 1) ar Sut i gofrestru i’r cynllun cyflogwr Hyderus o Ran Anabledd.

Mwy o wybodaeth

Maximus: Canllaw ymarferol i reolwyr ar yr anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor mwyaf cyffredin

Mencap Good for Business  - Y manteision o gyflogi pobl ag anabledd dysgu.

Acas: arbenigwyr yn y gweithle DU (fideo)

Acas: Anabledd yn y gwaith

Mae’r Recruitment Industry Disability Initiative (RIDI) yn helpu recriwtwyr a chyflogwyr i ddod yn hyderus o ran anabledd a chynnig mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau.

Cyflogi pobl anabl: Canllaw rheolwr ar gyfer Hyderus o ran Anabledd a CIPD

Canllaw ar y cyd CIPD / BDF ar Adrodd am Gweithlu Anabledd

Cychwyn arni

Felly, beth yw’r camau cyntaf?

Llongyfarchiadau ar gymryd y cam nesaf hwn ar eich taith Hyderus o ran Anabledd. Dylai bod yn Hyderus o ran Anabledd gynnwys eich busnes cyfan, bach neu fawr, a dylai fod â chefnogaeth perchnogion busnes a/neu uwch arweinwyr.  Mae’n bwysig cymryd ymagwedd fusnes gyfan at ddod yn Hyderus o ran Anabledd.  Waeth beth yw maint eich busnes, eich cydymdrech a’ch ymrwymiad yw’r hyn a fydd yn gwneud y gwahaniaeth i’ch busnes. Dylai eich perchnogion busnes ac uwch arweinwyr barhau i arwain ar weithredu’r egwyddorion Hyderus o ran Anabledd a dylid annog eich sefydliad cyfan i ddangos ymgysylltiad parhaus â datblygu ac ymgorffori eich diwylliant sy’n cynhwysol o ran anabledd.

Cam Un

Byddem yn eich annog i:

  • Roi gwybod i’ch tîm ac uwch reolwyr am symud ymlaen yn y daith Hyderus o ran Anabledd a thrafod ei oblygiadau i’ch sefydliad gyda’ch cydweithwyr.
  • Darllen y canllawiau yn y pecyn hwn ac, os oes gennych un, rhannwch hyn gyda’ch hyrwyddwr Hyderus o ran Anabledd, arbenigwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant neu weithgor.

Cam dau

  • Ymgyfarwyddo â’r broses hunanasesu a phenderfynu pwy fydd yn arwain wrth gwblhau hyn ar gyfer eich sefydliad.
  • Cynlluniwch sesiwn gyda chydweithwyr i drafod yr hunanasesiad a meddwl am y mathau o dystiolaeth y gallwch eu defnyddio i’w chwblhau.
  • Gweithiwch drwy’r hunanasesiad gyda’ch cydweithwyr gan dynnu sylw at bethau rydych chi eisoes yn eu gwneud yn dda, a sut y gallwch chi ddangos tystiolaeth o hyn, a phethau y mae angen i chi ddechrau eu gwneud yn eich sefydliad i fodloni’r meini prawf ar gyfer Lefel 2.
  • Cynlluniwch sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r pethau nad ydych yn eu gwneud eto, neu y gallech eu gwneud yn well, gan adeiladu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r rhain, a sicrhau bod gan bob cam berchennog i fonitro cynnydd.
  • Dylai’r rhan fwyaf o’r camau gweithredu sy’n weddill gael eu cwblhau cyn i chi wneud cais am Lefel 2, fodd bynnag, efallai y bydd rhai camau gweithredu bach yn weddill, ond dylai bod gennych gynllun clir i fynd i’r afael â’r rhain yn fuan.

Cam tri

  • Ar ôl cwblhau eich hunanasesiad, ewch i wefan Hyderus o ran Anbledd ac adolygwch eich manylion cyswllt, bydd hyn yn cymryd llai na 10 munud ac yn cadarnhau eich bod wedi:
    • Cwblhau hunanasesiad Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
    • Yn cyflawni’r holl gamau gweithredu craidd i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
    • Yn cynnig o leiaf un gweithgaredd i gael y bobl iawn ar gyfer eich busnes ac o leiaf un gweithgaredd i gadw a datblygu eich pobl.
  • Os nad ydych eisoes yn gweithio gyda’r Ganolfan Byd Gwaith, ystyriwch gysylltu â nhw i drafod y cyfleoedd rydych chi’n eu darparu i bobl anabl.
  • Adolygu eich gweithgareddau yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â meini prawf y cynllun.
  • Gosod nod i gyflawni Lefel 3 y cynllun o fewn eich aelodaeth tair blynedd.

Cwblhau eich hunanasesiad Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Wrth gofrestru i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydych wedi cytuno i gynnal hunanasesiad, gan brofi eich busnes yn erbyn cyfres o ddatganiadau am gyflogi pobl anabl. Mae’r hunanasesiad hwn yn gosod sylfaen, a gynlluniwyd i’ch galluogi i ganolbwyntio ar yr hyn y mae eich busnes yn ei wneud yn dda ar hyn o bryd a pha gamau ychwanegol y gallai fod angen i chi eu cymryd i gydymffurfio â meini prawf Lefel 2.

Mae achrediad ar gyfer Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn para tair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, dylech adolygu eich hunanasesiad bob blwyddyn ac ychwanegu tystiolaeth ato.  Os byddwch yn symud ymlaen i Arweinydd Hyderus o ran Anabledd yn ystod y cyfnod hwnnw, yna bydd y cyfnod o dair blynedd yn ailgychwyn ar y lefel newydd.

Mae templed ar gael i chi gofnodi’ch tystiolaeth yn erbyn pob datganiad a gallwch gyrchu’r templed drwy ein gwefan Hyderus o ran Anabledd: canllawiau ar gyfer lefelau 1, 2 a 3 - GOV.UK

Mae’r hunanasesiad wedi’i rannu’n ddwy thema:

  • Thema 1 – Cael y bobl iawn ar gyfer eich busnes

  • Thema 2 – Cadw a datblygu eich pobl

O fewn y ddwy thema, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy’n dangos sut rydych yn cwrdd â’r rhestr o gamau gweithredu craidd. Bydd hyn yn eich helpu i adnabod meysydd lle mae angen gwaith ychwanegol ac yn eich helpu i gynllunio sut i fynd i’r afael â nhw cyn gwneud cais am Lefel 2. Bydd angen i chi hefyd gofnodi pa weithgareddau ychwanegol rydych chi’n eu cynnig a darparu tystiolaeth ar gyfer y rhain. Cofiwch, un gweithgaredd fesul thema yw’r gofyniad lleiaf, ond mae llawer o gyflogwyr Hyderus o Ran Anabledd yn ymgymryd â nifer o weithgareddau i ddangos eu hymrwymiad i greu gweithleoedd cynhwysol.

Ni ddylid mynd ati i gwblhau’r hunanasesiad fel ymarfer ticio-blwch. Mae’r gweithgaredd a ddisgrifir yn eich hunanasesiad yn grynodeb cynhwysfawr o’r holl fentrau y mae eich busnes yn eu cyflawni i feithrin gweithle cynhwysol. Mae’n gyfle gwych i werthuso’r cynnydd y mae eich sefydliad yn ei wneud tuag at gynwysoldeb, tra hefyd yn tynnu sylw at arferion gorau y gellir eu rhannu ar draws y busnes, gyda chyflenwyr, a chyflogwyr eraill yn eich rhwydweithiau.

Awgrymiadau ar gyfer cwblhau eich hunanasesiad

Gellir defnyddio’r canllawiau canlynol i’ch helpu i feddwl am y ffyrdd y gallwch ddangos tystiolaeth o’r hyn y mae eich busnes yn ei wneud wrth i chi weithio drwy’r hunanasesiad.

