Publication

Y lefelau gwasanaeth gofynnol os bydd streic: gwasanaethau ysbyty yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

Published 16 October 2023

Applies to England, Scotland and Wales

Rhagair

Yn rhinwedd fy swydd yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, diogelu a gwella iechyd a lles y cyhoedd yw fy mhrif bwyslais. Mae sicrhau y gall ein gwasanaethau iechyd barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i drin a chefnogi cleifion yn ystod eu cyfnod o angen yn brif flaenoriaeth i’r llywodraeth hon. Rwy’n ddiolchgar i’n staff gofal iechyd ymroddedig a medrus ar draws y GIG am eu hymdrechion parhaus i ofalu am gleifion ac i addasu i anghenion iechyd newidiol ein poblogaeth.

Mae’n hanfodol cadw cleifion yn ddiogel yn ystod gweithredu diwydiannol mewn gwasanaethau iechyd. Gall aflonyddwch a achosir gan weithredu diwydiannol achosi pryder i gleifion ac ansicrwydd i gyflogwyr, gan ychwanegu risg i ddiogelwch cleifion oherwydd staff annigonol i ddarparu triniaeth ac apwyntiadau arfaethedig, gweithrediadau a gwasanaethau eraill yn cael eu canslo.

Mae’r gallu i streicio yn rhan bwysig o gysylltiadau diwydiannol yn y DU. Fodd bynnag, mae angen i ni gynnal cydbwysedd rhesymol rhwng gallu gweithwyr i streicio â’n rhwymedigaeth i ddiogelu bywydau ac iechyd y cyhoedd.

Yn gynharach eleni, gwnaethom lansio ymgynghoriad ar gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn gwasanaethau ambiwlans, o ystyried y swyddogaeth ganolog y mae’r gwasanaethau hynny yn ei chwarae wrth ymateb i gleifion mewn sefyllfaoedd brys. Yn awr, hoffem glywed eich safbwyntiau ar gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau hanfodol yn yr ysbyty. Bydd eich sylwadau yn helpu i lywio’r penderfyniad ynghylch a fydd lefel gwasanaeth gofynnol yn cael ei chyflwyno ar gyfer y gwasanaethau hyn, ac os bydd, ble i osod y lefel i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael blaenoriaeth.

Byddai ein cynnig rhagarweiniol yn ei gwneud yn ofynnol i rai staff ysbyty weithio yn ystod streiciau i sicrhau y gall gofal hanfodol a chritigol o ran amser barhau yn ystod cyfnodau o streicio, ar gyfer y rhai y mae angen gofal arnynt.

Ar hyn o bryd, yn ystod streic, mae cyflogwyr yn negodi gydag undebau llafur i geisio cytundeb i ddarparu lefel benodol o ddirprwyaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd â blaenoriaeth er mwyn diogelu bywyd ac iechyd. Mae’r cytundebau hyn, a elwir yn ‘rhanddirymiadau’, yn golygu bod rhai aelodau neu grwpiau o staff wedi eu heithrio rhag streicio er mwyn darparu’r ddirprwyaeth sydd ei hangen i ofalu am gleifion sydd mewn perygl o niwed.

Mae rhanddirymiadau yn gwbl ddibynnol ar ewyllys da gan yr undebau a’r staff. Yn ystod rhai streiciau, mewn rhai lleoedd, cytunwyd ar randdirymiadau mewn da bryd, ond mewn eraill, ni wnaeth yr undebau gytuno arnynt tan yn hwyr iawn neu ni wnaethant gytuno arnynt cyn i’r streic ddechrau, a effeithiodd yn enwedig ar wasanaethau ysbyty. Mae hyn wedi arwain at staff yn peidio â mynd i’r gwaith pan oedd cyflogwyr wedi deall y byddent yn gwneud hynny, a diogelwch cleifion yn cael ei roi mewn perygl wrth i sefyllfaoedd gael eu datrys: mae apwyntiadau brys wedi eu canslo ar y diwrnod, wardiau wedi cau yn annisgwyl, a gofal brys yn cael ei gyfaddawdu. Er enghraifft, yn ystod y streic gan feddygon iau ym mis Awst 2023, gwrthododd Cymdeithas Feddygol Prydain 17 o geisiadau am randdirymiadau pan oedd arweinwyr clinigol lleol a’u cynrychiolwyr lleol eu hunain wedi cytuno ei bod yn angenrheidiol ac yn rhesymol cadw cleifion yn ddiogel.

Y risg sylweddol o niwed i gleifion ysbyty pan fo undebau wedi gwrthod cytuno ar randdirymiadau gwirfoddol synhwyrol yw’r rheswm ein bod wedi penderfynu ymgynghori ar a ddylid rhoi lefelau gwasanaeth gofynnol statudol ar waith ar gyfer gwasanaethau ysbyty ac ar ba lefel.

Diolch am gymryd o’ch amser i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, er mwyn sicrhau bod y GIG yn parhau i fod yn barod i helpu pob un ohonom pan fydd ei angen arnom fwyaf.

Y Gwir Anrhydeddus Steve Barclay AS, Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cefndir

Yn ôl adran 234F o Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, mae’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymgynghori cyn gwneud rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol ynghylch pa wasanaethau iechyd a ddylai fod yn berthnasol, os o gwbl, a beth fyddai’r lefel gwasanaeth priodol. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi lansio’r ymgynghoriad hwn er mwyn bodloni’r gofynion hyn mewn cysylltiad â gwasanaethau ysbyty.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lloegr) yn ceisio safbwyntiau ynghylch cyflwyno rheoliadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (hynny yw, Prydain Fawr). Pe byddant yn cael eu gweithredu, byddai’r rheoliadau hyn yn golygu y gallai cyflogwr gyflwyno hysbysiad gwaith sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn weithio drwy streic, er mwyn i’r gwasanaethau ysbyty sy’n gritigol o ran amser a nodir yn y lefel gwasanaeth gofynnol barhau. Pe byddant yn cael eu gweithredu, byddai’r rheoliadau yn cael eu cyflwyno o dan y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Neddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymgynghori ar gymhwyso lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer sectorau eraill. Mae bellach yn cynnig y dylai’r gwasanaethau ysbyty mwyaf hanfodol a mwyaf critigol o ran amser—y rhai sy’n darparu triniaeth meddygol brys, ac a allai achosi niwed sylweddol i ddiogelwch cleifion pe na fyddent ar gael—gael eu cwmpasu gan lefelau gwasanaeth gofynnol. Bydd eich atebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniadau ar yr hyn a ganlyn:

