Cyfres gwiriadau cydymffurfio — CC/FS7A
Diweddarwyd 30 Ebrill 2025
Cosbau am anghywirdebau mewn Ffurflenni Treth a dogfennau
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi os ydych wedi anfon Ffurflen Dreth neu ddogfen arall atom sy’n cynnwys anghywirdeb. Mae’n un o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Bydd y swyddog yn eich helpu hyd eithaf ei allu. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio
Mae rhagor o wybodaeth a help ar gael ar-lein, gan gynnwys:
- cysylltiadau i’n cyfres fideo
- canllawiau cam wrth gam i’n gwiriadau cydymffurfio
Ewch i Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth.
Adegau pan y gallwn godi cosb arnoch am anghywirdeb
Gallwn godi cosb arnoch os byddwch yn anfon Ffurflen Dreth neu ddogfen arall atom sy’n cynnwys anghywirdeb, a bod yr anghywirdeb:
- yn arwain at dreth heb ei thalu, treth wedi’i thanddatgan neu’i gor-hawlio
- yn esgeulus, yn fwriadol neu’n fwriadol a chudd (rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘ymddygiadau’. Mae ‘ymddygiadau’ yn cael eu hesbonio nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon)
Os gofynnwch i rywun arall, fel cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes anghywirdeb yn codi. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.
Adegau pan na fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb os cymeroch ofal rhesymol i wneud yn siŵr eich bod yn cael popeth yn iawn, ond roedd eich Ffurflen Dreth neu ddogfen arall yn dal i fod yn anghywir. Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch ddangos eich bod wedi cymryd gofal rhesymol yn cynnwys y canlynol:
- cadw cofnodion cywir
- gwirio gydag ymgynghorydd treth neu gyda ni os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth
Datgelu anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo
Os ydych yn rhoi gwybod i ni am anghywirdeb cyn bod gennych reswm i gredu ein bod wedi dod o hyd iddo, neu ar fin dod o hyd iddo, rydym yn galw hynny’n ‘datgeliad heb ei annog’ Os ydych yn rhoi gwybod i ni am anghywirdeb ar unrhyw adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘datgeliad wedi’i annog’.
Unwaith yr ydym wedi cychwyn gwiriad, bydd datgeliad dim ond yn cael ei ystyried yn ‘datgeliad heb ei annog’ os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae’n ymwneud ag anghywirdeb amherthnasol
- nid oedd gennych reswm i gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad
Mae’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad wedi’i annog.
Os byddwch yn anfon Ffurflen Dreth neu ddogfen atom gan gredu ei bod yn gywir ac yn canfod yn ddiweddarach bod anghywirdeb diofal ynddi, efallai y gallwn ostwng swm y gosb i ddim, os byddwch yn gwneud datgeliad heb ei annog.
Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi
Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.
Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:
- dweud wrthym fod rhywbeth o’i le, neu gytuno bod rhywbeth o’i le, a sut a pham y digwyddodd
- dweud wrthym, gan roi cymaint o fanylion ag y gallwch, am yr hyn sydd o’i le, cyn gynted â’ch bod yn gwybod amdano
- ein helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
- ein helpu i ddeall eich cyfrifon neu’ch cofnodion
- ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
- ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
- ein helpu drwy wirio’ch cofnodion er mwyn canfod hyd a lled yr anghywirdeb
- ein helpu drwy ddefnyddio’ch cofnodion preifat i nodi gwerthiannau neu incwm sydd heb eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth
- rhoi’r gallu i ni gael mynediad at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
- rhoi’r gallu i ni gael mynediad at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld
Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os byddwch:
- yn dweud wrthym bopeth y gallwch ynghylch unrhyw anghywirdeb cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano neu os credwch ein bod ar fin dod o hyd iddo
- yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro
Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd y gostyngiad hwnnw yn llai.
Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ddweud, helpu a rhoi.
Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig
Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad ystyried amgylchiadau arbennig wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.
Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb
Mae 8 cam i’w cymryd wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.
1. Cyfrifo swm y PLR (y refeniw a gollwyd o bosibl)
Mae’r gosb yn ganran o’r PLR. PLR yw’r swm sy’n codi:
- o ganlyniad i anghywirdeb mewn Ffurflen Dreth neu ddogfen
- ad-daliad anghywir
- hawliad anghywir
Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn. Mae yna reolau gwahanol am gyfrifo’r PLR pan fo materion yn ymwneud â rhyddhad grŵp, colledion, ad-daliadau neu amseru cyfrifyddu yn arwain at dreth wedi’i hoedi. Os oes angen i chi wybod rhagor, cysylltwch â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad.
2. Pennu ein barn am yr ‘ymddygiad’
Pan fo anghywirdeb, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod beth wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb a swm y gosb. Mae 4 math gwahanol o ymddygiad.
Gofal rhesymol
Mae gan bawb gyfrifoldeb i gymryd gofal rhesymol am eu materion treth. Bydd yr hyn a gaiff ei ystyried yn ‘gofal rhesymol’ yn dibynnu ar allu ac amgylchiadau pob cwsmer.