Mae’r canllawiau’n cael eu rhannu’n bedair adran i gyd-fynd â’r templed hunanasesu gan ddechrau gyda’r gweithgaredd craidd sydd ei angen yn erbyn pob thema cyn ymdrin â’r meini prawf ychwanegol.

Thema 1 – Cael y bobl iawn ar gyfer eich busnes

Cam Gweithredu Craidd 1: Denu a recriwtio pobl anabl yn weithredol i helpu i lenwi eich cyfleoedd

Sut?

  • Gwneud ymrwymiad i recriwtio a chadw pobl anabl a sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu mewn hysbysebion swyddi, er enghraifft, trwy gynnwys eich bathodyn Hyderus o ran Anabledd. Defnyddiwch eich bathodyn Hyderus o ran Anabledd ar hysbysebion swyddi gwag i sicrhau bod ymgeiswyr posibl yn gwybod eich bod yn gyflogwr cynhwysol.
  • Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith ystod o wasanaethau recriwtio a all eich helpu chi fel cyflogwr. Gallwch gysylltu â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr gan ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 169 0178, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
  • Mae Dod o hyd i Swydd yn wasanaeth am ddim gan y llywodraeth lle gallwch hysbysebu eich swyddi gwag. Ychwanegwch eich manylion Hyderus o ran Anabledd i’ch cyfrif a bydd eich bathodyn yn cael ei ychwanegu at eich hysbysebion.
  • Yn yr Alban ewch i Employability in Scotland.
  • Gweithio gyda a gosod hysbysebion swyddi yn y wasg anabledd neu ar wefannau anabledd, megis:

  • Disability Jobsite 
  • Embracing Future Potential 
  • Evenbreak 
  • RNIB 
  • Vercida 
  • Deaf Unity
  • Patchwork Hub

    • Eich sefydliad hawliau anabledd lleol.
  • Rhedeg, cefnogi neu gymryd rhan mewn ffeiriau swyddi anabledd lleol (gwiriwch gyda’ch Canolfan Byd Gwaith leol) neu ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu.

Mwy o wybodaeth:

Ystod o sianeli cyfathrebu 

Beth yw sefydliad pobl anabl sy’n cael ei arwain gan ddefnyddwyr? (fideo)

Recriwtio a phobl anabl 

Leonard Cheshire – Change100 

Cam Gweithredu Craidd 2: Darparu proses recriwtio gwbl gynhwysol a hygyrch

Sut?

  • Adolygu prosesau recriwtio cyfredol ac adnabod gwelliannau y gellir eu gwneud i’w gwneud yn gwbl gynhwysol.
  • Sicrhau bod recriwtwyr, rheolwyr llinell ac asiantaethau allanol wedi cael eu hyfforddi mewn arferion recriwtio hygyrch.
  • Defnyddio eich bathodyn Hyderus o ran Anabledd i sicrhau bod ymgeiswyr posibl yn gwybod eich bod yn gyflogwr cynhwysol.
  • Gwneud hysbysebion swyddi yn hygyrch, er enghraifft, rhestru gofynion ‘hanfodol’ y swydd yn unig, defnyddio iaith syml, osgoi jargon ac acronymau a chynnwys datganiad cyfle cyfartal, fel ‘Rydym wedi ymrwymo i annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith ein gweithlu, a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon’.
  • Adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a allai rhwystro neu atal pobl anabl rhag gwneud cais am swyddi.
  • Darparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys yr hysbyseb swydd, disgrifiad swydd, a’r holl gyfathrebiadau rhwng y cyflogwr a’r ymgeisydd. (er enghraifft, hygyrch yn ddigidol trwy ddarllenwyr sgrin, print bras).

  • Sicrhau bod lleoliadau cyfweld ac asesu corfforol yn gwbl hygyrch.
  • Darparu addasiadau rhesymol drwy gydol y broses recriwtio, megis cynnig cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw lle gallai hyn fod yn briodol.

Mwy o wybodaeth:

Recriwtio a phobl anabl 

Recriwtio cynhwysol: Canllaw i gyflogwyr, CIPD 

Fformatau cyfathrebu hygyrch 

Gofyn am wybodaeth am anabledd yn ystod recriwtio 

Hyderus o ran Anabledd a CIPD: canllaw i reolwyr llinell ar gyfer cyflogi pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd 

Canllaw Mynediad at Waith i gyflogwyr 

Canllaw ar niwroamrywiaeth ar gyfer recriwtwyr a rheolwyr cyflogi y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth ac Uptimize 

Canllaw Menter Anabledd ar gyfer arfer recriwtio cynhwysol y Diwydiant Recriwtio a Chydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth 

Mae ap hygyrchedd Wel-co.me yn helpu cwsmeriaid anabl i nodi’r cymorth sydd ei angen

Taflen ffeithiau AbilityNet ar WCAG 2.2 (safonau hygyrchedd gwe)

Cam Gweithredu Craidd 3: Cynnig cyfweliad i bobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd

Sut?

Annog ceisiadau drwy gynnig cyfweliad i ymgeisydd sy’n datgan bod ganddo anabledd. Dylai aelodau’r cynllun Hyderus o ran Anabledd sicrhau y gofynnir i bob ymgeisydd fel rhan o’r broses recriwtio os ydynt yn dymuno gwneud cais o dan y cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Nid yw hyn yn golygu bod gan bob person anabl hawl i gyfweliad. Rhaid iddynt fodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer swydd fel y’i diffinnir gan y cyflogwr.

Nod yr ymrwymiad hwn yw annog gweithredu cadarnhaol, sy’n annog pobl anabl i ymgeisio am swyddi a rhoi cyfle i ddangos eu sgiliau, eu talent a’u galluoedd yn ystod y cam cyfweld.

Gall cyflogwr gymryd camau i helpu neu annog grwpiau penodol o bobl ag anghenion gwahanol, neu sydd dan anfantais mewn rhyw ffordd, i gyrchu gwaith neu hyfforddiant. Mae Gweithredu Cadarnhaol yn gyfreithlon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.   

Mae’n bwysig nodi y gall fod adegau pan nad yw’n ymarferol neu’n briodol cyfweld â phob person anabl sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. Er enghraifft: mewn rhai sefyllfaoedd recriwtio megis nifer uchel o geisiadau, amseroedd tymhorol a brig uchel, efallai y bydd y cyflogwr am gyfyngu ar y nifer cyffredinol o gyfweliadau a gynigir i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl.  

O dan yr amgylchiadau hyn, gallai’r cyflogwr ddewis yr ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd yn orau yn hytrach na phawb sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol, fel y byddent yn ei wneud ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn anabl. Dylid egluro hyn ym mholisïau recriwtio a hysbysebion swyddi’r cyflogwr.

  • Yn gyffredinol, mae ‘meini prawf gofynnol’ mewn proses dethol ar gyfer swydd yn cyfeirio at y rhinweddau, y sgiliau, y profiad a/neu’r cymwysterau gofynnol y mae angen i ymgeisydd eu dangos i gael eu hystyried yn addas i gyflawni’r rôl, a symud ymlaen i gam cyntaf y detholiad.

  • Dylai cyflogwyr sy’n hyderus o ran anabledd ei gwneud hi’n glir yn eu deunydd recriwtio, os yw ymgeisydd anabl yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd (fel y nodir yn yr hysbyseb swydd neu’r fanyleb swydd) efallai y byddant yn cael cyfle i ddangos eu sgiliau, eu talent a’u galluoedd mewn cyfweliad (bydd y cyflogwr yn penderfynu ar ei fformat e.e. wyneb yn wyneb, ar-lein, ffôn).

  • Os defnyddir system sgorio i sefydlu a yw ymgeisydd wedi bodloni’r gofynion sylfaenol, dylai’r cyflogwr sicrhau bod hyn wedi’i nodi’n glir.

