Sut i anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol
Diweddarwyd 7 Ebrill 2025
Rhagarweiniad
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gynhyrchu ac anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr at CThEF os ydych chi’n defnyddio Offer TWE Sylfaenol i redeg y gyflogres.
Bydd hefyd yn eich helpu i ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol i anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr os ydych chi’n gyflogwr, gydag unrhyw nifer o gyflogeion, os nad yw’ch meddalwedd fasnachol y gyflogres yn cynnwys yr opsiwn hwn.
Defnyddiwch Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr i wneud y canlynol:
- hawlio gostyngiad yn y swm sydd angen i chi ei dalu i CThEF
- lleihau’r symiau a ddangosir ar Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr blaenorol
- rhoi gwybod i CThEF nad ydych wedi gwneud unrhyw daliadau i’r holl cyflogeion yn ystod mis treth (y cyfnod o’r 6ed o fis i’r 5ed o’r mis nesaf)
- anfon eich cyflwyniad cyflogres derfynol ar gyfer y flwyddyn dreth (os na wnaethoch anfon Cyflwyniad Taliadau Llawn derfynol)
- hawlio Lwfans Cyflogaeth i ostwng eich rhwymedigaeth flynyddol o ran Yswiriant Gwladol
- cyfrifo’ch Ardoll Brentisiaethau
Dysgwch ragor am adrodd i CThEF gan ddefnyddio Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn i chi ddechrau
Cyn defnyddio’r canllaw hwn mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cofrestru fel cyflogwr gyda CThEF
- ymrestru ar gyfer TWE ar-lein i gyflogwyr
- lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol
- gosod a sefydlu Offer TWE Sylfaenol
- ychwanegu manylion y cyflogwr
Gwiriwch eich bod yn defnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r Offer drwy ddewis y canlynol:
- Gosodiadau ar yr offeryn
- Diweddaru o’r ddewislen
- y botwm ‘Chwilio nawr’
Mae’r gosodiad diofyn ar gyfer diweddariadau awtomatig yw ‘Iawn’ pan fyddwch chi’n gosod Offer TWE Sylfaenol am y tro cyntaf. Rydym yn argymell cadw’r gosodiad hwn i gael y diweddariadau diweddaraf.
Os ydych yn wynebu anawsterau wrth lawrlwytho neu agor Offer TWE Sylfaenol, gwiriwch argaeledd y gwasanaeth ac a oes unrhyw broblemau ynghylch y gwasanaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Actifadu’r flwyddyn dreth newydd
Ar ôl i chi ddechrau defnyddio Offer TWE Sylfaenol, mae angen i chi actifadu pob blwyddyn dreth newydd cyn i chi gyflawni tasgau ar gyfer y flwyddyn. Byddwch yn dal i allu gweld gwybodaeth o flynyddoedd blaenorol.
Os ydych chi’n gwneud unrhyw newidiadau i’r blynyddoedd blaenorol ar ôl actifadu’r flwyddyn newydd, mae angen i chi ddiweddaru’r wybodaeth hon â llaw cyn nodi manylion talu ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.
- Gwiriwch eich bod wedi gwneud diweddariadau i Offer TWE Sylfaenol ar gyfer y flwyddyn dreth newydd.
- Ar yr hafan, dewiswch y cyflogwr cywir o’r rhestr cyflogwyr yn y ddewislen. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
- Dewiswch y flwyddyn dreth newydd.
- Dilynwch y camau i actifadu’r flwyddyn dreth newydd.
Dewis y cyflogai a’r flwyddyn dreth gywir
Dilynwch y camau hyn i sefydlu Offer TWE Sylfaenol i anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.
- Ar yr hafan, dewiswch y cyflogwr cywir o’r rhestr cyflogwyr. Bydd hyn yn mynd â chi i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
- Dewiswch y flwyddyn dreth sy’n berthnasol i’ch tasg.