Os oedd rhywbeth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a’i gwnaeth yn anodd i chi gymryd gofal rhesymol, dywedwch wrth y swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd rhoi gwybod i’r swyddog yn ei alluogi i gymryd hyn i ystyriaeth wrth ystyried a wnaethoch gymryd gofal rhesymol.
Os cymeroch ofal rhesymol i gael pethau’n iawn, ond roedd eich Ffurflen Dreth neu’ch dogfen yn dal i gynnwys anghywirdeb, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.
Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch gymryd gofal rhesymol yn cynnwys y canlynol:
- cadw digon o gofnodion i lenwi Ffurflenni Treth yn gywir
- cadw’r cofnodion hynny’n ddiogel
- gwirio gydag ymgynghorydd treth neu gyda ni os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, a dilyn unrhyw gyngor a roddir
Esgeulus
Dyma pan wnaethoch fethu â chymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn.
Bwriadol
Dyma pan oeddech yn gwybod bod Ffurflen Dreth neu ddogfen yn cynnwys anghywirdeb pan wnaethoch ei chyflwyno i ni. Mae enghreifftiau o anghywirdebau bwriadol yn cynnwys gwneud y canlynol yn fwriadol:
- gorddatgan eich treuliau busnes
- tanddatgan eich incwm
- talu cyflogau heb roi cyfrif am gyfraniadau Yswiriant Gwladol a Thalu Wrth Ennill
Anghywirdebau bwriadol a chudd
Dyma pan oeddech yn gwybod bod Ffurflen Dreth neu ddogfen yn cynnwys anghywirdeb a gwnaethoch gymryd camau i guddio’r anghywirdeb oddi wrthym, naill ai cyn neu ar ôl i chi ei hanfon atom. Un enghraifft o gymryd camau i guddio anghywirdeb yw creu anfoneb ffug ar gyfer prynu stoc nad yw’n bodoli.
3. Pennu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog
Mae hyn yn pennu canran isaf bosibl y gosb y gallwn ei chodi. Mae hyn yn cael ei esbonio’n fanylach yn yr adran ‘Datgelu anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo’ yn y daflen wybodaeth hon.
4. Penderfynu ar ystod y gosb
Mae canran y gosb yn syrthio i mewn i un o 6 ystod. Mae’r ystod y mae’n syrthio iddo’n dibynnu ar y math o ymddygiad, ac a oedd y datgeliad ‘wedi’i annog’ neu ‘heb ei annog’. Mae’r tabl canlynol yn dangos y 6 ystod cosb.
Math o ymddygiad | Datgeliad heb ei annog | Datgeliad wedi’i annog |
---|---|---|
Gofal rhesymol | Dim cosb | Dim cosb |
Esgeulus | 0% i 30% | 15% i 30% |
Bwriadol | 20% i 70% | 35% i 70% |
Bwriadol a chudd | 30% i 100% | 50% i 100% |
5. Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (y cyfeirir ato hefyd fel ‘dweud, helpu a rhoi’)
Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:
- dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
- helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
- rhoi mynediad at gofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%
Wrth ystyried ansawdd y datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir y mae wedi ei gymryd i chi ddatgelu’r anghywirdeb. Os yw wedi cymryd amser hir i chi (megis 3 blynedd neu fwy), i wneud datgeliad, byddwn fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a rown am ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canran yn uwch na lleiafswm y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.
6. Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb
Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.
Enghraifft
Daethom o hyd i anghywirdeb esgeulus nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am yr anghywirdeb, gwnaeth y cwsmer gytuno â ni. Roedd hwn yn ddatgeliad wedi’i annog.
Ystod y gosb am anghywirdeb esgeulus gyda datgeliad wedi’i annog yw 15% i 30% o’r PLR.
Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn 70%.
Camau | Enghraifft o gyfrifiad |
---|---|
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfradd ganrannol isaf ac uchaf y gosb. | 30% llai 15% = 15 |
Byddwn wedyn yn tynnu canran y gostyngiad o ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. | 15 × 70% = 10.5% |
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. | 30% llai 10.5% = 19.5% |
7. Cyfrifo swm y gosb
I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r PLR â chyfradd ganrannol y gosb. Yn yr enghraifft uchod, £3,000 yw’r PLR. Mae hyn yn golygu taw £585 yw’r gosb (£3,000 x 19.5% = £585).
8. Ystyried gostyngiadau eraill
Ar ôl cyfrifo swm y gosb, byddwn wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sy’n angenrheidiol. Mae hyn yn rhoi swm y gosb y byddwn yn ei chodi.
Sut y gallwn ohirio cosb
Gallwn ohirio cosb am anghywirdeb esgeulus os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydym yn gallu gosod amodau i’ch helpu i osgoi cosbau yn y dyfodol
- rydym o’r farn y gallwch fodloni’r amodau hyn
Gallwn ohirio cosb am hyd at 2 flynedd. Fel arfer, bydd y cyfnod gohirio mor fyr â phosibl er mwyn eich galluogi i fodloni’r amodau. Os byddwn yn gohirio’ch cosb, ni fydd yn rhaid i chi dalu os byddwch yn bodloni’r amodau, heblaw eich bod yn dod yn agored i gosb arall am anghywirdeb yn ystod y cyfnod gohirio.