  • a ddylai gwasanaethau ysbyty gael eu cynnwys mewn rheoliadau
  • os felly, pa wasanaethau ysbyty y dylid eu cynnwys mewn rheoliadau ac a ddylid cynnwys unrhyw wasanaethau iechyd y tu allan i ysbytai
  • os felly, y lefelau gwasanaethau gofynnol priodol sydd eu hangen

Dyma’r gynulleidfa darged:

  • y cyhoedd yn gyffredinol (gan gynnwys cleifion ac aelodau o’r teulu neu ofalwyr)
  • undebau llafur
  • cyflogwyr y GIG a’r gwasanaeth iechyd
  • sefydliadau cynrychiadol a chyrff proffesiynol
  • gweithwyr yn y gwasanaethau iechyd
  • gweithwyr mewn unrhyw wasanaethau eraill y mae streiciau yn y GIG yn effeithio arnynt
  • grwpiau cleifion

Crynodeb o Ddeddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023

Trosolwg o’r ddeddf

Mae’r ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ddeddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 er mwyn:

  • sefydlu pwerau fel y gall y llywodraeth wneud rheoliadau i bennu lefelau gwasanaeth gofynnol mewn rhai gwasanaethau mewn sectorau allweddol, megis gofal iechyd, tân ac achub, a gwasanaethau trafnidiaeth. Fel y nodir yn y ddeddf, rhaid i’r llywodraeth ymgynghori cyn cyflwyno rheoliadau ar gyfer cymeradwyaeth y Senedd
  • galluogi cyflogwyr mewn gwasanaethau penodedig i gyflwyno hysbysiadau gwaith i restru’r gweithlu sydd ei angen i sicrhau’r lefel gwasanaeth gofynnol ar ddiwrnod streic
  • ychwanegu rhwymedigaeth newydd i undebau gymryd camau rhesymol (a amlinellir yn y cod ymarfer drafft) i sicrhau cydymffurfiaeth â hysbysiadau gwaith y rhestr o ofynion sydd eu hangen i ddiogelu streic yr undeb rhag atebolrwydd mewn camwedd, lle mae lefelau gwasanaeth gofynnol wedi eu gwneud

Sut mae lefelau gwasanaeth gofynnol yn gweithio

Mae’r ddeddf yn cynnwys pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol roi lefelau gwasanaeth gofynnol mewn rheoliadau. Nod y ddeddf yw cyfyngu effeithiau streicio ar fywydau a bywoliaethau’r cyhoedd a sicrhau cydbwysedd rhwng gallu undebau a’u haelodau i streicio â hawliau’r cyhoedd ehangach i allu defnyddio gwasanaethau allweddol yn ystod streiciau.

Nod cyflwyno deddfwriaeth lefel gwasanaeth gofynnol yw galluogi pobl i barhau i deithio i’w gweithle, i ddefnyddio gwasanaethau addysg a gofal iechyd, ac i fynd o gwmpas eu pethau bob dydd yn ystod streiciau, gan gydbwyso hyn â’r gallu i streicio. Pan fo lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael eu cymhwyso, dylai olygu bod lefel fwy cyson o wasanaeth i’r cyhoedd o streic i streic, yn ogystal â lleihau’r amgylchiadau lle nad oes unrhyw wasanaethau o gwbl. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd a gwarchod rhag risgiau anghymesur i fywydau a bywoliaethau.

Hysbysiadau gwaith

Pan fo rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol ar waith, a phan fo undeb llafur yn rhoi hysbysiad o streic i gyflogwr sy’n darparu gwasanaeth perthnasol (fel y nodir yn y rheoliadau), caiff y cyflogwr gyflwyno hysbysiad (a elwir yn ‘hysbysiad gwaith’) i bennu’r bobl y mae’n ofynnol iddynt weithio a’r gwaith y mae’n rhaid iddynt ei wneud i sicrhau lefel gwasanaeth gofynnol am y cyfnod streic hwnnw. Mae’n rhaid i’r cyflogwr ymgynghori â’r undeb ynghylch y nifer o bobl i’w nodi, gan amlinellu’r gwaith yn yr hysbysiad gwaith a rhoi sylw i’w safbwyntiau cyn cyflwyno’r hysbysiad gwaith.

Cwmpas daearyddol

Mae’r ddeddf yn berthnasol i Brydain Fawr. Mae’r ddeddf yn galluogi Llywodraeth y DU i gymhwyso lefelau gwasanaeth gofynnol i sectorau allweddol ledled Prydain Fawr, gan gynnwys gwasanaethau iechyd. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn effeithio ar gyflogwyr sy’n gweithredu gwasanaethau y mae’r cyfrifoldeb am y gwasanaethau hynny wedi ei ddatganoli i lywodraethau’r Alban neu Gymru. Yn rhan o ddatblygu lefelau gwasanaeth gofynnol a’r ymgynghoriadau y mae’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt eu llywio, bydd y llywodraeth yn gofyn am safbwyntiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar gwmpas daearyddol y rheoliadau—gan gydnabod mewn rhai achosion y gallai cymhwyso lefelau isafswm gwasanaeth effeithio ar gyflogwyr sy’n gweithredu gwasanaethau sydd wedi eu datganoli. Gan fod cyfraith cyflogaeth wedi ei datganoli yng Ngogledd Iwerddon, mater i Gynulliad Gogledd Iwerddon yw asesu a ddylid cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n caniatáu i lefelau gwasanaethau gofynnol gael eu pennu pe byddai achosion o streicio.

Y cyd-destun cyfreithiol

Asiantaeth arbenigol o’r Cenhedloedd Unedig sy’n hybu cyfiawnder cymdeithasol a hawliau gweithwyr yw’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol. Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol wedi datgan bod modd cyfiawnhau lefelau gwasanaeth gofynnol mewn rhai sefyllfaoedd er mwyn diogelu gwasanaethau hanfodol.

Nod ein cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn gwasanaethau ysbyty sy’n gritigol o ran amser yw diogelu bywydau, diogelwch ac iechyd. Mae’r llywodraeth o’r farn ei bod yn ymyrraeth gyfreithlon sy’n gymesur â’r hawl i streicio, oherwydd ei fod yn ‘wasanaeth hanfodol’ a fyddai, pe byddai’n cael ei atal, yn ‘peryglu bywydau, diogelwch personol neu iechyd’ y cyhoedd. O’r herwydd, rydym o’r farn bod y cynnig yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gallu gweithwyr i streicio a diogelu rhyddid a hawliau pobl eraill.

