Treth - newid ar waith yng Nghymru
Daeth Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am rai o'r trethi sy'n cael eu talu yng Nghymru ym mis Ebrill 2018, gyda phwerau ychwanegol yn dod i rym ym mis Ebrill 2019.

Gallwch hefyd ddarllen y stori newyddion hon yn Saesneg.
Treth Incwm
O 6 Ebrill 2019 ymlaen, bydd pobl sydd â’u prif fan preswylio yng Nghymru, ac sy’n talu Treth Incwm, yn talu cyfraddau Treth Incwm Cymru a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy’n byw yng Nghymru dalu cyfradd wahanol o Dreth Incwm o’i chymharu â phobl mewn rhannau eraill o’r DU.
Mae hyn yn gweithio drwy ostwng gan 10 ceiniog y cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol o Dreth Incwm. Bydd cyfraddau Cymru, a bennir gan Lywodraeth Cymru, yna’n cael eu hychwanegu at y swm hwn.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, sy’n dechrau ar 6 Ebrill 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi pennu cyfraddau Cymru ar yr un lefel â’r cyfraddau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, ni fydd cwsmeriaid yn sylwi ar wahaniaeth yn y Dreth Incwm y maent yn ei thalu.
Cyhoeddwyd manylion cyfraddau Treth Incwm Cymru yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2018, a chytunwyd arnynt ym mis Ionawr 2019.
Bydd CThEM yn dal i gasglu Treth Incwm fel y mae ar hyn o bryd ond mae cwsmeriaid Talu Wrth Ennill (TWE) sy’n byw yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sy’n ennill islaw’r trothwy treth, wedi cael cod treth newydd sy’n dechrau gyda’r llythyren ‘C’. Bydd gofyn i gwsmeriaid hunangyflogedig sy’n cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein nodi eu gwlad breswyl ar eu Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020.
Bydd yr arian sy’n deillio o gyfraddau Treth Incwm Cymru yn mynd i Lywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Dreth Incwm yng Nghymru, a’r cyfraddau ar gyfer 2019 i 2020, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am Dreth Incwm ar GOV.UK.
Treth Trafodiadau Tir
O 1 Ebrill 2018 ymlaen, mae Treth Trafodiadau Tir (TTT) wedi disodli Treth Dir y Tollau Stamp (Stamp Duty Land Tax, neu SDLT).
Cesglir y Dreth Trafodiadau Tir gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfraddau a bandiau ar gyfer TTT ym mis Hydref 2017. Ni fydd CThEM yn derbyn Ffurflenni Treth SDLT ar gyfer trafodiadau tir yng Nghymru sydd â dyddiad dod i rym ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018.
Os ydych wedi prynu tir neu eiddo yng Nghymru er 1 Ebrill 2018, gofynnwch i’ch trawsgludwr neu’ch cyfreithiwr am y trefniadau ar gyfer TTT.
Trafodiadau trawsffiniol
Os ydych yn prynu tir a/neu eiddo sy’n dod o dan fwy nag un awdurdodaeth dreth ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, darllenwch yr arweiniad hwn i sicrhau’ch bod yn talu’r dreth gywir.
Arweiniad trosiannol
Gallwch ddarllen yr arweiniad trosiannol ar wefan ACC.
Cyfrifiannell treth
Os bydd angen help arnoch i asesu swm y dreth sydd angen i chi ei dalu, ewch ati i ddefnyddio’r gyfrifiannell treth penodedig ar wefan ACC.
Trawsgludwyr a chyfreithwyr
Os ydych yn drawsgludwr neu’n gyfreithiwr sy’n cynrychioli pobl sy’n prynu ac yn prydlesu eiddo a thir yng Nghymru, bydd angen i chi gofrestru ar wefan ACC cyn cyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer trafodiadau sydd â dyddiad dod i rym ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.
Mae ACC yn annog busnesau i gofrestru o leiaf 10 diwrnod cyn eu trafodiad cyntaf sy’n cynnwys TTT.
Treth Gwarediadau Tirlenwi
O 1 Ebrill 2018 ymlaen, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) wedi disodli Treth Dirlenwi yng Nghymru. Caiff y dreth hon ei gweinyddu gan ACC ac mae’n rhaid i weithredwyr tirlenwi yng Nghymru ei thalu.
Os ydych yn un o’r gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru, cofrestrwch nawr ar gyfer TGT.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am drethi Cymru, ewch i wefan ACC.
Mae erthygl hefyd sy’n cadarnhau’r camau nesaf y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am eu cymryd ynghylch datganoli treth yng Nghymru.
Updates to this page
-
Updated before the start of the new tax year.
-
English language and Welsh language versions updated after the Welsh rates of Income Tax were ratified.
-
Updated with a new section on Income Tax.
-
Added section about guidance on cross-border transactions
-
Added Welsh language translation
-
Page updated with new information, including where to find transitional guidance and the Land Transaction Tax (LTT) calculator, how to register for the LTT if you are a solicitor or conveyancer, and where to register for the Landfill Disposals Tax if you are a landfill site operator.
-
First published.