Trethu eich cerbyd drwy Ddebyd Uniongyrchol
Mae Debyd Uniongyrchol yn cynnig ffyrdd mwy hyblyg o dalu eich treth cerbyd.

Gallwch dalu eich treth cerbyd drwy Ddebyd Uniongyrchol – naill ai ar-lein neu drwy fynd i Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd.
Drwy ddewis Debyd Uniongyrchol, gallwch dalu:
- yn fisol
- pob 6 mis
- yn flynyddol
Bydd eich Debyd Uniongyrchol yn adnewyddu’n awtomatig pan fydd eich treth yn dod i ben.
Sut i sefydlu Debyd Uniongyrchol
Talu treth cerbyd drwy Ddebyd Uniongyrchol
Ar ôl i chi sefydlu eich Debyd Uniongyrchol
Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod digon o arian yn eich cyfrif ar y dyddiad talu. Bydd taliadau yn cael eu cymryd ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis – ac eithrio’r taliad cyntaf, a all amrywio.
Os methwch chi daliad, byddwn yn ceisio eto o fewn 4 diwrnod gwaith. Caiff y Debyd Uniongyrchol ei ganslo os nad oes dal digon o arian.
Canslo
Byddwn yn canslo eich Debyd Uniongyrchol pan fyddwch chi’n gwneud datganiad HOS, neu’n gwerthu, sgrapio neu allforio eich cerbyd.
Rhagor o wybodaeth
Cael rhagor o wybodaeth am sefydlu, newid neu ganslo Debyd Uniongyrchol.