Datganiad i'r wasg

Hybu'r momentwm ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru

Yr Arglwydd Bourne yn dod ag arweinwyr y sector ynghyd i edrych ar gynigion y fargen twf

Bydd Llywodraeth y DU yn gwthio’r agenda yn ei blaen heddiw ar gyfer bargen twf i Ganolbarth Cymru pan fydd Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, yn cynnal cyfarfod o aelodau tîm prosiect yn Aberystwyth heddiw (DYDD GWENER, 16 Mawrth 2018).

Bydd yr Arglwydd Bourne yn cwrdd ag arweinwyr busnes a chynrychiolwyr o’r sector amaethyddol a sefydliadau addysg bellach i drafod eu gweledigaeth ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru ac i dynnu sylw at gefnogaeth Llywodraeth y DU i economi’r ardal.

Yn ystod Cyllideb yr Hydref y llynedd, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddai’n croesawu cynigion ar gyfer bargen twf i Ganolbarth Cymru.

Yng nghyfarfod dydd Gwener, bydd aelodau Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru yn nodi’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud i fynd â’r fargen rhagddi a sut mae’r prosiectau arfaethedig yn plethu â’i gilydd.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yr Arglwydd Bourne:

Mae rhoi pwerau a rhyddid i ardaloedd lleol er mwyn helpu i gefnogi twf economaidd, creu swyddi a hybu buddsoddiad yn rhan allweddol o gyflawni Prydain sy’n gweithio i bawb.

Dyma gyfle i’r Canolbarth elwa o’r mudiad Bargeinion Dinesig a Thwf sydd ar gynnydd. Rwy’n awyddus i weld pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu’r weledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd y rhanbarth.

Mae angen i’r partneriaid sy’n rhan o hyn lunio cynigion a gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni’r fargen orau i Ganolbarth Cymru. Nid oes gennyf amheuaeth ynghylch uchelgais arweinwyr yng Nghanolbarth Cymru i wneud hyn yn iawn wrth i ni gydweithio i gytuno ar fargen newydd a fydd yn hybu twf ar draws y rhanbarth.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi’r Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n werth £1.2 biliwn ar waith. Y llynedd, llofnododd y Prif Weinidog Fargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Mae nawr hefyd yn gweithio i sicrhau bargen twf ar gyfer gogledd Cymru, gan weithio gyda phartneriaid lleol a Llywodraeth Cymru i nodi’r ffordd orau o gryfhau economi’r rhanbarth a gwneud y mwyaf o’i gysylltiadau â Phwerdy Gogledd Lloegr.

Byddai cynnig llwyddiannus ar gyfer Canolbarth Cymru yn golygu bod pob rhan o Gymru yn elwa o fargen twf gan Lywodraeth y DU.

Cyhoeddwyd ar 16 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 March 2018 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.