Amdanom ni

Ni yw’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym yn cadw dros 52 miliwn o gofnodion gyrwyr a thros 46 miliwn o gofnodion cerbydau. Rydym yn casglu dros £7 biliwn o dreth cerbyd (VED) bob blwyddyn.


Rydym yn cynnal y cofrestru a’r trwyddedu o yrwyr ym Mhrydain Fawr. Rydym hefyd yn cynnal cofrestru a thrwyddedu cerbydau ynghyd â chasglu a gorfodi VED yn y DU.

Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i gael y bobl gywir ar y ffyrdd a’r cerbydau cywir wedi’u trethu yn y modd mwyaf syml, diogel ac effeithlon i’r cyhoedd â phosib.

Cyfrifoldebau

Rydym yn gyfrifol am:

  • gofnodi arnodiadau, gwaharddiadau a chyflyrau meddygol
  • cyhoeddi trwyddedau gyrru cerdyn-llun
  • cyhoeddi tystysgrifau cofrestru cerbydau i geidwaid cerbydau
  • cymryd camau gorfodi yn erbyn pobl sy’n osgoi talu treth cerbyd
  • cofrestru a chyhoeddi cardiau tacograff
  • gwerthu cofrestriadau personol DVLA
  • helpu’r heddlu ac awdurdodau cudd-ymchwil i fynd i’r afael â throseddau
  • darparu data dienw i’r rhai sydd â hawl i ddefnyddio’r gwasanaeth

Blaenoriaethau

Ein blaenoriaethau strategol yw:

  • gyrru i fyny digidol
  • bod yn wydn
  • darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych
  • datblygu ein gweithlu medrus, cymhellol a hyblyg

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau strategol yn ein Cynllun Busnes 2024 i 2025.

Pwy yr ydym ni

Rydym yn asiantaeth weithredol o’r Adran Drafnidiaeth (DfT) gyda safleoedd yn Abertawe a Birmingham, yn cyflogi mwy na 6,000 o bobl.

Rydym yn sefydliad digidol yn gyntaf ac mae’r mwyafrif helaeth o’n nifer o wasanaethau ar gael ar-lein fel y gall cwsmeriaid ddewis sut, pryd a ble yr ydynt yn cyrchu ein gwasanaethau.

Gwybodaeth gorfforaethol

Access our information

Jobs and contracts

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Dysgu Am ein gwasanaethau.