Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Rhifyn 65

Cyhoeddwyd 5 November 2020

Yn berthnasol i England and Gymru

Canllawiau hawdd eu defnyddio newydd ar gyfer ymddiriedolwyr

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau hawdd eu defnyddio ar gyfer ymddiriedolwyr. Wedi’u lansio yn ystod Wythnos Ymddiriedolwyr 2020, mae’r pum canllaw pum-munud newydd yn cynnwys ‘maes llafur craidd’ o wybodaeth sylfaenol a fydd yn helpu ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau’n effeithiol. Ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg, maent yn esbonio hanfodion:

Mae llywodraethu da wrth wraidd cyflawni dibenion eich elusen i’r safonau uchel a ddisgwylir gan y cyhoedd. Darllenwch fwy mewn blog gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Helen Stephenson am y rôl hanfodol sydd gan ymddiriedolwyr a sut rydym yn eu helpu i ymdopi â’r rheolau: Yr #Wythnos Ymddiriedolwyr hon ‘cymerwch 5’ i ddarllen ein canllawiau hawdd a chyflym newydd.

Arweiniad ynghylch coronafeirws (COVID-19) ar gyfer elusennau

Gwyddom fod y pandemig yn parhau i gael effaith sylweddol ar wasanaethau ac incwm elusennau.

Mae ein dull ynghylch rheoleiddio yn ystod y cyfnod ansicr hwn wedi bod mor hyblyg a phragmatig â phosibl.

Mae ein harweiniad a ddiweddarir yn rheolaidd yn cynnwys atebion i’r cwestiynau a ofynnir yn fwyaf aml.

Darllenwch Arweiniad ynghylch Coronafeirws (COVID-19) ar gyfer y sector elusennau.

Ein Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol (APM)

Yn y cyfarfod cyhoeddus blynyddol adroddom am ein gwaith yn ystod y flwyddyn a aeth heibio a rhoddom ddiweddariad ynghylch sut rydym yn cyflwyno cefnogaeth a gwasanaethau trwy’r pandemig presennol.

Prif araith

Defnyddiodd ein cadeirydd, Tina Stowell, ei phrif araith i amlygu’r gwersi gan COVID-19 a pham eu bod yn allweddol i gadw cefnogaeth y cyhoedd ac adeiladu sector elusennol cryfach ar gyfer y dyfodol.

Charity Commission Chair, keynote speech.

Recordiad llawn o’r Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol

Oherwydd y pandemig roedd cyfarfod eleni yn ddigwyddiad rhithiol a oedd yn agored i bob aelod o’r cyhoedd a chynrychiolwyr elusennau. Os na wrandawoch ar y recordiad mae nawr ar gael ar YouTube.

Charity Commission Annual Public Meeting recording.

Ymwybyddiaeth o dwyll elusennau

Fel pob sector, gall elusennau fod yn agored i dwyll a seiberdroseddu. Gall y rhai sy’n darparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i gymunedau lleol yn ystod y pandemig fod yn arbennig o agored i niwed.

Ym mis Hydref cynhaliom ymgyrch ymwybyddiaeth o dwyll gyda’r nod o annog a galluogi elusennau i siarad am dwyll a rhannu arfer gorau.

Mae’r adnoddau a gweminarau rhad ac am ddim i gyd yn parhau ar gael i’ch helpu i atal twyll. Gweler wythnos ymwybyddiaeth o dwyll elusennau 2020.

Cofrestr newydd o elusennau

Ym mis Medi 2020 lansiom gofrestr ar-lein well o elusennau.

Ein huchelgais ar gyfer y gofrestr newydd yw ei bod yn cael ei defnyddio’n ehangach yn gynyddol i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am yr elusennau maent yn eu cefnogi.

Mae’r gofrestr newydd yn dangos gwybodaeth am elusennau’n fwy eglur, a bydd yn cael ei diweddaru’n barhaus yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr. Gall ymddiriedolwyr elusennau wirio a diweddaru’u gwybodaeth yn rhwydd gan ddilyn dolenni ar y gofrestr.

Darllenwch y blog gan Helen Stephenson, ein Prif Weithredwr, cofrestr elusennau ar-lein – newydd ac yn gwella.

Y DU a phontio’r UE

Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio’n dod i ben eleni. Gwiriwch y rheolau newydd o fis Ionawr 2021 i sicrhau eich bod yn barod. Dyma’r hyn sydd angen i chi ei wneud os yw eich elusen yn:

Mae hefyd ystod o ganllawiau ar gyfer sectorau DCMS ar GOV.UK.

Sut i gael help i adfywio eich cronfeydd elusen

Mae’r rhaglen ‘Adfywio Ymddiriedolaethau’ yn cefnogi elusennau sy’n ei chael hi’n anodd gwario eu hincwm ar fudd y cyhoedd i naill ai gau neu adfywio eu helusen. Dylai ymddiriedolwyr elusennau drafod dyfodol eu helusen os bydd yn anodd:

  • cael ymddiriedolwyr newydd
  • gwario eu hincwm
  • nodi buddiolwyr
  • neilltuo amser i redeg yr elusen

Dysgwch sut i gael help ar gyfer eich elusen gan raglen yr Ymddiriedolaethau Adfywio.

Cadw mewn cysylltiad â ni

Ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 066 9197. Rydym ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 5pm.

Cofrestru ar gyfer rhybuddion e-bost GOV.UK yw’r ffordd symlaf i wybod y diweddaraf am y newyddion y byddwn yn eu cyhoeddi ar ein gwefan. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad pwrpasol.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i’n dilyn trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Twitter a LinkedIn.