Amdanom ni
Rydym yn hwyluso dedfrydau a roddir gan y llys, mewn cystodaeth ac yn y gymuned, ac yn adsefydlu pobl yn ein gofal drwy addysg a chyflogaeth.
Beth rydym yn ei wneud
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) yn bodoli i atal pobl rhag bod yn ddioddefwyr drwy newid bywydau.
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i hwyluso’r dedfrydau a roddir gan y llysoedd, naill ai yn y ddalfa neu yn y gymuned.
Rydym yn lleihau aildroseddu drwy adsefydlu’r bobl yn ein gofal drwy addysg a chyflogaeth. Mae’r asiantaeth yn cynnwys Gwasanaeth Carchardai EF, Y Gwasanaeth Prawf, Y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa a phencadlys sy’n canolbwyntio ar greu adnoddau a dysgu.
Cyfrifoldebau
Yng Nghymru a Lloegr, rydym yn gyfrifol am y canlynol:
- cynnal gwasanaethau carchardai a phrawf
- gwasanaethau adsefydlu i bobl yn ein gofal sy’n gadael y carchar
- sicrhau bod cymorth ar gael i atal pobl rhag aildroseddu
- rheoli contractau carchardai a gwasanaethau yn y sector preifat, megis:
- y gwasanaeth hebrwng carcharorion
- tagio electronig
Drwy Wasanaeth Carchardai EF: rydym yn rheoli carchardai yn y sector cyhoeddus a’r contract ar gyfer carchardai preifat yng Nghymru a Lloegr.
Drwy’r Gwasanaeth Prawf: rydym yn goruchwylio darpariaeth y gwasanaeth prawf yng Nghymru a Lloegr.
Blaenoriaethau
Byddwn yn cyflawni gweledigaeth a buddsoddiad y llywodraeth i wneud carchardai’n llefydd diogel ac sy’n diwygio, ac i barhau i drawsnewid ein gwaith yn y gymuned.
Byddwn yn darparu amgylcheddau diogel a chefnogol, lle mae pobl yn gweithio drwy’r rhesymau a achosodd iddynt droseddu a pharatoi ar gyfer dyfodol mwy cadarnhaol.
Sut rydym yn gweithio
Rydym yn gweithio gyda nifer o asiantaethau, sefydliadau a phartneriaid i ddarparu ein gwasanaethau gan gynnwys elusennau a mentrau cymdeithasol.
Rydym hefyd yn gweithio gydag arolygwyr annibynnol, cynghorau lleol, timau troseddwyr ifanc, y llysoedd, yr heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill i gyflawni ein cyfrifoldebau a chefnogi’r system gyfiawnder.
Ein gwaith yng Nghymru
Mae ein cyfarwyddiaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru yn sicrhau bod pob sefydliad sy’n darparu gwasanaethau sy’n cynnwys pobl yn ein gofal yng Nghymru yn gweithio’n agos gyda’i gilydd, gan gynnwys y Gwasanaeth Prawf a charchardai yng Nghymru.
Rydym yn gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn dilyn y polisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu creu ar gyfer pobl Cymru.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos ag elusennau, arolygwyr annibynnol, cynghorau lleol, y llysoedd a’r heddlu i gefnogi’r system gyfiawnder.
Mae HMPPS yng Nghymru yn cefnogi’r cynllun Iaith Gymraeg ac yn diwallu anghenion pobl sy’n siarad Cymraeg yn y ddalfa ac yn y gymuned.
Ein strwythur
Gwybodaeth gorfforaethol
Mynediad at ein gwybodaeth
Swyddi a chontractau
Mae ein siarter Gwybodaeth Bersonol yn egluro sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Darllenwch fwy am ein gwasanaethau.
Gwybodaeth gorfforaethol
Access our information
Jobs and contracts
Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Social media use. Dysgu Am ein gwasanaethau.