Cymariaethau rhyngwladol

Mae darpariaethau lefel gwasanaeth gofynnol eisoes ar waith i raddau amrywiol mewn sawl gwlad yng ngorllewin Ewrop, er mwyn cynnal y gallu i ddefnyddio gwasanaethau hanfodol yn ystod streic. Yn yr Eidal, ystyrir gwasanaethau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau brys, megis unedau gofal dwys a gwasanaethau ambiwlans, yn wasanaethau cyhoeddus hanfodol ac mae’n rhaid eu gwarantu o dan Gyfraith 146/90. Ar gyfer gwasanaethau megis diagnosteg a therapiwteg, dylid cynnal y lefel o wasanaeth a ddarperir yn ystod gwyliau cyhoeddus. Yn Ffrainc, ystyrir y lefelau staffio a ddarperir ar y Sul neu wyliau cyhoeddus yn bwynt cyfeirio pan fo cyflogwyr ac undebau yn cytuno ar y lefel gwasanaeth gofynnol y mae angen ei darparu yn ystod gweithredu diwydiannol.

Crynodeb o’r cynnig

Yr angen am lefel gwasanaeth gofynnol ysbyty

Mae cleifion wrth wraidd gwasanaethau gofal iechyd, a’u lles, eu diogelwch a pharhad gofal yw ein blaenoriaeth, yn enwedig yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol. Yn ystod amgylchiadau arferol, mae gan bob claf mewn ysbyty yr hawl i ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd amserol ac o ansawdd, p’un a ydynt yn mynd i archwiliad rheolaidd, yn rheoli cyflwr cronig, yn ceisio gofal brys neu’n gofyn am driniaeth arbenigol. Mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl, gwasanaethau anhwylderau bwyta a chanolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol lle byddant yn cael triniaeth gan ysbytai yn ogystal â phroblemau iechyd corfforol.

Mae gweithredu diwydiannol yn peri risg sylweddol i weithrediad rhwydd y gwasanaethau hyn, gan arwain y posibilrwydd o oedi niweidiol, gallu cyfyngedig i gael gofal hanfodol a baich cynyddol ar staff ac adnoddau. Mae cleifion sydd angen gofal brys, gweithdrefnau brys a thriniaeth arall sy’n gritigol o ran amser yn enwedig o agored i wasanaethau y terfir arnynt. Yn aml, mae’r cyflyrau hyn yn gofyn am driniaeth ar unwaith neu sylw di-dor er mwyn atal cymhlethdodau difrifol neu farwolaeth hyd yn oed, sy’n golygu bod dibynadwyedd y math hwn o wasanaeth yn hanfodol bwysig, hyd yn oed yn ystod cyfnodau o streicio.

Rydym wedi casglu tystiolaeth am yr effaith y mae gweithredu diwydiannol wedi ei chael ar wasanaethau yn ysbytai y GIG ers mis Rhagfyr 2022. Dengys y dystiolaeth hon fod streiciau wedi bod yn hynod aflonyddgar, ac ar adegau eu bod wedi cynyddu’n sylweddol y risg o gyfaddawdu diogelwch cleifion. Er bod sefydliadau’n gweithio’n galed i liniaru effeithiau pob streic, mae bron i 900,000 o apwyntiadau wedi eu haildrefnu oherwydd streiciau ers mis Rhagfyr 2022.

Hefyd, datganwyd 22 o ddigwyddiadau critigol oherwydd gweithredu diwydiannol. Mewn dau achos, bu’n rhaid symud rhai cleifion gofal critigol a chleifion gynaecoleg i ysbytai eraill oherwydd niferoedd staffio annigonol. Bu’n rhaid aildrefnu rhai apwyntiadau llawdriniaeth canser a chemotherapi brys ac ni ellid bwrw ymlaen â rhai llawdriniaethau brys ar gleifion trawma. Cafodd unedau mân anafiadau, canolfannau triniaeth brys ac un adran frys eu cau. Mae hyn yn ogystal â chanslo llawdriniaethau a gynlluniwyd ac apwyntiadau arferol nad oeddent yn rhai brys neu’n peryglu bywyd. Er bod amseroedd aros llai mewn adrannau brys yn ystod rhai o’r streiciau, roedd hyn yn rhannol oherwydd bod rhannau eraill o’r GIG yn cynnig gwasanaeth sylweddol is, neu oherwydd nad oeddent yn cynnig gwasanaeth o gwbl, ar ddiwrnodau streic.

Pan fo streiciau’n cael eu galw, mae’r GIG yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Mewn rhai achosion, mae undebau wedi cefnogi hyn drwy randdirymiadau gwirfoddol y cytunwyd arnynt mewn da bryd. Fodd bynnag, mewn gwasanaethau eraill lle y cytunwyd ar randdirymiadau ychydig cyn i’r streic ddechrau, nid aeth rhai aelodau o staff i’r gwaith pan oedd cyflogwyr wedi deall y byddent yn gwneud hynny, a rhoddwyd diogelwch cleifion mewn perygl wrth i sefyllfaoedd gael eu datrys, mae apwyntiadau brys wedi eu canslo ar y diwrnod, wardiau wedi cau yn annisgwyl, a chyfaddawdwyd gofal brys. Er enghraifft, yn ystod y streic gan feddygon iau ym mis Awst 2023, gwrthododd Cymdeithas Feddygol Prydain 17 o geisiadau am randdirymiadau yn benodol mewn ysbytai lle’r oedd uwch-arweinwyr clinigol lleol a’u cynrychiolwyr lleol eu hunain wedi cytuno ei bod yn angenrheidiol ac yn rhesymol cadw cleifion yn ddiogel.

O’r herwydd, mae profiad wedi dangos bod risg o niwed i gleifion ysbyty drwy ddibynnu ar randdirymiadau gwirfoddol yn unig, yn enwedig pan na fydd undeb yn cytuno ar randdirymiadau. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi penderfynu ymgynghori ar a ddylid rhoi lefelau gwasanaeth gofynnol statudol ar waith ac ar ba lefel y dylid gwneud hynny. Byddai’r risg hon yn cynyddu ymhellach pe byddai undebau llafur ar wahân yn dewis galw ar fwy nag un grŵp proffesiynol i weithredu’n ddiwydiannol ar yr un pryd, er enghraifft meddygon a nyrsys.

