Datganiad i'r wasg

Hwb o £10 miliwn i gymorth cyflogaeth yng Nghymru i Gael Prydain i Weithio eto

Mae disgwyl i bobl yng Nghymru elwa o fuddsoddiad o £10 miliwn gyda'r nod o wella cymorth gwaith, iechyd a sgiliau lleol fel rhan o fenter Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anweithgarwch a Chael Prydain i Weithio.

  • Mae’r cynllun arloesol cyntaf yng Nghymru yn lansio i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, gyda chymorth newydd wedi’i deilwra i’w gyflwyno gan gynnwys mentora un-i-un, cwnsela, gwasanaethau lles, a rheoli cyflyrau am faterion iechyd.

  • Mae’n dod fel rhan o ymgyrch Llywodraeth y DU i Gael Prydain i Weithio eto i ddatgloi twf a chyflenwi Cynllun ar gyfer Newid.

Mae disgwyl i bobl yng Nghymru elwa o fuddsoddiad o £10 miliwn gyda’r nod o wella cymorth gwaith, iechyd a sgiliau lleol fel rhan o fenter Llywodraeth y DU i fynd i’r afael ag anweithgarwch a Chael Prydain i Weithio.

Bydd y rhaglen arloesol gyntaf yng Nghymru, a lansiwyd yn Sir Ddinbych gan Weinidog Cyflogaeth y DU, Alison McGovern a Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, yn darparu am y tro cyntaf ymyriadau pwrpasol wedi’u targedu i anghenion lleol, yn hytrach na’r dull presennol “un maint i bawb”.

Mae hyn yn cynnwys help gyda llunio CVs a chwiliad gwaith, mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darpariaeth lles, a mynediad at wasanaethau rheoli cyflyrau i’r rhai sydd â chyflyrau iechyd.

Mae ardaloedd y cynllun arloesol yn lleoedd penodol a ddewiswyd i dreialu dulliau newydd ac arloesol o gymorth cyflogaeth – mae’r ardaloedd hyn yn cael cyllid ac adnoddau wedi’u targedu i gyflwyno strategaethau newydd i leihau diweithdra, mynd i’r afael ag anweithgarwch a gwella cyfleoedd gwaith.

Yn ystod eu hymweliad â Sir Ddinbych yn Gweithio ddoe, gwelodd y ddau Weinidog y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys cyfarfod ag Anogwyr Gwaith sy’n cynnig cymorth arbenigol, wedi’i deilwra.

Mae Cymru yn un o naw lle sy’n cael cymorth drwy gynllun arloesol y rhaglen anweithgarwch economaidd £125 miliwn Llywodraeth y DU, sy’n targedu ardaloedd gyda’r lefelau uchaf o anweithgarwch.

Bydd arweinwyr lleol yn Sir Ddinbych, Blaenau Gwent, a Chastell-nedd Port Talbot yn dylunio cynlluniau cymorth cyflogaeth wedi’u teilwra i heriau unigryw eu cymunedau.

Nod y dull lleol, aml-asiantaeth hwn yw helpu pobl yn ôl i’r gwaith, sef un o’r ffyrdd pwysicaf o roi arian ychwanegol ym mhocedi pobl a datgloi twf fel rhan o Gynllun ar gyfer Newid Llywodraeth y DU.

Dywedodd Alison McGovern, Gweinidog Cyflogaeth Llywodraeth y DU:

Mae pawb yn haeddu ffynnu, gan gynnwys pobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd hirdymor.

Ni chaiff unrhyw un ei anwybyddu na’i ddiystyru. Dyna pam rydyn ni’n dyrannu hwb o £10 miliwn i Lywodraeth Cymru i roi hwb a chysylltu gwasanaethau iechyd a chyflogaeth, gan gyflenwi’r Cynllun ar gyfer Newid.

Mae pawb yn haeddu elwa o’r diogelwch a’r urddas y mae gwaith da yn ei gynnig, a bydd y cynllun arloesol hwn yn helpu pobl i gael mynediad at y cymorth hwn.

Dywedodd Jack Sargeant, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:

Mae’r buddsoddiad hwn o £10 miliwn yn gam allweddol yn ein dull cydweithredol o gefnogi pobl ledled ein cenedl yn ôl i gyflogaeth dda. Trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, bydd cynlluniau arloesol Cymru yn creu dull wedi’i deilwra sy’n diwallu anghenion unigryw’r tair cymuned y mae’n anelu at eu helpu yn ei flwyddyn gyntaf.