Hawlio gostyngiad yn y swm sydd angen i chi ei dalu i CThEF
Mae angen i chi hawlio gostyngiad ar ôl gwneud yr holl daliadau cyflogai ar gyfer y mis treth, a chyn y 19eg o’r mis canlynol.
Efallai y bydd modd i chi leihau’r swm sy’n daladwy i CThEF ar gyfer y canlynol:
- Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
- Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP)
- Tâl Tadolaeth Statudol (SPP)
- Tâl ar y Cyd i Rieni (ShPP)
- Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP)
- Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (SNCP)
- Didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) a gymerwyd o’ch taliadau, os yw’ch busnes yn gwmni cyfyngedig ac yn gweithredu fel is-gontractwr
Cyfrifo’r symiau y gallwch ei adennill ar gyfer y mis treth
Os gwnaethoch dalu unrhyw daliadau SMP, SAP, SPP, ShPP, SPBP neu SNCP i gyflogeion yn ystod y mis treth, gallwch gyfrifo faint o’r taliad statudol y gallwch ei adennill (a gelwir yn symiau adenilladwy) a hefyd, swm unrhyw iawndal ar gyfer y mis treth.
Mae mis treth yn cwmpasu’r cyfnod o’r 6ed o un mis i’r 5ed o’r mis nesaf.
Ar ôl dewis y cyflogwr a’r flwyddyn dreth gywir, cyfrifwch y symiau adennill ar gyfer y mis treth.
- Dewiswch Cyfrifianellau ar unrhyw dudalen.
- Dewiswch y cyfrifiannell perthnasol i gyfrifo symiau adenilladwy.
- Gwnewch nodyn o unrhyw symiau.
Nodi symiau adenilladwy
Ar ôl cyfrifo’r symiau adenilladwy, mae angen i chi nodi’r symiau hyn yn yr Offer TWE Sylfaenol.
- Ar y dudalen ‘Trosolwg o’r Cyflogwr’, dewiswch y cysylltiad Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy o’r ddewislen.
- Dewiswch y cysylltiad Ychwanegu swm adenilladwy o’r ddewislen.
- Nodwch y diwrnod olaf yn ystod y mis treth y gwnaethoch dalu eich cyflogeion yn y maes ‘Dyddiad adennill’. Mae’n rhaid i’r dyddiad hwn fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiadau adennill blaenorol rydych chi wedi’u hanfon at CThEF.
- Nodwch y cyfanswm o bob swm adenilladwy ar gyfer y mis treth yn y meysydd cywir.
- Nodwch unrhyw ddidyniadau CIS a ddioddefwyd fel cwmni cyfyngedig sy’n gweithredu fel is-gontractwr. Peidiwch â rhoi unrhyw ddidyniadau a wneir gan eich is-gontractwyr.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’.
Os oes angen i chi newid symiau adenilladwy
- Ar y dudalen ‘Trosolwg o’r Cyflogwr’, dewiswch y cysylltiad Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy o’r ddewislen.
- Dewiswch Newid ar bwys y mis treth cywir.
- Nodwch y symiau cywir.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr a symiau adenilladwy’.
Anfon eich hawliad ar gyfer gostyngiadau at CThEF
Mae angen i chi anfon y Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr at CThEF i hawlio rhyddhad am y symiau adenilladwy.
Bydd hyn yn ein hatal rhag disgwyl i chi dalu swm llawn y didyniadau (treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a didyniadau benthyciad myfyriwr) a ddangosir ar y Cyflwyniad Taliadau Llawn.
- Ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’, dewiswch Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu gwneud o’r ddewislen i fynd i’r dudalen ‘Manylion cyflwyniad heb ei wneud’.
- Dewiswch Anfon pob cyflwyniad sydd heb ei wneud o’r ddewislen.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Dilysu cyflwyniad’.
- Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Statws y cyflwyniad’, a bydd y dudalen, ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’, yn dilyn honno.