Mae cwmpas yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau ysbyty. Os daw’n amlwg yn ddiweddarach, fod streicio yn effeithio ar y risgiau i fywyd a niwed sy’n newid bywydau cleifion sydd angen derbyn gofal iechyd mewn lleoliadau cymunedol, efallai y bydd achos dros ymgynghoriadau pellach sy’n cwmpasu’r rhannau hyn o wasanaethau’r GIG. Gofynnwn am eich safbwyntiau ar hyn yn yr ymgynghoriad hwn.

Lefel gwasanaeth gofynnol arfaethedig ar gyfer gwasanaethau ysbyty pe byddai achos o weithredu diwydiannol

Rydym yn cynnig bod ysbytai yn trin pobl sydd angen triniaeth frys yn yr ysbyty a phobl sy’n derbyn gofal ysbyty ac nad ydynt eto’n ddigon da neu’n gallu cael eu rhyddhau, yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol fel y byddent ar ddiwrnod pan nad oes streic. Byddai hyn yn golygu y gallai’r setiau canlynol o gleifion ddisgwyl cael eu trin fel y byddent ar ddiwrnod pan nad oes streic:

  • cleifion mewnol sydd eisoes yn derbyn gofal yn yr ysbyty
  • cleifion presennol y mae angen triniaeth dewisol brys arnynt a fyddai’n arfer yn cael ei chyflawni yn ystod y cyfnod gweithredu diwydiannol (er enghraifft, pobl sydd ar restrau llawdriniaeth ddewisol blaenoriaeth 1 neu flaenoriaeth 2 (llawdriniaeth sydd ei hangen o fewn 72 awr ar gyfer blaenoriaeth 1, neu 4 wythnos ar gyfer blaenoriaeth 2), pobl sydd angen dialysis, cleifion trawsblaniad pan nodir cydweddiad â darpar roddwr, toriad cesaraidd dewisol neu gychwyn yr esgor)
  • cleifion presennol y bydd neu efallai y bydd angen asesiad brys neu gritigol, diagnosteg neu driniaeth yn yr ysbyty arnynt (er enghraifft, diagnosteg a thriniaeth canser neu gardiaidd, ond nid, er enghraifft, triniaeth arferol i osod pen-glin neu glun newydd)
  • cleifion newydd sy’n ymgyflwyno i’r ysbyty fel cleifion y mae arnynt angen asesiad, diagnosteg a/neu driniaeth heb eu cynllunio yn yr ysbyty (er enghraifft, pobl sy’n ymgyflwyno i adrannau brys, pobl sy’n esgor)

Wrth benderfynu pa driniaethau y mae angen bwrw ymlaen â nhw yn ystod y cyfnod o streicio, mae angen ystyried hyd y streic. Ar gyfer cyfnodau byr o weithredu, gallai’r gwasanaeth a ddarperir edrych yn debyg i’r hyn sydd ar gael fel arfer ar y Sul. Fodd bynnag, nid yw hon yn rheol bendant a byddai angen ei haddasu ar gyfer cyfnod o streicio hirach. Er enghraifft, byddai gofal yn cael ei ddarparu i bobl sy’n ymgyflwyno i adrannau brys, pobl sy’n esgor, diagnosteg a thriniaeth canser neu gardiaidd, pobl sydd ar restrau llawdriniaeth blaenoriaeth 1 neu flaenoriaeth 2, pobl sydd angen dialysis, toriad cesaraidd dewisol, neu gychwyn yr esgor a phobl sydd angen llawdriniaeth trawsblannu ond nid, er enghraifft, triniaeth arferol i osod pen-glin neu glun newydd.

Os bwriedir i’r gweithredu diwydiannol bara am fwy na 24 awr (neu os yw’n gyfagos i benwythnos), bydd angen rhoi cyfrif am ystyriaethau eraill oherwydd bod nifer o wasanaethau ysbyty nad ydynt yn arfer digwydd ar y Sul ond sy’n glinigol arwyddocaol ac y byddai angen rhoi cyfrif amdanynt mewn streic o’r fath. Er enghraifft, nid yw radiotherapi na dialysis yn arfer yn rhedeg ar y Sul, ond byddai angen iddynt fod ar gael i gleifion ar ryw adeg yn ystod streiciau hirach er mwyn atal niwed. Mae gofal cardiaidd, pediatrig ac obstetreg (megis toriad cesaraidd dewisol) yn enghreifftiau eraill o weithdrefnau sy’n gritigol o ran amser. Byddai angen i’r mathau hyn o driniaethau a gweithdrefnau fod ar gael am resymau clinigol yn ystod unrhyw gyfnod hirach o weithredu diwydiannol fel nad yw cleifion mewn perygl o golli bywyd neu niwed sy’n newid eu bywydau drwy atal y llwybr triniaeth glinigol. Byddai angen i arweinyddiaeth pob ysbyty benderfynu faint o staff, ym mha grwpiau proffesiynol, y byddai eu hangen arnynt i reoli’r gwasanaethau sy’n hanfodol o ran amser hyn yn briodol yn ystod y cyfnod gweithredu diwydiannol arfaethedig, er mwyn penderfynu faint o bobl y byddai angen cyflwyno hysbysiad gwaith iddynt.

Rydym yn cynnig y byddai angen darparu’r holl wasanaethau ategol perthnasol a gynhelir gan ysbytai hefyd i sicrhau bod y lefel gwasanaeth gofynnol a ddisgrifir uchod yn gallu gweithredu’n ddiogel ac yn effeithiol. Mae enghreifftiau o’r gwasanaethau ategol hyn yn cynnwys theatrau, arlwyo a glanhau, cymorth i gleifion a ryddheir, gwasanaethau marwdy, patholeg, cefnogaeth technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), ystadau a chludiant cleifion.

Rydym hefyd o’r farn y byddai angen rhoi cyfrif am effaith gronnol gweithredu diwydiannol wrth benderfynu cyhoeddi hysbysiadau gwaith i ddarparu’r lefel gwasanaeth gofynnol a ddisgrifir ar ddechrau’r adran hon. Byddem yn disgwyl i’r GIG ystyried a fydd mwy nag un undeb neu broffesiwn yn streicio ar yr un pryd.

