Ffurflen

Gwneud cais am drawsgrifiad o sylwadau dedfrydu barnwr

Defnyddiwch y ffurflen hon i ofyn am gofnod ysgrifenedig (a elwir yn drawsgrifiad) rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu barnwr mewn achos lladdiad neu drosedd rhywiol difrifol yn Llys y Goron.

Dogfennau

Gwneud cais am drawsgrifiad am ddim o sylwadau dedfrydu’r barnwr: EX107H

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch gael copi rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu barnwr os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn aelod o deulu dioddefwr lladdiad (llofruddiaeth, dynladdiad neu droseddau achosi marwolaeth ar y ffyrdd, fel gyrru’n beryglus) neu
  • rydych yn ddioddefwr trais rhywiol neu droseddau rhywiol difrifol a
  • cafwyd y diffynnydd yn euog neu ei fod wedi pledio’n euog ac fe’i ddedfrydwyd gan farnwr Llys y Goron

Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am gopi rhad ac am ddim o sylwadau dedfrydu’r barnwr, neu os ydych eisiau trawsgrifiad llys hwy, gallwch wneud cais trwy ddefnyddio Ffurflen EX107. Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori. 

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Awst 2024 show all updates
  1. Added a Welsh version of the page

  2. Added a Welsh version of the form.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon