Sut i wneud cais am brofiant drwy'r post os nad oes ewyllys
Diweddarwyd 27 Chwefror 2025
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais i fod yn weinyddwr yr ystad os mai chi yw’r etifeddwr sydd â’r hawl mwyaf, defnyddiwch y cyfrifiannell etifeddiaeth hwn i weithio sydd â’r hawl fwyaf.
Gallwch hefyd wneud cais fel ymarferydd profiant ar ran y gweinyddwr.
Ni allwch wneud cais os mai chi oedd partner y sawl a fu farw ond nad oeddech yn briod neu’n bartner sifil iddynt pan fuont farw. Nid oes gennych hawl awtomatig i unrhyw ran o’r ystad, oni bai eich bod yn gallu gwneud newidiadau i’r etifeddiaeth.
Gwneud cais fel gweinyddwr heb ymarferydd profiant
Os bu i’r ymadawedig farw cyn 1 Ionawr 2022
Lawrlwythwch y ‘ffurflen i ymgeiswyr sy’n ddinasyddion yn unig’ i wneud cais drwy’r post.
Os bu farw’r ymadawedig ar ôl 1 Ionawr 2022 ond gwnaethoch lenwi ffurflenni treth etifeddiant IHT400 ac IHT421 neu IHT207
Os gwnaethoch lenwi ffurflenni treth etifeddiant oherwydd bod treth etifeddiant yn ddyledus neu oherwydd bod yr ystad yn ystad eithriedig ond bod yr ymadawedig wedi marw dramor, lawrlwythwch y ffurflen ‘ymgeiswyr sy’n ddinasyddion yn unig’ i wneud cais drwy’r post.
Os bu farw’r ymadawedig ar ôl 1 Ionawr 2022 a bod yr ystad yn ystad eithriedig
Lawrlwythwch y ‘ffurflen i ymgeiswyr sy’n ddinasyddion gydag ystad eithriedig yn unig’ i wneud cais drwy’r post
Fel arall, gallwch wneud cais am brofiant ar-lein.
Defnyddiwch y canllaw hwn i’ch helpu i wneud cais am brofiant heb gymorth gan ymarferydd profiant.
Gwneud cais fel ymarferydd profiant
Lawrlwythwch y ‘ffurflen i ymgeiswyr sy’n ymarferwyr profiant yn unig’ i wneud cais drwy’r post. Fel arall, gallwch wneud cais ar-lein os oes gennych chi neu’ch practis gyfrif MyHMCTS.
Penderfynu pwy sy’n etifeddu
Y gyfraith fydd yn penderfynu pwy sy’n etifeddu’r ystad os nad oes ewyllys. Penderfynu pwy sy’n etifeddu.
Cyn ichi wneud cais
Bydd arnoch angen:
- dweud wrth HMRC beth yw gwerth ystad yr unigolyn sydd wedi marw, a
- thalu unrhyw dreth etifeddiaeth sydd angen ei dalu
Sut i wneud cais
I wneud cais am lythyrau gweinyddu:
-
Lawrlwythwch y ffurflen bapur cywir.
-
Llenwch bob rhan sy’n berthnasol.
-
Argraffwch y ffurflen.
-
Llofnodwch a dyddiwch y cais.
-
Dylech gynnwys siec gyda’ch cais (gweler Sut i dalu).
-
Dychwelwch eich ffurflen ar ôl ei llenwi ac unrhyw ddogfennau atodol i:
Gwasanaeth Profiant GLlTEM
PO Box 12625
Harlow
CM20 9QE
Sut i dalu
Mae’n rhaid i chi dalu drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’ gyda’ch dogfennau.
Pa mor hir fydd yn ei gymryd
Gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu eich cais os nad oes unrhyw oedi o ran derbyn eich dogfennau.
Cysylltwch â ni
Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 12 wythnos neu os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu ni.
Llinell gymorth profiant
0300 303 0648
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 1pm