Nid ydym yn bwriadu cyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gweithdrefnau neu wasanaethau pan nad yw’r oedi yn achosi risg i fywyd neu niwed sylweddol, er ein bod yn cydnabod yn llawn y gallai’r oedi hynny achosi trallod i’r cleifion dan sylw. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, gosod cymalau newydd, profion diagnostig nad ydynt yn rhai brys ac adolygiadau cleifion allanol. Byddai’r gwasanaethau hyn yn lleihau’n sylweddol neu’n cau yn ystod cyfnod o weithredu diwydiannol ac ni fyddent yn parhau oni bai bod modd iddynt gael eu darparu gan staff nad yw mandad y streic yn effeithio arnynt neu oherwydd eu bod wedi nodi’n wirfoddol ymlaen llaw nad oeddent yn bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol.

Nid ydym yn cynnig bod angen i staffio’r lefel gwasanaeth gofynnol fod yn ddigonol i ymateb i ddigwyddiad mawr na ellir ei ragweld. Ein disgwyliad yw y byddai digon o staff y GIG yn dychwelyd i’r gwaith er mewn ymateb i ddigwyddiad mawr yn wirfoddol, ni waeth a oes ganddynt gefnogaeth ddatganedig eu hundeb, yn lleol neu’n genedlaethol. Mae hyn yn unol â’u rhwymedigaethau proffesiynol fel clinigwyr.

O ystyried natur amrywiol a lleol gwasanaethau’r GIG, rydym yn cynnig mai ymddiriedolaethau lleol y GIG, byrddau iechyd, a’u comisiynwyr sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu yn union sut y dylai gwasanaethau weithredu a nifer y staff sydd ei angen i ddarparu’r lefel gwasanaeth gofynnol a nodir ar ddechrau’r adran hon. Er enghraifft, gallai ymddiriedolaethau a byrddau iechyd gyfuno rhai gwasanaethau mewn un safle neu ar ddiwrnodau penodol o’r cyfnod gweithredu diwydiannol yn hytrach na chael lefelau is o wasanaethau ar draws sawl safle neu ddiwrnod.

Mae enghreifftiau a roddir yn yr ymgynghoriad hwn yn dangos sut y gellid cymhwyso egwyddorion arfaethedig lefel gwasanaeth gofynnol. Nid ydym wedi ceisio cynnwys pob enghraifft bosibl o’r ystod eang o wasanaethau ysbyty y gellid eu cwmpasu gan y lefel gwasanaeth gofynnol arfaethedig.

Ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd sy’n gweithredu ysbytai’r GIG ym Mhrydain Fawr. Caiff ymddiriedolaethau’r GIG a byrddau iechyd is-gontractio rhywfaint o’u gwaith i sefydliadau eraill. Er enghraifft, gall hyn gynnwys contractio gwasanaethau glanhau neu wasanaethau cymorth eraill i gwmni preifat neu ymrwymo i drefniadau lle mae un ymddiriedolaeth yn darparu elfennau o ofal ar draws ardal fwy, er enghraifft gwasanaethau ffisiotherapi. Efallai y bydd darparwyr trydydd sector, megis mentrau cymdeithasol neu elusennau, yn cael eu comisiynu i ddarparu rhai gwasanaethau. Caiff sefydliadau eraill y GIG ddarparu gwasanaethau sy’n cefnogi triniaeth ysbyty hefyd, er enghraifft mae gwasanaethau gwaed a thrawsblannu yn hwyluso triniaeth sydd angen platennau gwaed neu organau rhoddedig.

Mae hyn yn golygu efallai na fydd ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd yn defnyddio’r holl staff sy’n hanfodol i’r gofal a ddarperir gan ysbytai. Gan mai dim ond y sefydliad sy’n cyflogi aelod o staff a allai streicio sy’n gallu cyhoeddi hysbysiad gwaith, rydym yn gofyn am eich safbwyntiau ynghylch a ddylai’r lefel gwasanaeth gofynnol gwmpasu pob sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar ran ysbytai.

Sut i ymateb

Ymatebwch gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein.

Os oes angen unrhyw eglurhad ar y ddogfen ymgynghori arnoch, e-bostiwch hospitalmslconsultation@dhsc.gov.uk. Peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth bersonol nac ymatebion i’r ymgynghoriad at y cyfeiriad e-bost hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn agored am wyth wythnos. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 11:59pm ar 11 Rhagfyr 2023.

Cwestiynau ymgynghori

Y cynnig gwasanaethau lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ysbyty

Yn ystod streic, mae cyflogwyr yn negodi gydag undebau llafur i geisio cytundeb i ddarparu lefel benodol o ddirprwyaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd â blaenoriaeth er mwyn diogelu bywyd ac iechyd. Mae’r cytundebau hyn, a elwir yn ‘rhanddirymiadau’, yn golygu bod rhai aelodau neu grwpiau o staff wedi eu heithrio rhag streicio er mwyn darparu’r ddirprwyaeth sydd ei hangen i ofalu am gleifion sydd mewn perygl o niwed. Mae rhanddirymiadau yn gwbl ddibynnol ar ewyllys da gan yr undebau a’r staff. Yn ystod rhai streiciau, cytunwyd ar randdirymiadau mewn da bryd, ond mewn eraill, ni wnaeth yr undebau gytuno arnynt tan yn hwyr iawn neu ni wnaethant gytuno arnynt cyn i’r streic ddechrau, a effeithiodd yn enwedig ar wasanaethau ysbyty.

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y trefniadau presennol yn ddigonol i ddarparu dirprwyaeth ar gyfer gwasanaethau hanfodol?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

Rydym yn cynnig cyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol fel mesur ychwanegol i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i ddefnyddio gwasanaethau hanfodol yn ystod streic. Y cynnig yw y bydd ysbytai yn trin pobl, sydd angen triniaeth frys yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod gweithredu diwydiannol a phobl sy’n derbyn gofal ysbyty ac nad ydynt eto’n ddigon da neu’n gallu cael eu rhyddhau, fel y byddent ar ddiwrnod pan nad oes streic.

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic er mwyn cyflawni’r nod hwn?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 500 o eiriau).

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion mewnol sydd eisoes yn derbyn gofal ysbyty:

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion presennol sydd angen triniaeth ddewisol ar frys?