Os byddwch yn cyflwyno Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr ar ôl y 19eg o’r mis, ni fydd yn cael ei ystyried am y cyfnod hwnnw, a bydd yn rhaid i chi dalu’r swm llawn sy’n ddyledus o’ch Cyflwyniad Taliadau Llawn.
Pan fydd y Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr yn dod i law, bydd yn cael ei ystyried yn erbyn y cyfnod nesaf.
Rhoi gwybod i CThEF na wnaethoch dalu unrhyw gyflogeion yn ystod mis treth cyfan
Os nad ydych yn talu unrhyw gyflogeion yn ystod mis treth cyfan, mae angen i chi roi gwybod i CThEF drwy anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.
Mae hyn yn disodli’r ‘Dim slip talu’.
Gallwch roi gwybod am unrhyw daliadau na wnaed i gyflogeion ar gyfer y canlynol:
- y mis treth sydd newydd ddod i ben
- y mis treth presennol
- un mis treth gyfan neu fwy yn y dyfodol, hyd at uchafswm o 6 mis, ond mae’n rhaid i’r dyddiad dechrau fod yn ddyddiad cyntaf y mis treth nesaf
Er enghraifft, ar 15 Tachwedd, gallwch gyflwyno Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr heb unrhyw daliadau cyflogai ar gyfer y cyfnod 6 Rhagfyr i 5 Ionawr, neu 6 Rhagfyr i 5 Chwefror. Ni allwch gyflwyno Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr ar gyfer dim taliadau i gyflogai ar gyfer y cyfnod, 6 Ionawr i 5 Chwefror.
Ar ôl dewis cyflogwr a’r flwyddyn dreth gywir yn yr Offer TWE Sylfaenol, dilynwch y camau canlynol yn yr Offer TWE Sylfaenol i gynhyrchu Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr heb unrhyw daliadau i gyflogai yn ystod y mis treth.
- Ar y dudalen ‘Manylion y Cyflogwr’, dewiswch Cyfnodau heb unrhyw daliadau i gyflogeion o’r ddewislen.
- Dewiswch Ychwanegu cyfnod heb unrhyw daliadau i gyflogeion o’r ddewislen.
- Nodwch ddyddiadau dechrau a gorffen y cynlluniau o’r misoedd treth perthnasol.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Cyfnodau heb unrhyw daliadau i gyflogeion’ sydd wedi’i ddiweddaru.
Anfon eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr heb unrhyw daliadau i gyflogeion at CThEF
Mae’n rhaid i chi anfon y Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr hwn at CThEF erbyn y 19eg o’r mis ar ôl diwedd y mis treth presennol.
Os na fyddwch yn anfon hwn ar amser, byddwn yn disgwyl Cyflwyniad Taliadau Llawn, ac efallai y byddwn yn anfon gorchymyn atoch am swm amcangyfrifedig yn seiliedig ar eich taliadau neu ffurflenni blaenorol.
- Ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’, dewiswch Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu gwneud o’r ddewislen i fynd i’r dudalen ‘Manylion cyflwyniad heb ei wneud’.
- Dewiswch Anfon pob cyflwyniad sydd heb ei wneud o’r ddewislen.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Dilysu cyflwyniad’.
- Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Statws y cyflwyniad’, a bydd y dudalen, ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’, yn dilyn honno.
Anfon eich cyflwyniad cyflogres derfynol ar gyfer y flwyddyn dreth
Anfonwch Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr yn hytrach na Chyflwyniad Taliadau Llawn os ydych chi’n anfon eich cyflwyniad cyflogres derfynol ar ôl 19 Ebrill a bod un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- wedi anfon dewis ‘Iawn’ yn y maes ‘Cyflwyniad terfynol ar gyfer blwyddyn’ yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn
- ni wnaethoch dalu unrhyw un yn ystod cyfnod cyflog terfynol y flwyddyn dreth
Ar ôl dewis y cyflogwr a’r flwyddyn dreth gywir, cymerwch y camau canlynol i greu eich cyflwyniad terfynol.