  • Peidiwch â chynnwys gofynion nad ydynt yn hanfodol a allai eithrio person anabl yn anfwriadol.

  • Rhowch yr ymrwymiad ar bob swydd wag, mewnol ac allanol, lle bynnag y bo’n bosibl, gan nodi’n glir yn yr hysbyseb os yw’r cynnig o gyfweliad yn berthnasol.

  • Rhowch gyfle cynnar yn eich proses ymgeisio i bobl anabl nodi a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnynt yn ystod y broses recriwtio.

  • O fewn y ffurflen gais neu’r CV (yn dibynnu ar y broses recriwtio a ffefrir gan gyflogwyr) rhaid i’r ymgeisydd allu dangos ei fod yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd os yw’n gofyn am gyfweliad o dan y cynllun Hyderus o ran Anabledd.

  • Ystyriwch a ellid bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd drwy ddarparu addasiadau rhesymol.

  • Nodwch yn y wybodaeth cyfweliad a  dethol a oes adborth ar gael neu ddim ar gael ar gais.

Mwy o wybodaeth

Cyflogi pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd 

Gweithredu cadarnhaol yn y gweithle 

Cam Gweithredu Craidd 4: Bod yn hyblyg wrth asesu pobl fel bod ymgeiswyr anabl yn cael y cyfle gorau i ddangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith

Sut?

  • Cynllunio ar gyfer, cynnig a gwneud addasiadau ym mhob cam o’r broses recriwtio lle bo angen - er enghraifft, caniatáu mwy o amser i ymgeiswyr niwroamrywiol gwblhau asesiadau neu drwy ddarparu deunydd ysgrifenedig ar bapur lliw.
  • Sicrhau bod pobl sy’n rhan o’r broses gyfweld yn deall yr ymrwymiadau Hyderus o ran Anabledd ac yn gwybod sut i gynnig a gwneud addasiadau.

  • Cynnig cyfweliadau estynedig neu weithio i alluogi pobl anabl ag anabledd dysgu i ddangos eu potensial.

  • Osgoi gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar asesiadau seicometrig yn unig.

Mwy o wybodaeth

Canllawiau EHRC - cyflogi pobl, addasiadau yn y gweithle 

Mae addasiadau rhesymol yn aml yn syml (canllaw Acas) 

Addasiadau iechyd meddwl - Addasiadau rhesymol yn y gwaith - Acas

Cam Gweithredu Craidd 5: Rhaid cynnig a gwneud addasiadau rhesymol yn rhagweithiol yn ôl yr angen

Sut?

Mae dyletswydd ar gyflogwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud ‘addasiadau rhesymol’ yn y gweithle lle byddai person anabl fel arall yn cael ei roi dan anfantais sylweddol o’i gymharu â’i gydweithwyr. Dylai cyflogwyr ragweld a darparu addasiadau rhesymol i bobl anabl gydymffurfio â’r gyfraith.

Mae cyflogwr sy’n methu gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeisydd neu weithiwr anabl yn un o’r mathau mwyaf cyffredin o wahaniaethu ar sail anabledd.

Beth mae ‘rhesymol’ yn ei olygu

Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar bob sefyllfa. Mae’n rhaid i’r cyflogwr ystyried yn ofalus os yw’r addasiad:

  • yn dileu neu’n lleihau’r anfantais – dylai’r cyflogwr siarad gyda’r person a pheidio â gwneud rhagdybiaethau

  • yn ymarferol i’w wneud

  • yn fforddiadwy

  • gall niweidio iechyd a diogelwch pobl eraill

Addasiadau

Gall rhai agweddau neu amodau swydd neu’r gweithle achosi rhwystr i rywun ag anabledd a all olygu eu bod dan anfantais. Mae addasiadau yn newidiadau sy’n cael eu gwneud i’r amgylchedd gwaith neu’r ffordd y mae’r gwaith yn cael ei wneud, fel y gall rhywun ag anabledd wneud eu gwaith yn fwy effeithiol a dileu neu leihau rhwystr y mae rhywun yn ei brofi.

Dylid eu hystyried ar bob cam o’u cyflogaeth, o recriwtio a chynefino i waith o ddydd i ddydd. Gall newidiadau gynnwys, er enghraifft:

  • dod o hyd i ffordd wahanol o wneud rhywbeth.

  • gwneud newidiadau i’r gweithle.

  • newid trefniadau gwaith rhywun.

  • darparu offer, gwasanaethau neu gymorth.

Mae addasiadau yn ffactor pwysig wrth helpu gweithwyr anabl i aros mewn gwaith. Mae’n bwysig cofio:

  • nid yw pob addasiad yn ymwneud â’r amgylchedd gwaith corfforol, megis rampiau cadair olwyn - gall addasiadau eraill fod yn llai diriaethol ond yr un mor bwysig, megis newid oriau gwaith neu gynyddu goruchwyliaeth un i un.

  • nid yw pob addasiad yn costio arian neu’n anodd neu’n cymryd llawer o amser i’w wneud.

  • gellir gwneud addasiadau i unrhyw un, ac nid dim ond gweithwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd - er enghraifft, newid oriau gwaith rhywun sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Mwy o wybodaeth

Canllawiau EHRC - cyflogi pobl, addasiadau yn y gweithle 

Mae addasiadau rhesymol yn aml yn syml (canllaw Acas) 

Mynediad at Waith: cael cymorth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd: Beth yw Mynediad at Waith - GOV.UK (www.gov.uk) 

Teclyn rhyngweithiol: Gwasanaeth Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr (Gov.UK) 

Mae Millwood Servicing Ltd yn arddangos sut maen nhw’n gweithredu ac yn cefnogi eu gweithwyr gydag addasiadau rhesymol yn y gweithle (Acas) 

Addasiadau iechyd meddwl - Addasiadau rhesymol yn y gwaith - Acas

Cam Gweithredu Craidd 6: Annog cyflenwyr a chwmnïau partner i fod yn hyderus o ran anabledd

Sut?

Efallai yr hoffech ystyried a yw’ch cyflenwyr a’ch partneriaid yn adlewyrchu’r gwerthoedd y mae eich sefydliad yn eu harddangos, ac efallai y byddwch yn diweddu y gall eich cyflenwyr a’ch partneriaid hefyd fod yn fwy effeithiol os ydyn nhwhefyd yn manteisio ar y talentau y gall pobl anabl eu cyflwyno.

Anogwch eich partneriaid, cyflenwyr a darparwyr i ddangos eu hymrwymiad i fod yn Hyderus o ran Anabledd trwy gofrestru gyda’r cynllun.

Ystyriwch osod dangosyddion perfformiad clir ynghylch cyflogaeth anabl mewn contractau neu fframweithiau ar gyfer eich cadwyn gyflenwi a’ch partneriaid neu greu tudalen we cyflenwyr a ffefrir sy’n manylu ar ddewisiadau ynghylch cynhwysiant.

Cam Gweithredu Craidd 7: Sicrhau bod gan weithwyr ymwybyddiaeth cydraddoldeb anabledd briodol

Sut?

Mae hyfforddiant cydraddoldeb anabledd yn archwilio’r cysyniad o bobl sy’n cael eu hanalluogi gan rwystrau ac agweddau cymdeithas, gan dynnu sylw at y rôl y mae cymdeithas yn ei chwarae wrth gael gwared ar y rhwystrau hynny ac wrth newid agweddau. Gall yr hyfforddiant gynnwys gofal cwsmer, moesau ac iaith briodol er enghraifft.

Dylai hyn ystyried gofynion gwahanol rolau.