Yn ystod y cyfnod gohirio, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydych yn anfon unrhyw Ffurflenni Treth eraill atom sy’n cynnwys anghywirdebau. Os gwnewch hyn, gallech fod yn agored i gosb arall am anghywirdeb yn ystod y cyfnod gohirio. Os ydych yn dod yn agored i gosb arall am anghywirdeb yn ystod y cyfnod gohirio, bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb a ohiriwyd yn flaenorol.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn i’w gweld yn ein taflen wybodaeth CC/FS10, ‘Gwiriadau cydymffurfio: Gohirio cosbau am wallau esgeulus mewn Ffurflenni Treth neu mewn dogfennau’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS10’. Ni allwn ohirio cosbau am unrhyw fath arall o ymddygiad.
Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb
Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.
Ar ôl cymryd i ystyriaeth yr hyn y gwnaethoch roi gwybod i ni amdano, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch
- eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd â’r dreth a’r llog
O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb os nad ydych yn ei thalu mewn pryd.
Adegau pan fydd yn rhaid i swyddog cwmni dalu rhan o gosb y cwmni, neu’r gosb gyfan, am anghywirdeb bwriadol
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i swyddog cwmni dalu rhan o gosb y cwmni, neu’r gosb gyfan, os yw’r gosb yn ddyledus o ganlyniad i’w weithredoedd ef, a bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’r swyddog cwmni wedi, neu wedi ceisio, elwa’n bersonol o anghywirdeb bwriadol
- mae’r cwmni’n fethdalwr, neu rydym o’r farn ei fod ar fin dod yn fethdalwr – hyd yn oed os na wnaeth y swyddog elwa’n bersonol o’r anghywirdeb bwriadol
Os bydd y cwmni’n talu’r gosb, ni fyddwn yn gofyn i’r swyddogion unigol ei thalu.
Mae swyddog cwmni yn gyfarwyddwr, cyfarwyddwr cysgodol, ysgrifennydd y cwmni neu reolwr y cwmni, neu’n aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
Os ydych wedi gwneud rhywbeth yn anghywir yn fwriadol
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
- cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Rheoli diffygdalwyr difrifol
Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS14, ‘Gwiriadau cydymffurfio: Rheoli diffygdalwyr difrifol’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS14’.
Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol
Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS13, ‘Gwiriadau cydymffurfio: Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS13’.
Os ydych yn anghytuno
Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘disagree with a tax decision or penalty’.
Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn berthnasol, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:
- os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylwn godi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â rhoi ateb
- mae faint o gymorth a rowch i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau yn fater i chi benderfynu yn ei gylch yn llwyr
- wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
- os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r cosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio
- mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
- mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol
Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn i’w gweld yn ein taflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS9’.
Y trethi a chyfnodau treth y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt
Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol ar gyfer y trethi canlynol o ran Ffurflenni Treth neu ddogfennau y dylai fod wedi’u hanfon atom ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009 ac sy’n ymwneud â chyfnod treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008:
-
Treth Enillion Cyfalaf
-
Cynllun y Diwydiant Adeiladu
-
Treth Gorfforaeth
-
Treth Incwm (gan gynnwys Hunanasesiad)
-
Yswiriant Gwladol Dosbarthiadau 1 a 4
-
Talu Wrth Ennill (TWE)
-
TAW
Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol ar gyfer y trethi canlynol o ran Ffurflenni Treth neu ddogfennau y dylai fod wedi’u hanfon atom ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010 ac sy’n ymwneud â chyfnod treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009:
-
Ardoll Agregau
-
Toll Teithwyr Awyr
-
Toll Alcohol
-
Toll Trwydded Peiriannau Diddanu (hyd at 31 Ionawr 2013)
-
Treth Cyflogres Banc
-
Toll Bingo
-
Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
-
Tollau Ecseis (Daliad a Symudiadau)
-
Toll Hapchwarae
-
Toll Olewau Hydrocarbon
-
Treth Etifeddiant
-
Treth Premiwm Yswiriant
-
Treth Dirlenwi
-
Toll y Loteri
-
Treth Refeniw Petroliwm
-
Toll Cronfa Fetio
-
Toll Hapchwarae o Bell
-
Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (o 6 Ebrill 2018 ymlaen)
-
Treth Dir y Tollau Stamp
-
Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
-
Treth Tybaco
Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol ar gyfer y trethi canlynol o ran Ffurflenni Treth neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r cyfnodau canlynol:
-
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer P11D(b) (Ffurflenni Treth ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2011 a blynyddoedd hwyrach)
-
Toll Peiriannau Hapchwarae (ar gyfer cyfnodau treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013)
-
Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ar gyfer cyfnodau treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2013)
-
Ardoll Brentisiaethau (ar gyfer blynyddoedd treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017)
-
Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2018)
-
Treth Gwasanaethau Digidol (ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020)
-
Treth Deunydd Pacio Plastig (ar gyfer cyfnodau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022)
Gwybodaeth ychwanegol
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.