Er enghraifft, rhestrau llawdriniaeth dewisol blaenoriaeth 1 neu flaenoriaeth 2, dialysis, toriad cesaraidd dewisol, neu gychwyn yr esgor.

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion presennol sydd angen asesiadau brys neu gritigol, diagnosteg neu driniaeth?

Nid yw hyn yn cynnwys gweithdrefnau arferol megis gosod pen-glin neu glun newydd.

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion newydd sy’n ymgyflwyno i’r ysbyty fel cleifion y mae angen asesiad, diagnosteg a/neu driniaeth heb eu cynllunio arnynt?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

Rydym yn cynnig bod ysbytai yn trin pobl, sydd angen triniaeth frys yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod gweithredu diwydiannol, a phobl sy’n derbyn gofal ysbyty ac nad ydynt eto’n ddigon da neu’n gallu cael eu rhyddhau, fel y byddent ar ddiwrnod pan nad oes streic. Felly, dylai’r lefel gwasanaeth gofynnol sydd ei hangen i sicrhau bod y driniaeth hon yn cael ei darparu i gleifion mewn ysbytai yn ystod streiciau gael eu llywio gan farn glinigol arbenigol, sy’n golygu y gallai’r setiau canlynol o gleifion ddisgwyl cael eu trin fel y byddent ar ddiwrnod pan nad oes streic:

  • cleifion mewnol sydd eisoes yn derbyn gofal yn yr ysbyty
  • cleifion presennol y mae angen triniaeth dewisol brys arnynt a fyddai’n arfer yn cael ei chyflawni yn ystod y cyfnod gweithredu diwydiannol (er enghraifft, pobl sydd ar restrau llawdriniaeth ddewisol blaenoriaeth 1 neu flaenoriaeth 2 (llawdriniaeth sydd ei hangen o fewn 72 awr ar gyfer blaenoriaeth 1, neu 4 wythnos ar gyfer blaenoriaeth 2), pobl sydd angen dialysis, cleifion trawsblaniad pan nodir cydweddiad â darpar roddwr, toriad cesaraidd dewisol neu gychwyn yr esgor)
  • cleifion presennol y bydd neu efallai y bydd angen asesiad brys neu gritigol, diagnosteg neu driniaeth yn yr ysbyty arnynt (er enghraifft, diagnosteg a thriniaeth canser neu gardiaidd, ond nid, er enghraifft, triniaeth arferol i osod pen-glin neu glun newydd)
  • cleifion newydd sy’n ymgyflwyno i’r ysbyty fel cleifion y mae arnynt angen asesiad, diagnosteg a/neu driniaeth heb eu cynllunio yn yr ysbyty (er enghraifft, pobl sy’n ymgyflwyno i adrannau brys, pobl sy’n esgor)

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chaniatáu i glinigwyr lleol benderfynu a yw eu cleifion yn dod o dan y categorïau lefelau gwasanaeth gofynnol a amlinellir yn yr egwyddorion a restrir uchod yn ystod streic?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

Mae ysbytai’r GIG ym Mhrydain Fawr yn cael eu gweithredu gan ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd, a gaiff is-gontractio rhywfaint o’u gwaith i sefydliadau eraill. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau glanhau neu wasanaethau cymorth eraill sy’n cael eu contractio i gwmni preifat, darparwyr trydydd sector, megis mentrau cymdeithasol neu elusennau yn darparu rhai gwasanaethau, neu sefydliadau eraill y GIG yn darparu gwasanaethau sy’n cefnogi triniaethau ysbyty, gan gynnwys gwasanaethau gwaed a thrawsblannu sy’n hwyluso triniaethau y mae angen platennau gwaed neu organau rhoddedig arnynt.

Mae hyn yn golygu efallai na fydd ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd yn defnyddio’r holl staff sy’n ymwneud â chyflawni gofal hanfodol a ddarperir gan ysbytai. Wrth ysgrifennu rheoliadau’r lefel gwasanaeth gofynnol, gallai’r Ysgrifennydd Gwladol nodi’r math o sefydliadau y mae’r lefel gwasanaeth gofynnol yn berthnasol iddynt. Gallai hyn gyfyngu ar y mathau o gyflogwyr sy’n gallu rhoi hysbysiad gwaith i sicrhau parhad gwasanaethau ysbyty hanfodol yn ystod streic.

Os cyflwynir rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ysbyty, pa fathau o gyflogwyr y dylid eu pennu i ddilyn y rheoliadau hyn yn ystod streic?

  • Pob sefydliad sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau ysbyty y GIG gan gynnwys ymddiriedolaethau’r GIG a byrddau iechyd, a sefydliadau eraill y GIG, cwmnïau preifat a sefydliadau trydydd sector megis elusennau a mentrau cymdeithasol
  • Pob sefydliad sy’n gysylltiedig â’r GIG sydd wedi ei gontractio i ddarparu gwasanaethau ysbyty
  • Dim ond ymddiriedolaethau y GIG a byrddau iechyd
  • Ni ddylid pennu unrhyw gyflogwyr drwy reoliadau lefel gwasanaeth gofynnol
  • Ddim yn gwybod
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

Rydym yn cynnig cyflwyno lefel gwasanaeth gofynnol na fyddai’n berthnasol ond i ofal ysbyty. Ni fyddai’r mesur hwn yn cynnwys gwasanaethau iechyd sydd ar gael yn y gymuned megis fferyllfeydd, meddygfeydd na thimau iechyd cymunedol.

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno na ddylai lefelau gwasanaeth gofynnol gynnwys gwasanaethau iechyd yn y gymuned?

  • Cytuno’n gryf
  • Cytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
  • Anghytuno
  • Anghytuno’n gryf

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

A ydych chi’n credu bod dewis arall i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn ysbytai, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu parhau i ddefnyddio gwasanaethau hanfodol a diogelu cleifion rhag risgiau i fywyd a niwed sy’n newid bywydau yn ystod streic?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

Effaith streicio mewn ysbytai

Profiad unigol

A oeddech chi, neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod, yn yr ysbyty neu angen mynd i’r ysbyty am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag iechyd ar ddiwrnod pan oeddech chi’n ymwybodol bod streic yn digwydd?

  • Oeddwn/oedd
  • Nac oeddwn/nac oedd

A ydych chi’n credu bod gweithredu diwydiannol ers mis Rhagfyr 2022 wedi effeithio ar eich iechyd, neu iechyd rhywun yr ydych yn ei adnabod?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb (hyd at 300 o eiriau).

