Arweinydd Archwilio Cwynion

Mandy Fields

Bywgraffiad

Penodwyd Mandy yn Rheolwr Busnes, sef uwch arweinydd y Grŵp Trawsnewid a Rheoli Busnes (BMTG), ym mis Chwefror 2021.

Ymunodd Mandy â BMTG yn 2019, gan gychwyn fel arweinydd gweithredol ar gynllunio’r gweithlu a chyllid. Mae’n gweithio yn Swyddfa’r Dyfarnwr ers 2011.

Cyn ymuno â Swyddfa’r Dyfarnwr, roedd Mandy yn gweithio yn CThEM. Ymunodd â Thollau Tramor a Chartref fel Arolygydd TAW yn wreiddiol, ac roedd hi’n gweithio’n bennaf fel Arbenigwraig TAW ac Arbed Treth yn adran Busnesau Mawr CThEM.

Arweinydd Archwilio Cwynion

Mae’r Arweinydd Archwilio Cwynion yn gyfrifol am oruchwylio gwaith y timau archwilio yn Swyddfa’r Dyfarnwr.

Swyddfa’r Dyfarnwr

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Rheolwr Busnes
  • Arweinydd Archwilio Cwynion