Amdanom ni
Corff annibynnol yw'r Bwrdd Parôl sydd yn cynnal asesiadau risg ar garcharorion i benderfynu a oes modd eu rhyddhau'n ddiogel i'r gymuned.
Pwy ydym ni
Corff annibynnol yw’r Bwrdd Parôl sydd yn cynnal asesiadau risg ar garcharorion i benderfynu a oes modd eu rhyddhau’n ddiogel i’r gymuned. Cafodd ei sefydlu yn 1968 dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1967 a daeth yn gorff cyhoeddus gweithredol annibynnol anadrannol ar 1 Gorffennaf 1996 dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.
Mae gennym 246 aelod o’r Bwrdd Parôl sydd yn gwneud asesiadau a phenderfyniadau. Rydym yn cyflogi tua 120 aelod o staff i’w cefnogi, wedi eu lleoli yn 10 South Colonnade, Llundain.
Ein swydd yw penderfynu a yw rhyuwn yn ddiogel i gael ei ryddhau. Rydym yn gwneud hynny gyda chryn ofal, a’n blaenoriaeth yw diogelwch y cyhoedd. Rydym yn delio â 25,000 o achosion y flwyddyn; y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn eu cyfeirio atom unwaith y bydd y carcharorion wedi cwblhau’r gosb a benderfynwyd gan y llysoedd. Mae penderfyniadau’r Bwrdd Parôl yn canolbwyntio’n llwyr ar y cwestiwn a fyddai carcharor yn peri risg arwyddocaol i’r cyhoedd ar ôl ei ryddhau. Mae’r asesiad risg wedi ei seilio ar dystiolaeth fanwl a geir yn y goflen (casgliad o ddogfennau perthnasol i’r carcharor) a thystiolaeth a ddarperir yn y gwrandawiad llafar.
Ystadegau Allweddol
Nifer yr achosion yr ymdriniwyd â hwy mewn gwrandawiad llafar yn 2018-19: 5380
- gwrthodwyd 38% o’r rhain
- rhyddhawyd 49%
- argymhellwyd bod 13% yn cael eu symud i garchar agored.
O 2018-19, roedd canran y troseddwyr a gyflawnodd droseddau difrifol yn dilyn penderfyniad i’w rhyddhau neu ar ôl cael eu symud i amodau agored yn 1.1%
Ein cyfrifoldebau
Ein prif rôl yw penderfynu a yw carcharorion sy’n gwneud dedfrydau amhenodol, a’r rhai hynny sy’n gwneud dedfrydau penodol ar gyfer troseddau difrifol, yn parhau i gyflwyno risg arwyddocaol i’r cyhoedd.
Y prif achosion rydym yn eu harolygu yw’r rhai ar gyfer carcharorion yn gwneud:
- dedfrydau oes a dedfrydau carcharu er amddiffyn y cyhoedd (IPP), o dan Ddeddf Troseddu (Dedfrydau) 1997, fel y’i diwygiwyd.
- dedfrydau penodol estynedig (EDS), o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 [(fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Tramgwyddwyr 2012)] ( http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2012/10/contents/enacted)
- dedfrydau ar gyfer tramgwyddwyr sy’n peri pryder arbennig, gan gynnwys terfysgwyr a throseddwyr rhyw â phlant, o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015.
Rydym hefyd yn ystyried:
- ail-ryddhau carcharorion a adelwir i’r carchar am dorri amodau eu trwydded o dan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.
Gwybodaeth gorfforaethol
Access our information
Jobs and contracts
Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol.