Gwneud cais i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall: Ffurflen COP1
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am orchymyn y Llys Gwarchod, sy’n galluogi pobl i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall ynghylch materion ariannol a lles.
Dogfennau
Manylion
Darllenwch y nodiadau canllaw ar waelod y ffurflen cyn i chi ei llenwi.
Darllenwch fwy am gwneud penderfyniadau ar ran rhywun, gan gynnwys y ffurflenni sydd angen i chi eu llenwi pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn ddirprwy.
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.