- Dewiswch Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth o’r ddewislen ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
- Dewiswch Cwblhau manylion y cyflwyniad ar gyfer y flwyddyn dreth.
- Dewiswch y blwch.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth’.
Anfon eich cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth at CThEF
Mae’n rhaid i chi anfon eich cyflwyniad terfynol erbyn 19 Ebrill bob blwyddyn.
- Ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’, dewiswch Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu gwneud o’r ddewislen i fynd i’r dudalen ‘Manylion cyflwyniad heb ei wneud’.
- Dewiswch Anfon pob cyflwyniad sydd heb ei wneud o’r ddewislen.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Dilysu cyflwyniad’.
- Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Statws y cyflwyniad’, a bydd y dudalen, ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’, yn dilyn honno.
Hawlio Lwfans Cyflogaeth
Bob blwyddyn gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Bydd angen i chi diweddaru Offer TWE Sylfaenol i gyflwyno’ch hawliad gan nad yw’r lwfans hwn yn adnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn.
- Dewiswch Lwfans Cyflogaeth o’r ddewislen ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
- Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon a’r canllawiau cysylltiedig i wirio eich bod yn gymwys.
- Dewiswch Nesaf i ateb cwestiynau ynglŷn â’ch hawliad.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Adolygu’r Lwfans Cyflogaeth’ i wirio’ch atebion.
- Dewiswch Cwblhau i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Manylion y cyflogwr’ sydd wedi’i ddiweddaru.
Anfon eich hawliad Lwfans Cyflogaeth at CThEF
Gallwch hawlio ar unrhyw adeg yn y flwyddyn dreth, ond po gynharaf y byddwch chi’n hawlio, y cynharaf y byddwch chi’n cael y lwfans.
- Ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’, dewiswch Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu gwneud o’r ddewislen i fynd i’r dudalen ‘Manylion cyflwyniad heb ei wneud’.
- Dewiswch Anfon pob cyflwyniad sydd heb ei wneud o’r ddewislen.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Dilysu cyflwyniad’.
- Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen, ‘Statws y cyflwyniad’, a bydd y dudalen, ‘Canlyniadau’r cyflwyniad’, yn dilyn honno.
Cyfrifo ac adrodd Ardoll Brentisiaethau
Dysgwch a oes angen i adrodd a thalu Ardoll Brentisiaethau.
Gallwch gyfrifo Ardoll Brentisiaethau gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.
- Dewiswch Cyfrifiannell lwfans cyflogaeth o’r ddewislen ar y dudalen ‘Manylion y cyflogwr’.
- Dewiswch ‘Iawn’ neu ‘Na’ pan ofynnir i chi a ydych am ddyrannu swm llawn yr Ardoll Brentisiaethau i’r cynllun. Os ydych yn dewis ‘Na’, nodwch swm blynyddol y lwfans Ardoll Brentisiaethau.
- Dewiswch Nesaf i fynd i’r dudalen ‘Rheoli’r Ardoll Brentisiaethau’.
- Dewiswch Ychwanegu cyfrifiad Ardoll Brentisiaethau am y cyfnod o’r ddewislen.
- Dewiswch y cyfnod treth o’r cwymplen.
- Nodwch gyfanswm y bil cyflog ar gyfer y cyfnod hwn.
- Dewiswch Nesaf i fynd yn ôl i’r dudalen ‘Rheoli’r Ardoll Prentisiaethau’. Gallwch hefyd newid y symiau a newid neu ddileu cofnodion unigol ar y dudalen hon.
- Dewiswch Bwrw golwg ar adroddiad blynyddol yr Ardoll Brentisiaethau o’r ddewislen i weld manylion yr Ardoll Brentisiaethau a gofnodwyd hyd yma ar gyfer y flwyddyn dreth.
Anfon eich adrodd Ardoll Brentisiaethau at CThEF
Mae angen i chi adrodd eich Ardoll Brentisiaethau bob mis gan ddefnyddio eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.