Enwi a chodi cywilydd ar fusnesau o Gymru am beidio a rhoi isafswm cyflog i’w gweithwyr
10 gyflogwr o Gymru wedi’u henwi yn y rhestr

- Canfuwyd gwerth £1.1 miliwn o dandaliadau i 9,200 o weithwyr ledled y DU a ddylai fod wedi bod yn cael eu talu ar gyfradd yr isafswm cyflog cenedlaethol
- 179 o gyflogwyr ledled y DU wedi’u henwi, ac wedi cael dirwyon o £1.3 miliwn yn sgil rhoi tâl rhy isel
- Daw’r cylch enwi hwn cyn i gyfraddau’r isafswm cyflog godi ar 1 Ebrill
Heddiw (9 Mawrth) mae Llywodraeth y DU wedi enwi a chodi cywilydd ar 182 o gyflogwyr y DU – gan gynnwys 10 yng Nghymru – am roi tâl rhy isel i dros 9,000 o weithwyr sy’n cael yr isafswm cyflog, â chyfanswm y tandaliad yn £1.11 miliwn.
Yng Nghymru cafodd 10 o gyflogwyr eu henwi am roi tandaliadau gwerth cyfanswm o £74,659 i 159 o weithwyr, ac roedd cyfanswm y dirwyon a gawsant yn £87,396.
Yn ogystal ag adennill ôl-daliadau cyflog i 9,200 o weithwyr, rhoddodd y Llywodraeth hefyd ddirwyon gwerth cyfanswm o £1.3 miliwn i’r cyflogwyr, i’w cosbi am dorri cyfreithiau isafswm cyflog cenedlaethol. Y sectorau oedd yn torri’r gyfraith fwyaf mynych yn y cylch hwn oedd manwerthwyr, busnesau lletygarwch a thrinwyr gwallt.
Daw hyn cyn y cynnydd nesaf yn y gyfradd ar 1 Ebrill, pan fydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £7.50 i £7.83 yr awr. Bydd prentisiaid iau na 19 oed a’r rhai sydd ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaethau yn cael cynnydd o 5.7%, sy’n record.
Yn ddiweddarach y mis hwn bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r cyfraddau newydd ac i annog gweithwyr i siarad â’u cyflogwr os ydynt o’r farn nad ydynt yn cael y cyflog sy’n ddyledus iddynt.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Mae gan bob gweithiwr yn y DU yr hawl i gael yr isafswm cyflog neu’r cyflog byw cenedlaethol o leiaf, a bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau eu bod yn ei gael.
Dyna pam rydym wedi enwi a chodi cywilydd ar y cyflogwyr hyn sydd wedi methu talu’r isafswm cyfreithiol, gan anfon neges glir i gyflogwyr y byddant yn sicr o gael eu cosbi am beidio â chydymffurfio â’r isafswm cyflog.
Yn ôl y Gweinidog Busnes, Andrew Griffiths:
Mae byd gwaith yn newid ac rydym wedi amlinellu ein cynlluniau i roi gwell hawliau i filiynau o weithwyr, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu talu a’u trin yn deg yn y gweithle.
Nid oes unrhyw esgus dros dwyllo gweithwyr. Mae hon yn llinell goch gadarn i’r Llywodraeth a bydd cyflogwyr sy’n ei chroesi yn cael eu dal – byddant nid yn unig yn cael eu gorfodi i ad-dalu pob ceiniog, ond hefyd yn cael dirwy o hyd at 200% o’r cyflogau sy’n ddyledus.
Mae’r cylch enwi heddiw yn ffordd effeithiol o atgoffa cyflogwyr i roi trefn ar bethau cyn i gyfradd yr isafswm cyflog godi ar 1 Ebrill.
Meddai Bryan Sanderson, Cadeirydd y Comisiwn Cyflogau Isel:
Gan fod cyfraddau’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn codi ar 1 Ebrill, mae’n holl bwysig fod gweithwyr yn deall eu hawliau, a bod cyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau.
Mae’r Comisiwn Cyflogau Isel yn falch o weld bod y Llywodraeth yn cynnal momentwm ei hymdrechion i orfodi’r isafswm cyflog.
Mae’r cyhoeddiad diweddar y bydd gan bob gweithiwr yr hawl i gael slip tâl yn nodi’r oriau y mae wedi’u gweithio – syniad a gynigiwyd gan y Comisiwn yn wreiddiol – yn gam cadarnhaol.
Daw’r 14eg cylch enwi hwn wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi ei chynllun ‘Good Work y mis diwethaf, gan gyflwyno’r hawl i bob gweithiwr gael slip tâl. Mae’r gyfraith newydd yn debygol o fod er budd i tua 300,000 o weithwyr yn y DU nad ydynt yn cael slip tâl ar hyn o bryd.
I’r rhai sy’n cael eu talu fesul awr, bydd yn rhaid i slipiau tâl hefyd nodi faint o oriau y mae’r gweithiwr yn cael ei dalu ar eu cyfer, gan ei gwneud hi’n haws deall tâl a’i herio os nad yw’n gywir. Mae’r cam yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth, sef ei chynllun hirdymor i greu Prydain sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy helpu busnesau i greu gwell swyddi sy’n talu’n well ym mhob rhan o’r DU.
