Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, y sefydliadau rydym yn gweithio â nhw a'n cyfrifoldebau cyfreithiol.
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi
Darllenwch ein Adroddiad Gwybodaeth am Gydraddoldeb 2023 i 2024 i gael gwybod am:
- ein gweithwyr
- sut rydym wedi monitro a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
- ein cynlluniau gwella
Rhwydweithiau staff
Mae ein rhwydweithiau staff yn cyfrannu at ein nodau amrywiaeth. Maent yn cynnwys:
- y Rhwydwaith Oedran
- y Rhwydwaith Gweithwyr Anabl (DEN), gan gynnwys y Rhwydwaith Gofalwyr
- y Rhwydwaith Ffydd a Chred
- y Rhwydwaith Pride (ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd)
- REACH (Hil, Cydraddoldeb a Threftadaeth Ddiwylliannol)
- y Rhwydwaith Symudedd Cymdeithasol
- Spectrum (ar gyfer niwroamrywiaeth)
- y Rhwydwaith Menywod
Daw ein rhwydweithiau staff ynghyd i ffurfio’r Gweithgor Amrywiaeth sy’n gweithio ar faterion amrywiaeth sy’n effeithio ar weithwyr a chwsmeriaid Cofrestrfa Tir EF.
Mae pob rhwydwaith yn cael ei gynorthwyo gan y tîm Amrywiaeth gyda chefnogaeth ein Panel Amrywiaeth a Hyrwyddwyr Amrywiaeth y Bwrdd.
Y sefydliadau rydym yn gweithio â nhw
Mae ein haelodaeth o’r sefydliadau canlynol wedi ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau amrywiaeth:
- Fforwm Anabledd Busnes
- Ochr yr Undebau Llafur Adrannol
Ein cyfrifoldebau cyfreithiol
Mae’n ofynnol o dan Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’r Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) 2011 inni gyhoeddi gwybodaeth, o leiaf unwaith y flwyddyn, i ddangos ein cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol.
Cysylltu
Diversity team
HR Service Centre
PO Box 11229
1 Unity Square
Nottingham
NG2 9AF