£111 miliwn wedi’i ddyfarnu i brosiectau yng Nghymru drwy'r Gronfa Ffyniant Bro
Mae saith prosiect yn derbyn grantiau yn nhrydedd rownd y Gronfa Ffyniant Bro i gefnogi adfywiad a thwf hirdymor

- Mae’r prosiectau’n cynnwys cynlluniau adfywio ym Mhort Talbot a’r Rhyl, gan greu ardal gyhoeddus fywiog yn Noc y Barri ac uwchraddio llwybrau beicio ym Mhowys
- Y Canghellor yn cyhoeddi ei fod yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ymestyn ffenestr Parthau Buddsoddi a Porthladdoedd Rhydd i ddatgloi rhagor o fuddsoddiad
Mae adfywio canol tref Port Talbot, creu ardal gyhoeddus ar y glannau yn y Barri ac uwchraddio llwybrau beicio ym Mhowys yn rhai o’r prosiectau trawsnewidiol y dyfarnwyd cyfran ohonynt o Gronfa Ffyniant Bro flaenllaw Llywodraeth y DU.
Mae saith prosiect wedi cael £111 miliwn yng Nghymru a fydd yn helpu i greu swyddi, sbarduno twf economaidd, a lledaenu cydraddoldeb i ardaloedd sydd wedi’u hesgeuluso’n hanesyddol, yn ogystal ag adfer balchder pobl yn y mannau lle maent yn byw. Bydd hyn yn hybu blaenoriaeth y Prif Weinidog i dyfu’r economi drwy sicrhau ffyniant bro a darparu’r sylfeini ar gyfer adeiladu dyfodol gwell mewn cymunedau ledled y DU.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol Ffyniant Bro yng Nghymru drwy gronfeydd fel Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Porthladdoedd Rhydd, a’r Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi, gan fynd â’r cyfanswm i dros £1.2 biliwn o gyllid ffyniant bro yn ogystal â buddsoddiadau eraill mewn twf lleol, fel £790m
Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Ffyniant Bro:
Mae sicrhau Ffyniant Bro yn golygu cyflawni blaenoriaethau pobl leol a sicrhau newid trawsnewidiol mewn cymunedau sydd, am ormod o amser, wedi cael eu hanwybyddu a’u tanbrisio.
Heddiw rydym yn cefnogi 55 o brosiectau ledled y DU gyda £1 biliwn i greu swyddi a chyfleoedd newydd, sbarduno twf economaidd, ac adfywio ardaloedd lleol.
Mae’r cyllid hwn yn cyd-fynd â’n cynlluniau ehangach i ledaenu twf, drwy ddatganoli mwy o arian a phŵer o San Steffan i drefi a dinasoedd, rhoi ymyriadau pwrpasol ar waith i’r llefydd sydd ei angen fwyaf, a’n cynllun hirdymor ar gyfer trefi.
Heddiw, dyfarnwyd cyfanswm o £27m i Gastell-nedd Port Talbot ar ôl dau gais llwyddiannus, gan gynnwys £15m i adfywio canol tref Port Talbot gyda gwelliannau i’r Sgwâr Dinesig, adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol, a gwelliannau i fannau gwyrdd yn ardal Glan yr Afon.
Mae £12m wedi cael ei ddyfarnu i adfer ac ailagor pont hanesyddol rhestredig Gradd II Newbridge i gerddwyr a beicwyr, a bydd Heol Newbridge a Heol Glan yr Afon hefyd yn cael eu huwchraddio
Mae £20m arall hefyd wedi cael ei ddyfarnu i’r glannau yn Noc y Barri i greu ardal gyhoeddus fywiog gyda chanolfan fusnes newydd a mannau bwyd a diod, ynghyd â bron i £18m i annog ffyrdd iachach o deithio ym Mhowys, gan gynnwys adfer pontydd troed a gwella’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol drwy roi wyneb newydd ar nifer o lwybrau a gwella cysylltedd i gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol iawn arall mewn prosiectau trawsnewidiol ledled Cymru. O adfywio canol trefi i wella seilwaith teithio, bydd y cynlluniau hyn yn cael effaith gadarnhaol am genedlaethau i ddod.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru wrth i ni weithio tuag at ein nodau o dyfu economi Cymru a sicrhau ffyniant bro yn y DU.