  • Mae angen dealltwriaeth gyffredinol ar bob gweithiwr o sut y gall agweddau, ymddygiadau ac amgylchedd effeithio ar bobl anabl.
  • Mae angen i staff sy’n ymgymryd â gweithgaredd recriwtio fod yn gwbl ymwybodol o sut i sicrhau bod eich proses recriwtio yn gwbl hygyrch.
  • Dylid ysgogi cefnogaeth arbenigol gan reolwyr Adnoddau Dynol ar gyfer y rheolwyr sy’n recriwtio.
  • Bydd angen i reolwyr a goruchwylwyr ddeall sut i gefnogi eu staff anabl.

Mwy o wybodaeth

Canllaw i’r Anabl - llawlyfr cyflogwyr

Hyderus o ran Anabledd a CIPD: canllaw i reolwyr llinell ar gyflogi pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd

Disability Matters

Thema 1 – Cael y bobl iawn ar gyfer eich busnes - gweithredoedd

Cofiwch yn yr adran nesaf o’r templed hunanasesu y dylech, fel isafswm, bod yn cynnig o leiaf un o’r gweithgareddau a restrir isod. Nid oes angen clustnodi’r gweithgareddau ar gyfer pobl anabl, ond dylent fod ar agor iddynt a lle bynnag y bo modd, dylid eu hannog i wneud cais.

Ystyriwch gytuno i ddarparu cymaint o weithgareddau ag y gallwch ac sy’n gynaliadwy o fewn maint eich sefydliad.

Cam Gweithredu Ychwanegol 1: Darparu profiad gwaith

Mae profiad gwaith fel arfer am gyfnod penodol y mae person yn ei dreulio gyda’r busnes, pryd y gallant ddysgu am fywyd gwaith a’r amgylchedd gwaith. Gall swyddi profiad gwaith gynnwys:

  • cymryd rhan mewn tasgau dyddiol
  • arsylwi swyddi
  • cwblhau aseiniadau byr
  • cyflawni tasgau yn annibynnol
  • cyfathrebu â gweithwyr
  • derbyn adborth

Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i bobl ddangos eu galluoedd ac yn helpu i feithrin y gwydnwch a’r ymddygiadau y bydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Bydd Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog pobl anabl i wneud cais am eu holl gyfleoedd profiad gwaith a’u cefnogi pan fyddant yn gwneud hynny. 

Mwy o wybodaeth

Canllawiau cyflogwyr i brofiad gwaith

Isafswm cyflog: profiad gwaith ac interniaethau

Nid dim ond gwneud te: canllaw i brofiad gwaith

Cam Gweithredu Ychwanegol 2: Darparu treialon gwaith

Mae treial gwaith yn gyfnod byr yn y gwaith y gallwch ei gynnig i geisiwr gwaith. Mae’n ffordd i chi’ch dau weld a yw’r swydd yn ffit dda. Gall fod drwy gytundeb gyda’r Ganolfan Byd Gwaith.

Os cytunir ar hyn gyda’r Ganolfan Byd Gwaith, gall cyflogwr gynnig treial gwaith os yw’r swydd bosibl am 16 awr neu fwy yr wythnos ac yn para am o leiaf 13 wythnos. Fel arfer, ni fyddai’r treial gwaith yn para mwy na 5 diwrnod os yw’r swydd am lai na 6 mis. Gallai fod am ddim mwy na 30 diwrnod (ac fel arfer tua 5 diwrnod) ar gyfer swyddi sy’n para 6 mis neu fwy.

Bydd Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog pobl anabl i wneud cais am eu holl gyfleoedd treialon gwaith a’u cefnogi pan fyddant yn gwneud hynny.

Mwy o wybodaeth

Treialon gwaith

Cam Gweithredu Ychwanegol 3: Darparu cyflogaeth â thâl (cyfnod parhaol neu gyfnod penodol)

Bydd Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog pobl anabl i wneud cais am eu holl swyddi gwag a’u cefnogi pan fyddant yn gwneud hynny. Mae cyflogwyr yn defnyddio amrywiaeth o lwybrau i hysbysebu eu swyddi gwag, ac mae gan y Ganolfan Byd Gwaith ystod o wasanaethau recriwtio a all helpu cyflogwr sy’n ceisio recriwtio staff. Gall cyflogwr gael:

  • cyngor recriwtio, gan gynnwys cymorth arbenigol i fusnesau
  • help i sefydlu treialon gwaith i roi cyfle i weld recriwtiaid posibl ar waith yn yr amgylchedd gwaith

Mwy o wybodaeth

Recriwtio a phobl anabl 

Sut y dylai cyflogwr gefnogi pobl anabl [ACAS]

Cyflogi gweithwyr anabl a phobl â chyflyrau iechyd [FSB]

Academïau gwaith yn seiliedig ar sector: canllaw cyflogwyr

Treialon gwaith  

Cam Gweithredu Ychwanegol 4: Darparu prentisiaethau

Gall y rhain fod ar gyfer gweithwyr newydd neu gyfredol. Mae prentisiaeth yn cyfuno gwaith ag astudio ar gyfer cymhwyster yn y gwaith. Bydd Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog pobl anabl i wneud cais am eu holl brentisiaethau gwag a’u cefnogi pan fyddant yn gwneud hynny.

Efallai y bydd cyflogwyr yn Lloegr yn gallu cael grant neu gyllid i gyflogi prentis. Rhaid i brentisiaid gael o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth.

Mae’n rhaid i’r prentis:

  • gweithio gyda staff profiadol
  • dysgu sgiliau sy’n benodol i’r swydd
  • astudio ar gyfer cymhwyster seiliedig ar waith yn ystod eu hwythnos waith, megis mewn coleg neu sefydliad hyfforddi.

Mwy o wybodaeth

Cyflogi prentis

Prentisiaethau

Cefnogaeth i brentisiaid ag anhawster dysgu neu anabledd

Cam Gweithredu Ychwanegol 5: Darparu hyfforddeiaeth

Y cychwyn olaf ar y rhaglen hyfforddeiaeth annibynnol oedd ar 31 Gorffennaf 2023. O 1 Awst 2023 gellir cyflwyno darpariaeth sy’n ymgorffori elfennau hyfforddeiaeth o hyd fel rhaglen astudio neu ei ariannu gan y gyllideb addysg oedolion (y gronfa sgiliau oedolion erbyn hyn).

Mae hyfforddeiaethau wedi’u cynllunio i helpu pobl ifanc sydd am gael prentisiaeth neu swydd ond nad oes ganddynt sgiliau neu brofiad priodol eto. Bydd Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog pobl anabl i wneud cais am unrhyw hyfforddeiaethau gwag a’u cefnogi pan fyddant yn gwneud hynny.

Mwy o wybodaeth

Hyfforddeiaethau

Cam Gweithredu Ychwanegol 6: Darparu interniaethau â thâl neu interniaethau â chymorth (neu’r ddau)

Mae interniaeth â thâl yn gyfnod o brofiad gwaith â thâl rhwng 1 a 4 mis, wedi’i anelu at fyfyrwyr coleg neu brifysgol ac fel arfer yn digwydd yn ystod yr haf. Fel arfer, bydd yr intern yn gweithio’n llawn amser ac yn ennill profiad a gwybodaeth sylfaenol am ddisgyblaeth fusnes benodol. Gellir adeiladu ar y profiad gwerthfawr hwn yn ystod blwyddyn lleoliad yn ogystal â mewn cyflogaeth i raddedigion. Bydd Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog pobl anabl i wneud cais am unrhyw un o’u cyfleoedd interniaeth a’u cefnogi pan fyddant yn gwneud hynny.

Mae interniaeth â chymorth wedi’i hanelu at bobl anabl sydd dal mewn addysg sy’n chwilio am brofiad gwaith a gwybodaeth am ddisgyblaeth fusnes ond y mae eu hanabledd yn golygu bod angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys gweithiwr cymorth neu anogwr gwaith i’w helpu yn y gweithle. Mae interniaethau â chymorth yn gofyn am amser ac ymrwymiad i’w sefydlu, felly gallai fod yn fwyaf addas i gyflogwr mwy a allai gynnig nifer ohonynt ar unwaith neu yn olynol, gan rannu costau cymorth a amser sefydlu.