Os oes gennych brofiad personol, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion a allai adnabod chi neu bobl eraill, megis eich enw.

Profiad y staff

A ydych chi’n credu bod gweithredu diwydiannol ers mis Rhagfyr 2022 wedi effeithio ar iechyd eich cleifion?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich ateb (hyd at 300 o eiriau).

Os oes gennych brofiad personol, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion a allai adnabod chi neu bobl eraill, megis eich enw.

Pa rai, os oes, o’r categorïau cleifion canlynol ydych chi’n credu yr effeithiwyd arnynt gan weithredu diwydiannol ers mis Rhagfyr 2022?

  • Cleifion sydd ag anghenion iechyd brys a chritigol
  • Cleifion ag anghenion iechyd eraill sy’n gritigol o ran amser (er enghraifft, dialysis, gofal canser, gwasanaethau mamolaeth, newyddenedigol, cardiaidd)
  • Cleifion sydd yn yr ysbyty am resymau nad ydynt yn rhai brys (er enghraifft, wardiau meddygol, gofal cleifion mewnol iechyd meddwl, diagnosteg, cymorth i gleifion a ryddheir, gofal diwedd oes)

Esboniwch eich ateb (hyd at 300 o eiriau).

Os oes gennych brofiad personol, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion a allai adnabod chi neu bobl eraill, megis eich enw.

Profiad ymddiriedolaeth y GIG neu fwrdd iechyd

A yw eich ymddiriedolaeth GIG neu fwrdd iechyd yn cynnal ysbyty a effeithiwyd gan streic ers mis Rhagfyr 2022?

  • Ydy
  • Nac ydy

Gan gydnabod efallai fod ffigurau manwl fod ar gael, rhowch eich amcangyfrif gorau ar gyfer y cwestiynau canlynol.

Beth oedd cyfanswm y diwrnodau yr effeithiodd streic ar ysbyty neu ysbytai a gynhelir gennych?

  • 0 i 10
  • 11 i 20
  • 21 i 30
  • 31 i 40
  • 41 i 50
  • Dros 50
  • Ddim yn gwybod
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

Faint o oriau ar y cyd a dreuliodd eich ymddiriedolaeth GIG neu reolwyr byrddau iechyd a chlinigwyr yn paratoi am y cyfnod diweddaraf o streicio sy’n effeithio ar eich sefydliad?

  • Dros 25 awr
  • 26 i 50 awr
  • 51 i 75 awr
  • 76 i 100 awr
  • Dros 100 awr
  • Ddim yn gwybod
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

Os gwnaethoch ofyn am randdirymiad gan undeb i liniaru effaith y cyfnod diweddaraf o streicio, faint o oriau ar y cyd y bu rheolwyr a chlinigwyr ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd yn eu treulio ar gyflwyno’r cais am randdirymiad?

  • Dros 25 awr
  • 26 i 50 awr
  • 51 i 75 awr
  • 76 i 100 awr
  • Dros 100 awr
  • Ddim yn gwybod
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

Faint ydych chi’n amcangyfrif y costiodd i’ch ymddiriedolaeth neu fwrdd iechyd barhau i ddarparu gwasanaethau ysbyty sy’n gritigol o ran amser yn ystod y cyfnod diweddaraf o streicio a effeithiodd ar eich sefydliad? Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, dreuliau megis taliadau goramser. Rhowch eich amcangyfrif gorau a nodwch y mathau o gostau a gynhwysir yn eich cyfrifiad (hyd at 250 o eiriau).

Yn seiliedig ar gynnig lefel gwasanaeth gofynnol yr ysbyty a amlinellir yn y ddogfen hon, sut fyddech chi’n cymharu’r ymrwymiad amser sydd ei angen ar gyfer gweithredu’r cynnig hwn â’r modd yr ydych yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd?

  • Yn llai dwys o ran amser na’r amser a dreulir yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd
  • Oddeutu’r un swm o amser a dreulir yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd
  • Yn fwy dwys o ran amser na’r amser a dreulir yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

A ydych yn rhagweld y bydd yr ymddiriedolaeth neu’r bwrdd iechyd yn mynd i gostau ychwanegol, naill fel costau sy’n digwydd unwaith neu gostau cylchol, o ganlyniad i weithredu lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ysbyty?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

Profiad undeb llafur

A yw eich undeb llafur wedi galw am weithredu diwydiannol mewn unrhyw ysbyty GIG ers mis Rhagfyr 2022?

  • Ydy
  • Nac ydy

Amcangyfrifwch gyfanswm yr oriau a dreuliwyd gan swyddogion eich undebau llafur i weithio gyda rheolwyr ysbytai lleol ac awdurdodau cenedlaethol megis GIG Lloegr er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd hanfodol yn parhau i fod ar gael yn ystod y streic diweddaraf yr oedd eich undeb yn rhan ohono.

Mae hyn yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i drafodaethau ar drefniadau arbennig megis rhanddirymiadau. Dewiswch y dewis agosaf.

  • Dros 25 awr
  • 26 i 50 awr
  • 51 i 75 awr
  • 76 i 100 awr
  • Dros 100 awr
  • Ddim yn gwybod
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

O ystyried y cynnig ar gyfer lefel gwasanaeth gofynnol ysbyty a’r cod ymarfer drafft ar y camau rhesymol y dylai undebau llafur eu cymryd, sut ydych chi’n rhagweld y bydd yr ymrwymiad amser i swyddogion eich undeb gymryd y camau rhesymol hyn yn cymharu â’r amser a dreulir ar hyn o bryd yn gweithio gydag ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd wrth baratoi am weithredu diwydiannol?

  • Yn llai dwys o ran amser na’r amser a dreulir yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd
  • Oddeutu’r un swm o amser a dreulir yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd
  • Yn fwy dwys o ran amser na’r amser a dreulir yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd
  • Ddim yn gwybod

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

A ydych yn rhagweld y bydd eich undeb llafur yn mynd i gostau newydd, boed yn gostau sy’n digwydd unwaith neu’n gostau cylchol, wrth weithredu’r camau rhesymol fel yr amlinellir yn y cod ymarfer drafft?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Ddim yn gwybod
  • Mae’n well gen i beidio â dweud

Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol (hyd at 250 o eiriau).

Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus

A oes grwpiau o bobl, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, a fyddai’n elwa o’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn rhai neu bob gwasanaeth ysbyty?

