Canslo nwyddau neu wasanaethau
Cyhoeddwyd 2 Mawrth 2016
A ydych chi’n ddefnyddiwr sydd wedi:
- Cytuno i brynu nwyddau neu wasanaethau, ond wedi newid eich meddwl neu’n methu bwrw ymlaen â’r contract?
- Wedi cael cais i dalu tâl canslo i’r busnes, ond eisiau herio’r swm?
- Wedi colli eich blaendal neu daliadau o flaen llaw, ac eisiau eu cael yn ôl gan y busnes?
Efallai y bydd y busnes yn gofyn am fwy o arian nag y mae ganddo hawl iddo. Dim ond oherwydd ei fod yn y contract, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu ei fod yn eich rhwymo’n gyfreithiol. Ni all busnesau ddibynnu ar amodau annheg. Gwiriwch eich hawliau defnyddwyr.
Efallai y bydd cyfraith defnyddwyr yn gallu’ch helpu
Peidiwch â dim ond derbyn y gall y busnes gadw eich blaendal a thaliadau o flaen llaw neu ofyn i chi dalu tâl canslo os ydych chi’n canslo’r cytundeb.
Dim ond os yw amod y contract yn deg y gall y busnes wneud hyn.
Dydy tâl canslo ddim yn deg dim ond am ei fod yn y contract a lofnodoch – mae angen iddo fod yn rhesymol.
Weithiau bydd gennych chi hawl i ad-daliad llawn neu rannol – ond allwch chi ddim disgwyl cael eich arian i gyd yn ôl pob tro os byddwch yn newid eich meddwl.
Gall busnesau gadw eich blaendal neu daliadau o flaen llaw, neu ofyn i chi dalu tâl canslo dan amgylchiadau penodol yn unig
Os byddwch chi’n canslo’r contract, yn gyffredinol does gan y busnes ddim ond hawl i gadw neu dderbyn swm digonol i dalu gwir golledion sy’n deillio’n uniongyrchol o ganslo (e.e. costau sydd eisoes wedi codi neu golled elw).
Rhaid i fusnesau gymryd camau rhesymol i leihau eu colledion (e.e. trwy ailwerthu’r nwyddau neu wasanaethau).
Dylai blaendaliadau nad ydynt yn ad-daladwy fod yn ganran fechan o’r pris yn unig.
Rhaid i daliadau canslo fod yn amcangyfrif dilys o golled uniongyrchol y busnes.
Cysylltwch â’r busnes
Os oes gennych bryderon, yn gyntaf gofynnwch i’r busnes esbonio sut wnaethant gyfrifo’r swm maent yn ei gadw neu’n ei godi arnoch am ganslo’r contract.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i gyfarwyddo’ch hun gyda’n cyngor i fusnesau.
Am wybodaeth neu gyngor
Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (03454 04 05 06) am gyngor ar beth i’w wneud.
Dewch o hyd i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf ar www.citizensadvice.org.uk (Cymru a Lloegr) neu www.cas.org.uk (yn yr Alban).
Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Consumerline ar 0300 123 626.
Nid yw’r deunyddiau hyn yn cymryd lle cyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am amodau annheg ar dudalennau gwe’r CMA.