Mwy o wybodaeth

Interniaethau â chymorth: arweiniad

Hysbysebu interniaeth

Leonard Cheshire – Change100

DFN Project Search

Mae RNIB mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Thomas Pocklington yn cynnig rhaglen interniaeth yn benodol ar gyfer interniaid â cholled golwg. Ewch i: Cyfle cyffrous i Gyflogwyr: Ymunwch â’r Rhaglen Interniaeth Get Set Progress! - Thomas Pocklington Trust

Cam Gweithredu Ychwanegol 7: Hysbysebu swyddi gwag a chyfleoedd eraill drwy sefydliadau a’r cyfryngau sydd wedi’u hanelu’n arbennig at bobl anabl

Gall hyn helpu i sicrhau bod pobl anabl yn gweld y cyfleoedd ac y gallant fod yn hyderus y byddant yn cael eu cefnogi os ydynt yn gwneud cais amdanynt. Mae’r sefydliadau priodol yn cynnwys:

Can Gweithredu Ychwanegol 8: Ymgysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith, neu sefydliadau dan arweiniad defnyddwyr pobl anabl (DPULOs) lleol i gael mynediad at gymorth pan fo angen (neu’r ddau)

Mae hyn yn cynnwys:

  • adnabod a chysylltu â rhwydweithiau a sefydliadau pobl anabl cenedlaethol lleol (neu’r ddau)
  • adeiladu cysylltiadau ag ysgolion a cholegau arbenigol
  • adnabod talent sydd wedi’i hyfforddi a’i chefnogi ymlaen llaw, er enghraifft drwy brentisiaethau ag interniaethau a gefnogir
  • gweithio gydag eiriolwyr.

Mae sefydliadau dan arweiniad defnyddwyr pobl anabl (DPULOs) yn cael eu rhedeg gan ac ar gyfer pobl anabl. Mae gan DPULOs rôl bwysig mewn:

  • darparu cymorth cymheiriaid mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, gwasanaethau ariannol, cyflogaeth a gwirfoddoli
  • newid canfyddiadau
  • galluogi pobl anabl i gael llais cryfach yn y gymuned leol

Maent yn darparu cyngor ar ystod eang o bynciau i bob person anabl, beth bynnag fo’u amhariad. Mae’r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd DPULOs ac yn annog pobl anabl i ddefnyddio eu sefydliadau lleol.

Mwy o wybodaeth

Beth yw DPULO?             

Help i recriwtwyr

Cam Gweithredu Ychwanegol 9: Darparu amgylchedd sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i staff, cleientiaid a chwsmeriaid

Mae mynediad nid yn unig yn ymwneud â diwallu anghenion pobl ag amhariadau corfforol. Mae hefyd yn ymwneud â diwallu anghenion mynediad pobl sydd ag amhariadau synhwyraidd neu anableddau dysgu, er enghraifft. Mae amgylchedd cynhwysol yn gweithio’n well i bawb, boed yn anabl ai peidio.

Gall darparu ar gyfer anghenion y cwsmeriaid, cleientiaid a defnyddwyr gwasanaeth hynny a allai fod yn anabl eich helpu i sicrhau bod eich busnes yn hygyrch i bawb. Bydd hefyd yn atgyfnerthu’r ymrwymiad y mae croeso i bobl anabl yn eich busnes. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i ddenu ceisiadau gan bobl anabl am swyddi gwag neu gyfleoedd eraill rydych chi’n eu cynnig.

Gall meysydd i’w hystyried gynnwys:

  • Technoleg
  • Cyfathrebu Hygyrch
    • Dolenni clyw
    • Darparu capsiynau
    • Arwyddion i gynorthwyo pobl anabl
  • Amgylchedd ffisegol
    • Parcio hygyrch
    • Addasu lled drysau ar gyfer cadeiriau olwyn
    • Dylai coridorau fod yn ddigon llydan i ddefnyddwyr cadair olwyn a chymorth symudedd
    • Dylai lifftiau fod ar gael ar gyfer symud rhwng lloriau, yn ogystal â grisiau

Mwy o wybodaeth

Centre for Accessible Environments

Access and Sustainability Advisory Service

Cyflwyniad i safonau a hyfforddiant hygyrchedd [BDF]

Wel-co.me offeryn hygyrchedd

Taflen ffeithiau AbilityNet ar WCAG 2.2 (safonau hygyrchedd gwe)

Cam Gweithredu Ychwanegol 10: Cynnig dulliau arloesol ac effeithiol eraill i annog pobl anabl i wneud cais am gyfleoedd a’u cefnogi pan fyddant yn gwneud hynny.

Efallai bod eich busnes wedi datblygu dulliau arloesol ac effeithiol eraill y tu hwnt i’r hyn yr ydym wedi’i nodi yma. Os felly, hoffem glywed beth rydych chi’n ei wneud. Os yw’n briodol, gallem gynnwys manylion ac astudiaethau achos mewn fersiynau o’r cynllun hwn yn y dyfodol, i helpu cyflogwyr eraill.

E-bostiwch ni ar admin@disabilityconfident.dwp.gov.uk.

Thema 2 – Cadw a datblygu eich pobl

Cam Gweithredu Craidd 1: Hyrwyddo diwylliant o fod yn Hyderus o ran Anabledd

Sut?

  • Adeiladu diwylliant yn eich busnes lle mae eich cyflogeion yn teimlo’n ddiogel i rannu unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gan deimlo’n hyderus y byddant yn cael eu cefnogi yn ôl yr angen. Efallai y bydd rhai cyflyrau, fel iechyd meddwl, y gallai rhai staff fod yn arbennig o sensitif ynglŷn â’u rhannu, a dylech feddwl yn benodol am ffyrdd y gallwch greu diwylliant agored a chefnogol.
  • Cyfathrebu negeseuon cadarnhaol mewn llenyddiaeth, datganiadau a chynlluniau y cwmni, a herio unrhyw ddelweddau negyddol neu ddatganiadau rhagfarnol.
  • Ymgynghori’n rheolaidd â staff am eu canfyddiadau o faterion, rhwystrau neu bryderon, ac adrodd yn ôl ar gamau a gymerwyd i fynd i’r afael â’r rhain.
  • Ystyried darparu fframwaith o bolisïau pobl sy’n nodi eich egwyddorion a’ch camau gweithredu i gefnogi recriwtio, cadw a chynnydd pobl anabl neu’r rhai â chyflwr iechyd.
  • Llofnodi’r ymrwymiad iechyd meddwl yn y gwaith.
  • Annog grwpiau cynhwysiant ac amrywiaeth neu debyg i gynyddu ymgysylltiad gweithwyr o amgylch llesiant, iechyd meddwl ac anabledd, sy’n helpu i wreiddio diwylliant o Hyderus o ran Anabledd
  • Hyrwyddo diwrnodau amserol ac ymwybyddiaeth sy’n gysylltiedig ag Anabledd ac iechyd yn fewnol gyda’ch cyflogeion ac yn allanol. Mae rhai enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys adnabod: Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia, Wythnos Ymwybyddiaeth Fyddar, Diwrnod Amser i Siarad, Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Diwrnod Menopos y Byd.

Mwy o wybodaeth

Sut gall eich busnes elwa o fod yn hyderus o ran anabledd

Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Fujitsu, Hyderus o ran Anabledd

Calendr ymgyrchoedd cenedlaethol, Cyflogwyr y GIG

Cam Gweithredu Craidd 2: Cefnogi gweithwyr i reoli eu hanableddau neu gyflyrau iechyd

Sut?

