Stori newyddion

Cyn-filwyr a phersonél milwrol yn datguddio trysorau coll yr Oes Haearn o dan faes awyr yr Awyrlu Frenhinol

Mae arteffactau coll o’r Oes Haearn a ddarganfuwyd gan bersonél milwrol a chyn-filwyr wedi’u datgan yn drysor.

Horse bridle-bit from c60AD found at RAF Valley. Copyright: Photography by Harvey Mills.

  • Arteffactau 2000 oed o’r Oes Haearn wedi’u datgan yn drysor cenedlaethol
  • Darganfyddiadau hanesyddol gan bersonél milwrol a chyn-filwyr
  • Bydd trysorau o RAF y Fali nawr yn cael eu rhoi i Amgueddfa Cymru

Mae arteffactau coll o’r Oes Haearn a ddarganfuwyd gan bersonél milwrol a chyn-filwyr wedi’u datgan yn drysor.

Cafodd rhannau o gerbyd rhyfel Celtaidd, y credir ei fod tua 2000 o flynyddoedd oed, eu darganfod o dan faes awyr RAF y Fali yn Ynys Môn yn ystod cloddio gan bersonél milwrol a chyn-filwyr.

Mae Uwch Grwner Gogledd (Orllewin) Cymru bellach wedi datgan bod y darganfyddiadau hyn yn drysor.

Byddant nawr yn cael eu rhoi i Amgueddfa Cymru.

Cynhaliwyd y gwaith cloddio archeolegol ym mis Ebrill 2024 dan arweiniad y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn (DIO). Roedd yr ymchwiliad hefyd yn cynnwys personél a chyn-filwyr o Ymgyrch Nightingale, menter DIO sy’n cefnogi iechyd a lles personél milwrol a chyn-filwyr.

Dywedodd y Gweinidog Cyn-filwyr a Phobl Alistair Carns DSO OBE MC AS:

Mae Ymgyrch Nightingale yn rhaglen arloesol ac arobryn sy’n dangos yn gyson y buddion y gall archaeoleg eu cynnig i bersonél milwrol a chyn-filwyr.

Llongyfarchiadau i’r rhai a wnaeth y cloddiad ac a wnaeth y darganfyddiad cyffrous hwn.  Trwy eu gwaith caled, rydym yn datgelu ac yn cadw ein hanes ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r cynllun arobryn yn gweld personél a chyn-filwyr clwyfedig, anafedig a sâl yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau archeolegol ar draws yr ystad Amddiffyn, gan ddarparu profiadau unigryw o fewn y maes. Credir bod y darganfyddiadau yn rhan o gasgliad enwog Llyn Cerrig Bach, a ddarganfuwyd yn wreiddiol yn y 1940au yn ystod gwaith i ymestyn maes awyr RAF y Fali ar gyfer awyrennau bomio Americanaidd yn ystod ymdrech rhyfel y Cynghreiriaid. Mae’r casgliad yn un o’r casgliadau pwysicaf o arteffactau o’r Oes Haearn a ddarganfuwyd yn y DU, yn cynnwys dros 150 o wrthrychau efydd a haearn yn dyddio rhwng 300CC a 100AD.

Ymhlith y darganfyddiadau newydd roedd dolen cyfryw a fyddai wedi cael ei defnyddio i lywio awenau cerbyd rhyfel Celtaidd, gyda brithwaith coch addurniadol. Mae’r ddolen cyfryw, a ddarganfuwyd gan David Ulke, Arweinydd Sgwadron yr RAF sydd wedi ymddeol, yn un o dri yn unig a ddarganfuwyd gyda’r addurn arbennig hwn yng Nghymru. Daethpwyd o hyd i ail ddarganfyddiad, darn ffrwyn ceffyl y credir ei fod yn dyddio o tua 60AD, gan Ringyll Hedfan yr RAF Graham Moore. Yn debyg i’r rhai o gasgliad Polden Hill a ddarganfuwyd yng Ngwlad yr Haf, byddai’r darn ffrwyn ceffyl wedi’i wisgo gan geffylau’n tynnu cerbydau rhyfel o’r Oes Haearn.

Dywedodd Uwch Archeolegydd DIO, Richard Osgood:

Mae’r darganfyddiadau hyn yn RAF y Fali yn hynod gyffrous i bawb; mae casgliad Llyn Cerrig Bach o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru, a’r Deyrnas Unedig yn ei gyfanrwydd. Mae’r darganfyddiadau newydd hyn wedi cadarnhau amheuon archeolegwyr cynharach fod mwy i’w ddarganfod o’r casgliad arbennig hwn.

Mae’n wych bod y personél a’r cyn-filwyr sy’n cymryd rhan yn Ymgyrch Nightingale yn parhau i gael eu gwobrwyo â chanfyddiadau mor hanesyddol bwysig. Rwy’n falch bod y fenter yn chwarae rhan wrth gefnogi personél a chyn-filwyr yn eu darganfyddiad ac mae’n wych gweld effaith wych y prosiect hwn.