Ein ffocws yw darparu gwasanaethau integredig sy’n cysylltu cymorth iechyd â chyfleoedd cyflogaeth mewn gwirionedd, gan gydnabod bod gwaith da yn sylfaenol i les. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau na chaiff unrhyw un ei ddiystyru, ac mae’r rhaglen arloesol hon yn dangos sut y gall cymorth cyflogaeth datganoledig fod yn ymatebol i anghenion lleol wrth gyfrannu at ein huchelgeisiau economaidd ehangach i Gymru.

Ychwanegodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y rhaglen £10 miliwn hon i gael pobl i weithio yn darparu cymorth wedi’i deilwra lle mae ei angen fwyaf. Mae Blaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot wedi’u dewis fel ardaloedd lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Mae’n ddull rydyn ni’n gwybod ei fod yn gweithio ac yn adeiladu ar lwyddiant Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cymorth yn barod i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw ennill sgiliau neu ddod i mewn i waith.

Mae gwaith yn gwella iechyd corfforol a meddyliol ac yn codi safon byw pobl. Mae’r cynllun arloesol yn sicrhau bod unrhyw un sy’n gallu gweithio yn cael ei helpu i gael cyflogaeth.

Mae’r cynlluniau arloesol yn garreg filltir ddiweddaraf o ran diwygiadau £240 miliwn Llywodraeth y DU sy’n cynnwys trawsnewid canolfannau gwaith i ganolbwyntio ar sgiliau a gyrfaoedd pobl, gwarantu cyfle i bobl ifanc ennill neu ddysgu a darparu cymorth iechyd meddwl i helpu pobl  ddechrau ac aros mewn gwaith.

Mae lansiad ddoe yng Nghymru yn dilyn lansiad y cynllun arloesol cyntaf yn Ne Swydd Efrog yn gynharach ym mis Ebrill, sy’n bwriadu darparu gwasanaeth newydd gan weithio gyda chyflogwyr i gyflogi’r rhai sydd â chyflyrau iechyd – gyda’r ddwy raglen yn canolbwyntio ar hybu twf trwy gael cymunedau yn ôl i iechyd ac yn ôl i’r gwaith.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd cynlluniau arloesol tebyg yn lansio ym Manceinion Fwyaf, y Gogledd Ddwyrain Lloegr, Efrog a Gogledd Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog a thri yn Llundain.

Yn ogystal â’r cynlluniau arloesol anweithgarwch, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi hwb i’r Cyflog Byw Cenedlaethol, wedi cynyddu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac yn creu swyddi mwy diogel drwy’r Bil Hawliau Cyflogaeth i gefnogi pobl i mewn i waith da a chael Prydain i dyfu eto.

Mae’r cyllid a ddarperir i Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen hon hefyd yn cyflenwi addewid y Prif Weinidog i roi hwb i gyfnod newydd o ddatganoli, gan ailosod perthynas â Llywodraethau datganoledig fel bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt i chwarae eu rhan wrth gyflenwi twf economaidd fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae’r naw cynllun arloesol anweithgarwch economaidd, gyda chymorth £125 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, yn rhoi pŵer i Lywodraeth Cymru a rhai Awdurdodau Maerol i gynllunio cynigion gwaith, iechyd a sgiliau ar y cyd.
  • Mae cyllid i’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi’i ddatganoli yn y ffordd arferol.
  • Mae mesurau cymorth cyflogaeth yn cael eu trosglwyddo’n llawn i Ogledd Iwerddon. Cedwir gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith yn ôl yng Nghymru a’r Alban, ond mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu mathau eraill o gymorth cyflogaeth.
  • Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu sefydlu trefniadau llywodraethu newydd gyda Llywodraeth Cymru a’r Alban i helpu i fframio trafodaethau ynghylch diwygio Canolfannau Gwaith a chytuno ar y ffordd orau o weithio mewn partneriaeth ar uchelgais cyflogaeth a rennir ar draws darpariaeth ddatganoledig a dapariaeth a gedwir yn ôl.
  • Ym mis Ebrill, daeth cynnydd Llywodraeth y DU i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol i rym, gan roi mwy o arian i bocedi pobl. Bydd gweithwyr llawn amser ar y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael hwb blynyddol o £1,400, tra gallai gweithwyr amser llawn ar yr Isafswm Cyflog weld hwb o £2,500 blynyddol.

Mae manylion y cynllun arloesol anweithgarwch cyntaf, yn Ne Swydd Efrog, ar gael yma: https://www.gov.uk/government/news/south-yorkshire-kicks-off-125-million-plans-to-get-britain-back-to-health-and-work

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2025