  • Annog gweithwyr i fod yn agored ac i drafod unrhyw anghenion mynediad a chymorth
  • Sicrhau bod gweithwyr yn gwybod, os ydynt yn cael anabledd, neu os bydd anabledd neu gyflwr iechyd presennol yn gwaethygu, gwneir pob ymdrech i’w galluogi i barhau yn eu swydd bresennol neu un arall
  • Darparu cefnogaeth i weithwyr presennol, er enghraifft, drwy sesiynau iechyd galwedigaethol, cynnig patrymau gweithio hyblyg, cynnig gweithio gartref
  • Darparu addasiadau yn y gweithle yn ôl yr angen i gefnogi staff.
  • Trafod gyda’r gweithiwr a gofynion penodol sydd eu hangen i ddychwelyd i’r gwaith
  • Gwneud addasiadau dros dro neu barhaol i batrymau gwaith neu gyfrifoldebau swydd i weithwyr sy’n cael triniaeth feddygol
  • Gwneud y broses yn glir, ei chyfeirio’n dda a, lle bo’n bosibl, bod gyda thîm canolog sy’n cynorthwyo gyda phenderfyniadau.
  • Sicrhau bod eich ymrwymiad i gefnogi gweithwyr i reoli eu hanableddau yn cael ei gynnwys ym mholisïau’r cwmni a chyfathrebiadau staff

Gallwch awgrymu i’r gweithiwr ei fod yn defnyddio’r Pasbort Addasiadau Iechyd i helpu i ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar eu rheolwr newydd i’w cefnogi’n effeithiol.  Mae hon yn ffurflen ddefnyddiol sy’n darparu gwybodaeth am addasiadau ac sy’n gallu teithio’n hawdd gyda’ch gweithiwr rhwng rolau.

Mwy o wybodaeth

Hyderus o ran Anabledd a CIPD: canllaw i reolwyr llinell ar gyflogi pobl ag anabledd neu gyflwr iechyd

CIPD a MIND Cefnogi iechyd meddwl yn y gwaith

Porth Mind - Mental Health at Work

Pecyn cymorth Iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl i gyflogwyr Business in the Community

Arfer gorau anabledd [HSE]

Taflen ffeithiau Mynediad at Waith

Pasbort Addasiadau Iechyd

Neuroinclusion yn y gwaith, CIPD

Cam Gweithredu Craidd 3: Sicrhau nad oes rhwystrau i ddatblygiad a chynnydd staff anabl

Sut?

  • Sicrhau bod staff anabl yn cael eu cynnwys yn llawn mewn cyfarfodydd tîm a chyfathrebu anffurfiol a bod unrhyw gymorth cyfathrebu sydd ei angen ar gael fel capsiynau caeedig neu ddolenni clyw.
  • Gosodpob cyfarfod i’w recordio a chael capsiynau o’r dechrau, gydag agendâu, sy’n dda i gydweithwyr nad ydynt yn anabl ac anabl.
  • Annog staff anabl i ystyried eu dyheadau a chwilio am gyfleoedd cynnydd yn y gweithle, gan sicrhau bod eich prosesau wedi’u cynllunio i gefnogi cynnydd i bawb.
  • Ystyried casglu data ar anabledd a phrofiadau gweithwyr ag anableddau a chyflyrau iechyd a all lywio arferion a pholisïau sefydliadol a helpu i yrru cynnydd a newid.  Gall sefydliadau ddefnyddio’r data i ddatblygu cynlluniau gweithredu sy’n creu newid cadarnhaol, p’un a ydynt yn defnyddio fframwaith presennol neu ddulliau eraill a awgrymir. Mae datgelu anabledd i gyflogwr yn benderfyniad unigol, ac nid oes rhwymedigaeth ar unrhyw un i wneud hynny.

  • Trafod anghenion hyfforddi a datblygu yn rheolaidd gyda’r holl staff, a chynnig cymorth hyfforddiant priodol yn ôl yr angen fel cyrsiau mewn fformatau amgen, hyfforddi os oes angen a lleoliadau hyfforddiant hygyrch

  • Sicrhau nad oes unrhyw rwystrau anfwriadol i gynnydd, fel newidiadau i drefniadau lleoliad neu deithio a allai gyfyngu ar gynhwysiant.

Mae’r canllaw cysylltiedig yn archwilio tri maes o arfer da cydraddoldeb i helpu gyda’r cam gweithredu hwn:

  • polisïau cydraddoldeb
  • hyfforddiant cydraddoldeb
  • monitro

Mwy o wybodaeth

Arfer cydraddoldeb da i gyflogwyr

Mae EY yn siarad am eu dull o recriwtio pobl anabl dalentog.

Cam Gweithredu Craidd 4: Sicrhau bod rheolwyr llinell yn ymwybodol o sut y gallant gefnogi staff sy’n sâl neu’n absennol o’r gwaith

Sut?

  • Cael proses glir ar gyfer rheoli absenoldeb, ei chymhwyso’n gyson a sicrhau bod yr holl staff yn gwybod am y broses.
  • Ystyried gwahanu absenoldeb salwch o absenoldeb sy’n gysylltiedig ag anabledd wrth gofnodi absenoldebau staff.
  • Sicrhau bod yr holl staff absennol yn derbyn cyswllt rheolaidd gan eu rheolwr llinell, mewn fformatau priodol ac ar amlder y cytunwyd arnynt, i’w helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau gwaith i’w helpu i barhau i deimlo eu bod yn gysylltiedig â’r gweithle.

  • Sicrhau pan fydd aelod o staff wedi gwella digon i ddychwelyd i’r gwaith, bod cynllun cymorth ar waith lle bo hynny’n berthnasol. Gallai hyn gynnwys gostyngiadau dros dro mewn oriau neu newidiadau i batrymau gwaith ac unrhyw addasiadau angenrheidiol yn y gweithle.
  • Lle nad yw’r gweithiwr yn gallu parhau yn ei rôl bresennol, er gwaethaf addasiadau yn y gweithle, cynnig rolau amgen addas lle bynnag y bo’n bosibl.
  • Edrych ar y gwasanaeth ar-lein Cymorth gydag Iechyd ac Anabledd Gweithwyr a all eich helpu i gefnogi’ch gweithwyr a deall eich gofynion cyfreithiol.
  • Darparu hyfforddiant penodol i reolwyr ar sut i reoli iechyd meddwl drostynt eu hunain a’u tîm.
  • Darparu cymorth lles ymarferol i reolwyr gefnogi lles eu tîm e.e. pecynnau cymorth, canllawiau sgwrs ac adnoddau dysgu.
  • Defnyddio darparwr Iechyd Galwedigaethol ac ymgynghori â nhw yn ôl yr angen ar gyfer pobl â chyflwr iechyd hirdymor neu acíwt.
  • Dylai Rheolwyr Adnoddau Dynol ddarparu cyngor wedi’i deilwra i Reolwyr Llinell lle bo hynny’n briodol.

Mwy o wybodaeth

Acas - Gofalu am eich staff a’ch busnes

Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr – GOV.UK

Templedi i gyflogwyr [Acas]

Cam Gweithredu Craidd 5: Gwerthfawrogi a gwrando ar adborth gan staff anabl

Sut?

  • Sicrhau bod cyfleoedd i gael adborth gan staff, boed hynny drwy arolygon a fforymau staff ffurfiol neu’n anffurfiol, ac annog staff anabl i gymryd rhan a rhannu eu profiadau.
  • Cael grŵp ar gyfer pobl anabl sy’n cyfarfod yn rheolaidd gan bobl o bob adran a’r uwch dîm arwain.