Mae Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn yn nwy rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro, gyda chyfanswm o 21 prosiect yn derbyn dros £329m. Mae’n golygu bod Llywodraeth y DU wedi mynd y tu hwnt i’r isafswm 5% a neilltuwyd yn wreiddiol ar gyfer Cymru ar ddechrau’r gronfa, gyda Chymru’n derbyn dros 9% ar draws y tair rownd, sef cyfanswm o £440m yn gyffredinol ar gyfer 28 o brosiectau.
Mae buddsoddiadau blaenorol ar draws dwy rownd gyntaf y gronfa yn cynnwys Canolfan Drafnidiaeth Porth a fydd yn adfywio gorsaf reilffordd bresennol y dref i fod yn ganolfan drafnidiaeth fodern, ganolog a hygyrch ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Mae hefyd yn cynnwys mannau gwefru ceir trydan, safle tacsis newydd a lle i storio beiciau, yn ogystal ag uwchraddio’r rhwydwaith teithio lleol.
Mae tyfu’r economi a gwneud y penderfyniadau tymor hir i gyflawni’r newid sydd ei angen ar y wlad yn flaenoriaeth i’r Prif Weinidog.
Heddiw, mae’r Canghellor wedi cadarnhau y bydd y rhaglen Parthau Buddsoddi yn Lloegr yn cael ei hymestyn o bump i ddeng mlynedd a bydd y ffenestr i hawlio rhyddhad treth Porthladd Rhydd yn Lloegr yn cael ei hymestyn o bum i ddeng mlynedd tan fis Medi 2031.
Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru gyda’r bwriad o ddarparu’r un estyniad i Barthau Buddsoddi a Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.
Prosiectau y dyfarnwyd arian y Gronfa Ffyniant Bro iddynt yng Nghymru heddiw:
- Bron i £18m i annog ffyrdd iachach o deithio ym Mhowys, gan gynnwys adfer pontydd troed a gwella’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol drwy roi wyneb newydd ar nifer o lwybrau a gwella cysylltedd i gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid.
- £20m i drawsnewid safle ar y glannau yn Noc y Barri yn ardal gyhoeddus fywiog, gyda chanolfan fusnes newydd, siopau bwyd a diod, a chyfleusterau hamdden a marina.
- Dros £15m tuag at adnewyddu nifer o adeiladau gwag a chreu mwy o ardaloedd gwyrdd yng nghanol tref Llanelli
- £20m ar gyfer prosiectau i ddatblygu a rhoi hwb i ardaloedd yn Sir Ddinbych, fel y Rhyl, a fydd yn cynnwys adfywio canol y dref, creu mwy o ganolfannau cymunedol, gwella beicio a llwybrau troed, a gwella llwybrau rhwng y dref a’r arfordir.
- £12m i adfer ac ailagor pont hanesyddol rhestredig Gradd II Newbridge i gerddwyr a beicwyr, a bydd Heol Newbridge a Heol Glan yr Afon hefyd yn cael eu huwchraddio.
- £15m i adfywio canol tref Port Talbot gyda gwelliannau i’r Sgwâr Dinesig, adnewyddu Theatr y Dywysoges Frenhinol, a gwelliannau i fannau gwyrdd yn ardal Glan yr Afon.
- Mwy na £10m i wella hygyrchedd cyhoeddus ar draws tref Penfro, gan ganolbwyntio ar Westgate, Eastgate a gwelliannau cyffredinol i’r amgylchedd.