Carchar newydd i'w redeg gan wasanaeth carchardai ei mawryhdi
Mae'r Gweinidog Carchardai, Andrew Selous, wedi cyhoeddi heddiw y bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn cael ei redeg gan Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi.

Bydd y carchar, sydd i fod i agor yn 2017, yn cael ei redeg gan ddefnyddio dull newydd, arloesol a fydd yn gwneud y gorau o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yn gweithio gyda’i gilydd.
Bydd Gwasanaeth Carcharai Ei Mawrhydi yn berchen ar y carchar yn gyffredinol, ond bydd 34% o wasanaeth y carchar yn dod o’r tu allan – yn cynnwys gweithdy diwydiannol mawr.
Dywedodd y Gweinidog Carchardai Andrew Selous:
Rwyf yn falch o gyhoeddi y bydd y carchar newydd yng Ngogledd Cymru yn cael ei weithredu gan Wasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi fel rhan o ddull newydd arloesol o redeg carchardai.
Mae’r cyfuniad o feincnodi a chael gwasanaethau o’r tu allan yn arbed tua £300 miliwn o arian y trethdalwyr bob blwyddyn, a bydd yn ein galluogi i ddarparu carchar effeithlon iawn yn Wrecsam, sydd wedi’i seilio ar yr ymarfer gorau o agor carchardai blaenorol.
Mae’r carchar yn adlewyrchu llwyddiant ein diwygiadau wrth helpu i greu ystâd carchardai cost isel a modern, ac mae’n rhoi hwb i economi Gogledd Cymru, gan fod £1.1miliwn eisoes wedi’i neilltuo i gwmnïau lleol – ymhell o flaen y targed o £250,000 ar gyfer 2014.
Bydd y buddsoddiad o £212miliwn yn darparu llety carchar o ansawdd da, sydd o werth i’r trethdalwr gan ei fod yn lleihau’r gost ar gyfer pob carcharor. Mae diwygiadau diweddar eisoes wedi arbed symiau sylweddol o arian y trethdalwyr, ac mae parhau i greu ystâd carchardai cost isel a modern yn hanfodol i leihau cost gyffredinol y system garchardai.
Pan fydd yn weithredol, bydd carchar Gogledd Cymru o fudd enfawr i’r ardal, yn cynyddu’r economi lleol tua £23miliwn y flwyddyn ac yn creu hyd at 1,000 o swyddi.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:
Bydd y carchar newydd yn Wrescam yn rhoi hwb enfawr i Ogledd Cymru gan greu cyfleoedd i fusnesau lleol a chreu cannoedd o swyddi yn yr ardal.
Mae hyn i gyd yn rhan o’n cynllun tymor hir i helpu i adfer cydbwysedd yr economi a buddsoddi mewn seilwaith o safon byd-eang ar hyd a lled y wlad.
Bydd y carchar yn darparu tua 2,100 o leoedd Categori C ar gyfer troseddwyr gwrywaidd o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, yn cynnwys swyddogaeth remand bychan a fydd yn gwasanaethu’r llysoedd yng Ngogledd Cymru. Bydd yn cynnwys llefydd ar gyfer addysg, 12 gweithdy mawr, a swyddogaethau ailsefydlu, a fydd yn helpu troseddwyr sy’n cael eu cadw yn y carchar yn agos i’w cartref i ail integreiddio i’w cymunedau ar ôl cael eu rhyddhau.
Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau datganoledig iechyd ac addysg Cymru i ddatblygu modelau addas ar gyfer y carchar, a bydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gytuno ar yr adnoddau angenrheidiol wrth i ofynion y gwasanaeth gael eu cwblhau.
Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac mae’r bloc tai cyntaf i fod i ddechrau cymryd carchardai yn fuan yn 2017.
Nodiadau i Olygyddion:
-
Carchar Gogledd Cymru. Cafodd Datganiad Gweinidogol ysgrifenedig ei gyflwyno yn y Senedd fore heddiw am 9:30am.
-
Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi dweud mai’r strategaeth ar gyfer ystâd y carchardai yw’r “mwyaf cydlynol a chynhwysol ers sawl blwyddyn” http://www.nao.org.uk/report/managing-the-prison-estate/
-
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa’r wasg DSA ar 020 3334 3536.