  • Adrodd yn ôl yn rheolaidd ar gamau a gymerwyd i fynd i’r afael â materion a godwyd gan staff anabl a monitro effeithiolrwydd y camau gweithredu hyn.
  • Sicrhau bod rheolwyr llinell yn annog staff anabl i siarad yn agored am eu barn, eu hanghenion a’u huchelgeisiau mewn adolygiadau staff, a gweithredu’n briodol ar y pwyntiau a godwyd.
  • Casglu metrigau yn rheolaidd fel y gall gweithwyr roi cipolwg ar eu syniadau am faterion sy’n amrywio o ba mor ymgysylltiol maent yn teimlo yn y gwaith, cyflwr eu hiechyd meddwl, ansawdd eu rheolaeth a’u hagweddau tuag at gynhwysiant a lles yn y gwaith.

Cam Gweithredu Craidd 6: Adolygu eich hunanasesiad Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn rheolaidd

Sut?

Bydd Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn ceisio gwella yn barhaus ac ystyried newid mewn cyngor a chanllawiau. Bydd adolygu yn rheolaidd (isafswm bob blwyddyn) yn helpu gyda’r broses hon.

Thema 2 – Cadw a datblygu eich pobl - camau gweithredu

Cofiwch yn yr adran nesaf o’r templed hunanasesu y dylech, fel isafswm, fod yn cynnig o leiaf un o’r gweithgareddau a restrir isod.

Cam Gweithredu Ychwanegol 1: Darparu mentora, hyfforddi, cyfeillio a/neu rwydweithiau cymorth eraill i staff

  • Mae mentora yn broses lle bydd cydweithiwr mwy profiadol yn rhannu ei wybodaeth neu ei ddull o ymdrin â thasgau gyda chydweithiwr llai profiadol i’w helpu i ddatblygu yn eu rôl.
  • Hyfforddi yw lle bydd Hyfforddwr yn defnyddio technegau cwestiynu i gefnogi unigolyn i ddatrys heriau neu ansicrwydd y gallent fod yn eu hwynebu.  Nid oes angen i hyfforddwr fod wedi mynd trwy’r un profiadau, ond bydd ganddynt y sgiliau i helpu’r unigolyn i archwilio ei opsiynau a gwneud cynllun gweithredu.
  • Cyfeillio yw lle gall cydweithiwr enwebedig ddarparu cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant a hybu hyder pan fydd aelod o staff yn symud i amgylchedd gwaith newydd. Yn aml mae hwn yn drefniant eithaf anffurfiol.
  • Gall darparu mynediad at rwydweithiau cymorth fod yn ffordd dda o helpu staff anabl neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd i ddatblygu sgiliau, meithrin eu hyder a chysylltu ag ystod amrywiol o gydweithwyr.
  • Mae rhai cwmnïau hefyd yn annog staff i sefydlu eu rhwydweithiau cymorth anffurfiol eu hunain, gan gynnwys rhwydweithiau rhithiol gan ddefnyddio gwasanaethau e-bost a negeseuon.

Mwy o wybodaeth

Taflen ffeithiau hyfforddi a mentora [CIPD]

Cam Gweithredu Ychwanegol 2: Cynnwys hyfforddiant cydraddoldeb ymwybyddiaeth anabledd yn ein proses gynefino

Sicrhau bod staff newydd a phobl sy’n symud swyddi yn derbyn y lefel briodol o hyfforddiant cydraddoldeb anabledd, gan sicrhau eu bod yn gallu adnabod a chefnogi cydweithwyr ac aelodau tîm ag anableddau ac anghenion cymorth. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i staff sy’n cymryd cyfrifoldebau rheoli ar-lein.

Mwy o wybodaeth

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant [CIPD]

Cam Gweithredu Ychwanegol 3: Arwain staff i wybodaeth a chyngor ar gyflyrau iechyd

Mae llawer o wahanol anableddau a chyflyrau iechyd, ac mae pob un ohonynt yn dylanwadu ar sut y dylai sefydliad a rheolwr unigolyn ymateb i gefnogi gweithwyr yn y gweithle.

Gall arwain staff at wybodaeth am iechyd a lles yn y gweithle eu helpu i adnabod y symptomau a gwybod sut i gefnogi aelodau eu tîm a’u cydweithwyr.

Mae gwybodaeth am rai cyflyrau iechyd penodol ar gael yn y Canllaw Rheolwr CIPD Hyderus o ran Anabledd - Cefnogi Anableddau Penodol a Chyflyrau Iechyd Hirdymor yn y Gweithle. Am fwy o wybodaeth, gweler y dolenni isod.

Mwy o wybodaeth

Mae’r canlynol yn sefydliadau sy’n gallu darparu cefnogaeth a gwybodaeth am anableddau a chyflyrau iechyd:

Alzheimer’s / Dementia – Alzheimer’s Society

Arthritis – Versus Arthritis

Awtistiaeth – Autism Alliance UK, Autism Plus a’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Poen sy’n gysylltiedig â’r cefn – BackCare

Diabetes - Diabetes UK

Dyslecsia – Dyslexia Action a Chymdeithas Dyslecsia Prydain

Dyspracsia – Dyspraxia Foundation

Epilepsi – Epilepsy Action

Byddar a thrwm eu clyw – Action on Hearing Loss, British Deaf Association, Deaf Unity – Paratoi pobl fyddar ar gyfer llwyddiant, a UK Council on Deafness

Clefyd y galon – British Heart Foundation

Anableddau dysgu – British Institute of Learning Disabilities a Mencap

Iechyd meddwl – Meddwl, Rethink Mental Illness, a SANE

Sglerosis ymledol – Multiple Sclerosis Society

Nychdod cyhyrol – Muscular Dystrophy UK

Amhariad lleferydd – The British Stammering Association

Anafiadau asgwrn cefn – Spinal Injuries Association

Strôc – Cymdeithas Strôc

Amhariad ar y golwg – RNIB, Cyflogwyr - gwneud eich gweithle yn fwy hygyrch

Cam Gweithredu Ychwanegol 4: Darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol os oes angen

Gall gwasanaeth iechyd galwedigaethol ddarparu cymorth i weithwyr presennol sy’n datblygu amhariad/cyflwr neu’n profi problemau iechyd. Gellir gwneud hyn yn fewnol, er enghraifft trwy sesiynau iechyd galwedigaethol, neu gellid ei wneud trwy ddarparwr allanol. Efallai y bydd Mynediad at Waith yn gallu cynnig cyngor a chyfrannu at gostau hyn.

Mwy o wybodaeth

Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol y GIG

Mynediad at Waith

Cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr – GOV.UK

Cam Gweithredu Ychwanegol 5: Adnabod a rhannu arfer da

Manteision y gweithgaredd hwn yw:

  • Dangos arweinyddiaeth drwy rannu enghreifftiau o’ch gweithgareddau gyda’ch rhwydweithiau busnes a’r gymuned fusnes ehangach. Gallai hyn gefnogi eraill yn eu mentrau Hyderus o ran Anabledd.
  • Gall rhannu’r hyn rydych chi’n ei wneud yn dda yn gyhoeddus helpu i ddenu talent anabl y gallech fod wedi’i fethu fel arall.
  • Gall rhannu astudiaethau achos helpu i hybu morâl ac ysbrydoli gweithwyr presennol, gan feithrin diwylliant gweithle mwy cefnogol a chynhwysol.
  • Gall hefyd helpu i ddenu pobl anabl i wneud cais am swyddi gwag drwy:
    • Ddangos Ymrwymiad i Gynhwysiant: Mae arddangos enghreifftiau go iawn o gefnogaeth i weithwyr anabl yn tynnu sylw at ymroddiad eich sefydliad i greu amgylchedd gwaith cynhwysol.
    • Adeiladu Ymddiriedolaeth a Hygrededd: Gall darpar ymgeiswyr weld prawf diriaethol o’ch ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant, gan eu gwneud yn fwy tebygol o ymddiried yn eich sefydliad.
    • Annog Ceisiadau: Efallai y bydd ceiswyr gwaith anabl yn teimlo’n fwy hyderus yn gwneud cais i gwmni sydd â hanes profedig o gefnogi gweithwyr ag anableddau.
    • Gwella Brand Cyflogwr: Gall astudiaethau achos cadarnhaol wella eich enw da fel cyflogwr o ddewis ar gyfer unigolion anabl, gan ddenu cronfa dalent ehangach.
    • Addysgu a Chodi Ymwybyddiaeth: Gall y straeon hyn addysgu eraill am heriau a llwyddiannau gweithwyr anabl, gan hyrwyddo amgylchedd gwaith mwy deallgar a chefnogol.

