Newyddion y Comisiwn Elusennau: Ebrill 2025
Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylw ar gyllid – paratowch ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd
I lawer o elusennau mae Ebrill yn ddechrau blwyddyn ariannol newydd, sy’n ei gwneud yn amser perffaith i gryfhau ac adolygu rheolaeth ariannol eich elusen.
Mae ein tudalen ‘Pecyn Cymorth Cyllid Ymddiriedolwyr’ newydd ei datblygu i’ch helpu i reoli cyllid eich elusen. Mae’n cynnwys amrywiaeth o ganllawiau’r Comisiwn Elusennau ac offeryn rhyngweithiol newydd i chi wirio pa ganllawiau all fod yn briodol ar gyfer anghenion eich elusen.
https://beingacharitytrustee.campaign.gov.uk/trustee-finance-toolkit
Ymgynghoriad ar newidiadau i reolau cyfrifyddu elusennau
Mae’r Comisiwn Elusennau a’i chwaer gyrff yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn nesaf fframwaith cyfrifyddu ac adrodd elusennau.
Y fframwaith hwn, a elwir yn Ddatganiad o Arferion Cymeradwy elusennau (SORP) yw’r safon sector ar gyfer cyfrifyddu ac adrodd ar gyfer elusennau sy’n gwmnïau neu sydd ag incwm o fwy na £250,000.
Mae’n sicrhau cysondeb a thryloywder ar draws y sector, gan wneud cyfrifon elusen yn gymaradwy, yn ddealladwy ac yn ddefnyddiol i roddwyr, buddiolwyr, a’r cyhoedd fel ei gilydd.
Mae wedi’i ddiweddaru yn dilyn proses ddatblygu helaeth wedi’i llywio gan farn partneriaid a Phwyllgor SORP sector penodol.
Mae’r rheolyddion bellach yn gwahodd sylwadau ar y drafft a bydd yr adborth yn helpu i lunio’r fersiwn derfynol, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn hydref 2025.
Rydym yn argymell bod yr elusennau hynny sy’n paratoi cyfrifon gan ddefnyddio’r SORP yn dechrau paratoi ar gyfer y newidiadau, y disgwylir iddynt ddod i rym ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau o 1 Ionawr 2026.
Rhybudd am lythyrau ac e-byst twyllodrus y Comisiwn
Mae’r Comisiwn yn rhybuddio elusennau i fod yn wyliadwrus ar ôl derbyn adroddiadau am negeseuon twyllodrus a anfonwyd at elusennau ac ymddiriedolwyr ar gam gan ddefnyddio ein henw.
Mae’r negeseuon hyn fel arfer yn gofyn am gamau gweithredu megis tynnu ymddiriedolwr neu brif weithredwr o’i swydd, rhyddhau arian fel rhan o grant, neu gyflenwi dogfennau fel pasbort neu fil cyfleustodau. Gellir eu llofnodi fel rhai sy’n dod oddi wrth ‘y Comisiwn’, y Prif Swyddog Gweithredol a/neu ei Gyfarwyddwyr.
Rydym wedi llunio canllaw byr i helpu elusennau i wahaniaethu rhwng gohebiaeth sy’n real neu’n ffug. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni.
Ffeilio eich ffurflen flynyddol – nodyn atgoffa
Atgoffir elusennau cofrestredig yng Nghymru neu Loegr fod yn rhaid iddynt anfon ffurflen flynyddol i’r Comisiwn Elusennau neu adrodd ar eu hincwm a’u gwariant bob blwyddyn.
Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen flynyddol o fewn 10 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol.
Er enghraifft, os mai 31 Rhagfyr 2024 oedd diwedd eich blwyddyn ariannol, eich dyddiad cau yw 31 Hydref.
https://www.gov.uk/guidance/prepare-a-charity-annual-return
Nodyn atgoffa CThEF i wirio statws treth staff asiantaeth
Mae CThEF yn atgoffa elusennau mai nhw sy’n gyfrifol am bennu statws treth gweithwyr sy’n cael eu talu drwy asiantaethau neu gwmnïau gwasanaeth eraill.
Mae’n bwysig bod statws cyflogaeth pob gweithiwr yn cael ei ystyried yn llawn fel bod eich elusen a’ch gweithwyr yn talu’r dreth a’r yswiriant gwladol cywir.
Gwiriwch eich bod yn cael statws cyflogaeth yn iawn ar gyfer eich holl weithwyr drwy fynd i GOV.UK a chwilio ‘statws cyflogaeth’.
Defnyddiwch offeryn ar-lein CThEF i Wirio Statws Cyflogaeth ar gyfer Treth (CEST) i sicrhau eich bod yn gwneud pethau’n iawn.
https://www.gov.uk/guidance/check-employment-status-for-tax
Newidiadau ailgylchu ar gyfer elusennau
Daeth rheolau newydd i wneud ailgylchu yn haws i bobl yn Lloegr i rym ar Fawrth 31.
Mae Ailgylchu Symlach yn galluogi casgliadau cyson, symlach o bob cartref, busnes ac eiddo annomestig perthnasol megis elusennau, ysgolion ac ysbytai. Bydd y rhain yn effeithio ar elusennau yn Lloegr sydd â 10 neu fwy o weithwyr.
https://www.gov.uk/guidance/simpler-recycling-workplace-recycling-in-england