Stori newyddion

Cyflwyno eich apêl taliad annibyniaeth personol ar-lein

Rydym yn profi gwasanaeth ar-lein i unigolion gyflwyno eu hapêl taliad annibyniaeth personol ar-lein.

Image of appeal screen on pc

Rydym yn profi’r gwasanaeth ar hyn o bryd gydag unigolion sydd:

  • eisiau apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â Thaliad Annibyniaeth Personol; ac
  • sy’n byw yn un o’r ardaloedd canlynol: Swydd Bedford, Berkshire, Swydd Buckingham, Swydd Gaergrawnt, Essex, Dwyrain Sussex, Swydd Hertford, Caint, Canolbarth Lloegr, Norfolk, Swydd Rydychen, Suffolk.

Gallwch wirio os gallwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth drwy roi enw eich budd-dal a’ch cod post yn y gwasanaeth apelio ar-lein cyn i chi gychwyn eich apêl.

Gyda’ch caniatâd chi, gall unigolyn arall eich helpu i wneud yr apêl ar-lein, cyn belled ag eich bod chi’n teipio eich enw ar y ffurflen apelio ar-lein. Gallwch hefyd gofrestru i gael diweddariadau cynnydd drwy e-bost neu neges destun.

Mae cyflwyno eich apêl ar-lein yn golygu nad oes angen i chi lenwi a phostio fersiwn bapur o’r ffurflen. Gallwch gael mynediad at y gwasanaeth apelio ar-lein drwy ddefnyddio eich cyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen. Mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Unwaith y bydd eich apêl wedi ei chyflwyno caiff ei chofrestru ar ein system rheoli achosion erbyn y diwrnod gwaith nesaf a’i throsglwyddo’n electronig yr un diwrnod i’r Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n gyflymach na’r post. Rydym yn profi’r gwasanaeth ar-lein ar hyn o bryd gyda grŵp bychan o bobl fel y gallwn gael eu hadborth a gwneud gwelliannau cyn caniatáu i ragor o bobl ei ddefnyddio.

Mae’r newidiadau hyn yn rhan o raglen gwerth dros £1 biliwn i drawsnewid y system llysoedd a’i wneud yn gyflymach, yn fwy hygyrch ac yn haws i bawb ei ddefnyddio.

Cyhoeddwyd ar 25 May 2018