  • Oes
  • Nac oes
  • Ddim yn gwybod

Pa grwpiau ydych chi’n meddwl y bydd yn elwa a pham?

A oes grwpiau o bobl, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, y byddai’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn rhai neu bob gwasanaeth ysbyty yn effeithio’n negyddol arnynt?

  • Oes
  • Nac oes
  • Ddim yn gwybod

Pa grwpiau penodol y gallai effeithio arnynt yn negyddol, a pham?

Hysbysiad preifatrwydd

Crynodeb o’r fenter

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lloegr) yn ceisio safbwyntiau ynghylch cyflwyno rheoliadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (hynny yw, Prydain Fawr). Pe byddant yn cael eu gweithredu, byddai’r rheoliadau hyn yn golygu y gallai cyflogwr gyflwyno hysbysiad gwaith sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn weithio drwy streic, er mwyn i’r gwasanaethau ysbyty sy’n gritigol o ran amser a nodir yn y lefel gwasanaeth gofynnol barhau. Pe byddant yn cael eu gweithredu, byddai’r rheoliadau yn cael eu cyflwyno o dan y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Neddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymgynghori ar gymhwyso lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer sectorau eraill. Mae’r ymgynghoriad diogelwch ffiniau yn fyw hefyd. Ym maes iechyd, ein bwriad yw y byddai lefelau gwasanaeth gofynnol yn diogelu gallu gweithwyr i streicio gan ddiogelu diogelwch cleifion. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniad ynghylch pa wasanaethau iechyd y dylid eu cynnwys mewn rheoliadau. Ein cynnig yw y dylai gwasanaethau ysbyty gael eu cynnwys mewn rheoliadau fel blaenoriaeth. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniad ynghylch a ddylid cynnwys gwasanaethau ysbyty ac, os felly, y manylion ynghylch y lefelau gwasanaeth gofynnol sydd eu hangen mewn gwasanaethau ysbyty.

Rheolwr data

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r rheolwr data.

Pa ddata personol ydym ni’n eu casglu

Mae’r data a gesglir yn cynnwys cyfeiriad IP a lleoliad daearyddol.

Sut yr ydym ni’n defnyddio eich data (dibenion)

Mae’r ymgynghoriad yn cadarnhau ym mha achosion y gellid cysylltu â chi drwy eich cyfeiriad e-bost.

Mae’n angenrheidiol prosesu data personol (sef gwybodaeth ddemograffig am ymatebwyr) er mwyn sicrhau bod y llywodraeth yn cydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac yn cipio a allai’r polisi gael effaith gadarnhaol neu negyddol grwpiau penodol, megis y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, a sut y byddai’n cael yr effaith honno.

Bydd yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, i gymharu sut y gallai cefnogaeth neu wrthwynebiad i’r polisi, neu safbwyntiau ar ei gwmpas, fod yn wahanol fesul nodweddion.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, y seiliau cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

  • erthygl 9(i) amodau ar gyfer prosesu data categori arbennig (iechyd y cyhoedd)
  • erthygl 6(e) mae angen inni wneud hynny er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus

Proseswyr data a derbynwyr eraill data personol

Nid ydym yn rhagweld y bydd data yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti.

Trosglwyddiadau data rhyngwladol a lleoliadau storio

Bydd yr wybodaeth yn cael ei storio yn systemau diogel yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig.

Polisi Cadw a gwaredu

Rydym yn rhagweld y bydd data yn cael eu cadw am 12 mis er mwyn caniatáu amser i ddadansoddi ymatebion. Yna bydd y data yn cael eu dinistrio neu eu gwaredu’n ddiogel.

Sut yr ydym yn cadw eich data’n ddiogel

Bydd yr wybodaeth yn cael ei storio yng ngweinyddion diogel yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Eich hawliau fel testun data

Yn ôl y gyfraith, mae gan destunau data nifer o hawliau ac nid yw’r prosesu hyn yn diddymu nac yn lleihau’r hawliau hyn o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (2016/679) ac mae Deddf Diogelu Data 2018 y DU yn berthnasol.

Dyma’r hawliau hyn:

  • yr hawl i gael copïau o wybodaeth—mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth amdanynt a ddefnyddir
  • yr hawl i gywiro gwybodaeth—mae gan unigolion yr hawl i ofyn am i unrhyw wybodaeth a gedwir amdanynt sy’n anghywir yn eu barn nhw gael ei chywiro
  • yr hawl i gyfyngu ar sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio—mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gyfyngu ar unrhyw ran o’r wybodaeth a gedwir amdanynt, er enghraifft, os ydynt yn credu bod gwybodaeth anghywir yn cael ei defnyddio
  • yr hawl i wrthwynebu’r wybodaeth a ddefnyddir—caiff unigolion ofyn am i unrhyw wybodaeth a gedwir amdanynt beidio â chael ei defnyddio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hawl absoliwt, ac efallai y bydd angen parhau i ddefnyddio’r wybodaeth, gan roi gwybod i’r unigolion os yw hyn yn wir.
  • yr hawl i gael gwybodaeth wedi ei dileu—nid yw hyn yn hawl absoliwt, ac efallai y bydd angen parhau i ddefnyddio’r wybodaeth, a rhoir gwybod i unigolion os bydd hyn yn wir

Sylwadau neu gwynion

Dylai unrhyw un sy’n anhapus neu sy’n dymuno cwyno am sut mae data personol yn cael eu defnyddio yn rhan o’r rhaglen hon gysylltu â data_protection@dhsc.gov.uk yn y lle cyntaf neu ysgrifennu at:

Swyddog Diogelu Data
1st Floor North
39 Victoria Street
Llundain
SW1H 0EU

Gall unrhyw un sy’n dal i fod yn anfodlon gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Cyfeiriad ei gwefan yw www.ico.org.uk a’i chyfeiriad post yw:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Gwneud penderfyniadau neu broffilio awtomataidd

Ni wneir unrhyw benderfyniad am unigolion gan ddefnyddio penderfyniadau awtomataidd yn unig (pan wneir penderfyniad amdanynt gan ddefnyddio system electronig heb gyfranogiad dynol) sy’n cael effaith sylweddol arnynt.

Newidiadau i’r polisi hwn

Adolygir yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd, a bydd fersiynau newydd ar gael ar ein tudalen hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 19 Medi 2023.