Er 2013 mae’r cynllun wedi canfod dros £9 miliwn mewn ôl-daliadau i tua 67,000 o weithwyr, gyda dros 1,700 o gyflogwyr yn cael dirwyon gwerth cyfanswm o £6.3 miliwn. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo £25.3 miliwn ar gyfer gorfodi’r isafswm cyflog yn 2017/18.
Mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n talu llai na’r isafswm cyflog i weithwyr nid yn unig dalu ôl-daliadau cyflog sy’n ddyledus i’r gweithiwr ar gyfradd bresennol yr isafswm cyflog, ond hefyd wynebu cosbau ariannol o hyd at 200% o’r ôl-daliadau, wedi eu capio ar £20,000 fesul gweithiwr.
Am ragor o wybodaeth am eich tâl, neu os credwch nad ydych yn cael y tâl sy’n ddyledus ichi, cewch gyngor ac arweiniad ar www.gov.uk/checkyourpay. Gall gweithwyr hefyd ofyn cyngor Acas sy’n arbenigwyr ar y gweithle.
NODIADAU I OLYGYDDION
Dyma rhestr o’r cwmniau o Gymru:-
Name of Employer | Company/Trading Name | Partial Postcode | Government Office Region (employer trading address) | Local Authority (employer trading address) |
---|---|---|---|---|
Seashells Limited | LL29 | Wales | Conwy | |
Mr Akbor Miah | Dil Indian Cuisine | NP15 | Wales | Monmouthshire |
Davies Security Limited | SA1 | Wales | Swansea | |
Oakfield Caravan Park Limited | LL18 | Wales | Denbighshire | |
A1 Care Services Limited | NP4 | Wales | Torfaen | |
SB Patel Ltd | Porth Stores | CF46 | Wales | Merthyr Tydfil |
Arcadis Consulting (UK) Limited | CF3 | Wales | Cardiff | |
Bush House Pembroke Limited | SA71 | Wales | Pembrokeshire | |
Rainbow Brite Cleaning Services Limited | NP20 | Wales | Newport | |
NTCDucting.com Limited | SA7 | Wales | Swansea |
Dan y cynllun hwn, bydd y Llywodraeth yn enwi’r holl gyflogwyr sydd wedi cael Hysbysiad Tandalu (NoU), oni bai bod cyflogwyr yn cwrdd ag un o’r meini prawf eithriadol neu bod ganddynt ôl-ddyledion o £100 neu lai o ran taliadau. Bu i bob un o’r 179 o achosion sy’n cael eu henwi heddiw (9 Mawrth 2018) fethu talu cyfraddau cywir yr isafswm cyflog neu’r cyflog byw cenedlaethol ac roedd ganddynt ôl-ddyledion taliadau o dros £100.
Mae gan gyflogwyr 28 diwrnod i apelio yn erbyn yr Hysbysiad Tandalu (mae’r hysbysiad hwn yn amlinellu’r cyflogau sy’n ddyledus ac y mae angen i’r cyflogwr eu talu, ynghyd â’r gosb am beidio â chydymffurfio â chyfraith isafswm cyflog). Os na fydd y cyflogwr yn apelio neu os bydd yn apelio’n aflwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad hwn, bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ystyried ei enwi. Yna bydd gan y cyflogwr 14 diwrnod i gyflwyno sylwadau i’r Adran yn amlinellu a ydyw’n cwrdd ag unrhyw rai o’r meini prawf eithriadol:
- Byddai cael ei enwi gan yr Adran yn peri risg o niwed personol i unigolyn neu i’w deulu;
- Mae risgiau i ddiogelwch cenedlaethol yn gysylltiedig ag enwi yn yr achos hwn;
- Ffactorau eraill sy’n awgrymu na fyddai enwi’r cyflogwr er lles y cyhoedd.
Cyfraddau’r Cyflog Byw a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol:-
Dyddiad | 25 a hŷn | 21 i 24 | 18 i 20 | Dan 18 | Prentisiaid |
---|---|---|---|---|---|
Ebrill 2017 | £7.50 | £7.05 | £5.60 | £4.05 | £3.50 |
Ebrill 2018 | £7.83 | £7.38 | £5.90 | £4.20 | £3.70 |
Sectorau lle ceir cyflogau isel:-
- Lletygarwch: 43 o gyflogwyr wedi’u henwi am roi tâl rhy fychan i 5,726 o weithwyr, a chyfanswm y tandaliad yn £460,459
- Trin gwallt: 19 o gyflogwyr wedi’u henwi am roi tâl rhy fychan i 152 o weithwyr, a chyfanswm y tandaliad yn £43,938
- Manwerthu: 18 o gyflogwyr wedi’u henwi am roi tâl rhy fychan i 85 o weithwyr, a chyfanswm y tandaliad yn £27,332