Cam Gweithredu Ychwanegol 6: Darparu hyfforddiant penodol Hyderus o ran Anabledd i reolwyr adnoddau dynol, neu gydweithwyr sy’n cwblhau eich gweithgaredd adnoddau dynol.

Rhoi hyfforddiant penodol a pharhaus i reolwyr a phobl sy’n ymwneud ag adnoddau dynol (gan gynnwys unrhyw asiantaethau recriwtio sy’n gweithredu ar ran y sefydliad) i sicrhau bod y sefydliad yn dilyn yr arfer gorau cyfredol wrth gefnogi pobl anabl.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

I wneud cais am Lefel 2 Hyderus o ran Anabledd, bydd angen eich rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd, sydd ar eich tystysgrif, mae’n dechrau gyda DCS, ac yna chwe digid.  

  • Defnyddiwch y ffurflen statws Hyderus o ran Anabledd i wneud newidiadau i’ch aelodaeth.

  • Ar ôl rhoi eich rhif hyderus o ran anabledd anfonir e-bost at eich prif gyfeiriadau e-bost cyswllt ac amgen.

  • Cliciwch ar ddiweddaru eich manylion Hyderus o ran Anabledd. Bydd y ddolen hon yn dod i ben o fewn awr.

  • Yna gallwch gadarnhau manylion eich hunanasesiad.
  • Bydd gofyn i chi, yn ddewisol, gadarnhau a ydych yn cyflogi pobl anabl wrth lenwi’r ffurflen. Ar hyn o bryd nid oes gofyniad i gyflogi pobl anabl fel rhan o aelodaeth Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd (lefel 2).

  • Cliciwch ar y manylion i gyflwyno eich newidiadau.

  • Byddwn yn adolygu eich newidiadau ac yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau. Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost unwaith y bydd eich newidiadau wedi’u derbyn. Gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith.

Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd, anfonwch e-bost atom ar dwp.disabilityconfident@dwp.gov.uk.

Cofiwch – Mae eich templed tystiolaeth ar gyfer eich cofnodion ac nid oes angen ei anfon atom.

Yn gyfnewid byddwn yn anfon atoch chi:

  • e-bost cadarnhau
  • tystysgrif i gydnabod eich cyflawniad; a
  • Bathodyn Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd y gallwch ei ddefnyddio yn eich deunydd ysgrifennu a chyfathrebu busnes eich hun am y 3 blynedd nesaf.

Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn cynnwys eich enw busnes, eich tref a’ch statws DC (ar ba lefel rydych chi) mewn rhestr o’r holl fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ar ein gwefan DC.

Camau nesaf: Cynnydd ar eich Taith Hyderus o ran Anabledd

Er mwyn symud ymlaen ar eich taith Hyderus o ran Anabledd, rydym wedi darparu rhai camau cychwynnol i’ch helpu i gydymffurfio ag ymrwymiadau’ch cynllun a symud ymlaen i lefel nesaf y cynllun – Arweinydd Hyderus o ran Anabledd:

  • Adolygwch eich hunanasesiad hyderus o ran anabledd a diweddaru eich tystiolaeth yn erbyn pob un o’r disgrifyddion. Dylid gwneud hyn bob blwyddyn.
  • Ystyriwch ymgymryd â her ffrind fewnol neu feirniadol yn erbyn eich hunanasesiad a’ch parodrwydd i symud ymlaen i’r lefel nesaf.
  • Rhannwch enghreifftiau o astudiaethau achos o arfer gorau, yn enwedig o ran cyflogi pobl anabl gyda chyflogwyr a darparwyr eraill, gan eu hannog i ddechrau/symud ymlaen trwy eu taith Hyderus o ran Anabledd eu hunain.
  • Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, gan annog pob gweithiwr i gymryd rhan a dangos undod gyda’r Gymuned Anabl.
  • Ystyriwch y Fframwaith Adrodd Gwirfoddol a dechrau casglu data gweithlu anabledd.

Atodiad 1: Gwirio neu ddiweddaru eich manylion Hyderus o ran Anabledd

Mae’n bwysig cadw’ch manylion yn gyfredol a dweud wrthym os bydd unrhyw un o’ch manylion yn newid neu os ydych yn darganfod eu bod yn anghywir.

Gallwch adolygu a diweddaru gwybodaeth eich cyfrif (gan gynnwys darparu cysylltiadau ychwanegol) ac adolygu eich ymrwymiadau hyderus o ran anabledd.

Dylech roi gwybod i ni am newidiadau i’ch :

  • Cysylltiad a enwwyd.
  • Cyfeiriad e-bost.
  • Rhif ffôn.
  • Enw busnes.
  • Cyfeiriad busnes a chod post.

Dywedwch wrthym hefyd os yw’ch busnes wedi rhoi’r gorau i fasnachu.

Pryd i roi gwybod i ni am newid

Dylech wneud unrhyw newidiadau i’ch manylion cyn gynted ag y gallwch.

Pwy all wneud y newid

Dim ond gan y cyswllt busnes sylfaenol neu amgen sydd wedi’i gofrestru gyda’r cynllun y gellir gwneud newidiadau. Os nad ydych chi’n gwybod pwy oedd hynny neu os ydyn nhw wedi gadael y busnes, yna bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau isod o dan ffyrdd eraill o newid eich manylion.

Sut i wneud newid

I wneud newid, bydd angen eich rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd, sydd ar eich tystysgrif, mae’n dechrau gyda DCS, ac yna chwe digid.

  • Defnyddiwch y ffurflen diweddaru eich manylion Hyderus o ran Anabledd i wirio neu wneud newidiadau i’ch aelodaeth.
  • Ar ôl rhoi eich rhif hyderus o ran anabledd anfonir e-bost at eich prif gyfeiriadau e-bost cyswllt ac amgen.
  • Cliciwch ar ddiweddaru eich manylion Hyderus o ran Anabledd. Bydd y ddolen hon yn dod i ben o fewn awr.
  • Yna gallwch wirio’r manylion sydd gennym ar gyfer eich busnes.
  • Yna gallwch ddefnyddio’r dolenni newid i ddiweddaru eich manylion.
  • Cliciwch gadarnhau manylion i gyflwyno eich newidiadau.
  • Byddwn yn adolygu eich newidiadau ac yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau. Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau unwaith y bydd eich newidiadau wedi’u derbyn. Gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith.

Ffyrdd eraill o newid eich manylion

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen, nid ydych yn gwybod eich rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd neu fod angen i chi ddweud wrthym fod eich busnes yn uno neu’n rhoi’r gorau i fasnachu, gallwch rhoi gwybod am y newidiadau hyn trwy e-bostio disabilityconfident.scheme@dwp.gov.uk.

Rhowch fanylion am yr hyn sydd wedi newid. Er enghraifft, eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost newydd.

Er mwyn ein helpu i olrhain eich cofnodion, dylech gynnwys y canlynol yn yr e-bost eich:

  • Rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd, os ydych chi’n ei wybod (mae hyn yn dechrau gyda DCS0).
  • Enw busnes.
  • Cod post.