Astudiaeth achos

Hwb gan fuddsoddiad gwerth £18m i Bafiliwn y Grand

Mae gwaith i ailddatblygu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl wedi cael hwb o £18 miliwn o gyllid Ffyniant Bro. Bydd yr arian yn helpu i arbed yr adeilad rhag dirywiad pellach ac yn sicrhau ei le tymor hir yn y gymuned.

Achub yr adeilad

Mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn rhan allweddol o dreftadaeth ddiwylliannol a chymdeithasol Porthcawl a’r rhanbarth ehangach. Yn anffodus, mae Pafiliwn y Grand wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae angen adfywiad sylweddol. Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi ei thrawsnewidiad.

Mae’r gwelliannau i’r adeilad yn cynnwys:

  • sicrhau bod y lleoliad yn gwbl hygyrch i ymwelwyr, staff a pherfformwyr
  • sicrhau bod yr adeilad yn ynni-effeithlon
  • creu theatr stiwdio newydd ag ynddi 150 o seddi
  • creu oriel gelf weledol
  • gwaith cynnal a chadw sylweddol

Rhan bwysig o’r gymuned

Mae Pafiliwn y Grand yn galon i’r gymuned ac mae’n gyrchfan allweddol i ymwelwyr.

Bydd y gwelliannau hyn yn:

  • dathlu pensaernïaeth eiconig Pafiliwn y Grand trwy ei adfer i’w hen ogoniant
  • creu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, gwirfoddoli a hyfforddiant
  • datblygu’r lleoliad fel canolfan rhagoriaeth artistig

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023