Cafodd tîm Ymgyrch Nightingale ganiatâd arbennig i wneud y gwaith cloddio gan RAF y Fali, cyn y gwaith adnewyddu ar faes awyr y safle. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar gyfer y gwelliannau hyn ym mis Medi 2024.

Dywedodd Darganfyddwr y ddolen cyfryw, yr Arweinydd Sgwadron (wedi ymddeol) David Ulke:

Roedden ni wedi cael ein briffio ar y math o bethau y gallen ni ddisgwyl eu darganfod, felly pan wnes i ddatguddio’r darn, roeddwn i’n eithaf sicr mai dolen cyfryw o’r Oes Haearn ydoedd. Roeddwn i ar ben fy nigon a dweud y lleiaf! Rydw i wedi bod yn ymwneud ag archeoleg ers blynyddoedd lawer a hwn oedd y darganfyddiad mwyaf arwyddocaol i mi ei wneud erioed o bell ffordd.

Mae’r ffaith y gall Ymgyrch Nightingale ddod â phersonél y lluoedd arfog ynghyd trwy gloddio archaeolegol yn dangos pa mor iachaol a chymwynasgar y gall archaeoleg fod. Nid yw’n datrys popeth o bell ffordd, ond mae llawer wedi elwa, ac rydw i am un yn un o’r buddiolwyr diolchgar hynny.

Dywedodd y Rhingyll Hedfan Graham Moore, a ddarganfyddodd y darn ffrwyn ceffyl:

“Roedd chwilio am y casgliad coll yn waith caled ac roedd gennym ni ardal enfawr i’w gwmpasu. Nid tan y diwrnod olaf – gyda dim ond 10 munud i fynd – y darganfyddais y darn ffrwyn ceffyl. Ar y dechrau roedd y tîm yn meddwl fy mod yn tynnu coes, ond sylweddolais yn gyflym fy mod wedi dod o hyd i rywbeth arbennig. Ni allai geiriau egluro sut yr oeddwn yn teimlo yn y foment honno, ond roedd yn brofiad bendigedig.

“Rwyf wedi bod yn rhan o lawer o waith cloddio Ymgyrch Nightingale bellach, ac mae’r profiad yn wirioneddol amhrisiadwy i’r cyn-filwyr a’r personél lluoedd arfog sy’n cymryd rhan.”

Dywedodd Pennaeth Gorsaf RAF y Fali, Capten y Grŵp Gez Currie OBE:

Mae’n anhygoel ein bod yn cael ein hatgoffa eto o arwyddocâd y safle ar garreg drws RAF y Fali a pha mor bwysig ydyw i hanes Cymru. Paratoadau RAF y Fali yn y 1940au i helpu i atal goresgyniad, a dynnodd i’r amlwg arwyddocâd y lleoliad hwn a’i gysylltiadau â goresgyniad cynharach gan y Rhufeiniaid.

Mae pwysigrwydd RAF y Fali i Amddiffyn y DU heddiw y tu hwnt i amheuaeth, ond mae hyn yn ein hatgoffa ein bod yn rhan o gontinwwm sy’n ymestyn dros 2,000 o flynyddoedd ac mae’n rhaid i ni fod yn warcheidwaid cyfrifol o’r tir hwn. Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o ymdrechion i ddarganfod a gwarchod yr arteffactau pwysig hyn o hanes Cymru ac yr un mor falch bod ein milwyr ni ein hunain wedi chwarae rhan mor agos yn yr ymdrechion hyn.

Bydd y darganfyddiadau nawr yn cael eu rhoi i Amgueddfa Cymru, sy’n gartref i nifer o eitemau o gasgliad cychwynnol Llyn Cerrig Bach.

Dywedodd Adam Gwilt, Uwch Guradur y Cynfyd yn Amgueddfa Cymru:

Mae’n anhygoel meddwl bod yr arteffactau 2,000 o flynyddoedd oed hyn wedi aros mor gyflawn ac wedi’u cadw’n dda o fewn dyddodiad mawn bas, a gafodd ei symud yn flaenorol a’i lusgo i’r maes awyr dros 80 mlynedd yn ôl o lyn hynafol cyfagos! Mae’r darn ffrwyn ceffyl a’r ddolen cyfryw ill dau yn cynnwys arddulliau nad ydynt wedi’u cynrychioli ymhlith y casgliad gwreiddiol. Byddan nhw’n ychwanegu gwybodaeth newydd bwysig am roi gwrthrychau gwerthfawr fel rhoddion crefyddol i’r llyn ar ddiwedd Oes yr Haearn, ychydig cyn, neu tua’r adeg pan oresgynnodd y Fyddin Rufeinig Ynys Môn.

Mae’n wych y bydd yr arteffactau hyn yn hygyrch i’w harddangos ac er budd y cyhoedd yn Oriel Môn. Edrychaf ymlaen at gydweithio yn y blynyddoedd i ddod gyda’r amgueddfa, y ganolfan dreftadaeth yn RAF y Fali a’r tîm Ymgyrch Nightingale, fel y gall pawb ddathlu a rhannu’r stori wych hon.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Ionawr 2025