Os oes angen i chi newid eich Ffurflen Dreth

Gallwch wneud newid i Ffurflen Dreth ar ôl i chi ei chyflwyno, er enghraifft, am eich bod wedi gwneud camgymeriad.

Caiff eich bil ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn rhoi gwybod amdano. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth, neu mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad.

Mae proses wahanol ar waith os oes angen i chi roi gwybod am incwm tramor (yn agor tudalen Saesneg).

Diweddaru’ch Ffurflen Dreth

Gallwch gywiro Ffurflen Dreth o fewn 12 mis i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad, a hynny ar-lein neu drwy anfon Ffurflen Dreth bapur arall.

Enghraifft

Ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, fel arfer bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr 2025.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, neu os bydd angen i chi wneud newid i Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF.

Ffurflenni Treth ar-lein

Mae’n rhaid i chi aros 3 diwrnod (72 awr) ar ôl cyflwyno cyn diweddaru eich Ffurflen Dreth.

  1. Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

  2. O ‘Eich cyfrif treth’, dewiswch ‘cyfrif Hunanasesiad’.

  3. Dewiswch ‘Rhagor o fanylion Hunanasesiad’.

  4. Dewiswch ‘Ar gip’ o’r ddewislen ar y chwith.

  5. Dewiswch ‘Opsiynau Ffurflen Dreth’.

  6. Dewiswch y flwyddyn dreth ar gyfer y Ffurflen Dreth yr ydych am ei diwygio.

  7. Ewch i mewn i’r Ffurflen Dreth, ei chywiro a’i hailgyflwyno.

Ffurflenni Treth papur

Ar gyfer y prif Ffurflen Dreth Hunanasesiad, ffoniwch CThEF a gofyn am ffurflen SA100. Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.

Yna, bydd angen i chi anfon y tudalennau wedi’u cywiro i’r cyfeiriad ar eich gwaith papur Hunanasesiad.

Dylech ysgrifennu ‘diwygiad’ ar bob tudalen, a chynnwys eich enw a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) – mae hwn ar Ffurflenni Treth blaenorol neu lythyrau gan CThEF.

Os na allwch ddod o hyd i’r cyfeiriad, gallwch anfon eich tudalennau wedi’u cywiro i:


Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF 
Cyllid a Thollau EF 
HMRC
BX9 1ST

Os gwnaethoch ddefnyddio meddalwedd fasnachol

Cysylltwch â’r darparwr meddalwedd (yn agor tudalen Saeneg) i gael help i gywiro’ch Ffurflen Dreth. Cysylltwch â CThEF os nad yw’ch meddalwedd yn gallu gwneud cywiriadau.

Ysgrifennu at CThEF

Mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF os ydych wedi methu’r dyddiad cau i wneud newidiadau neu os oes angen i chi wneud newid i flwyddyn dreth arall.

Bydd angen i chi hefyd ysgrifennu llythyr at CThEF i wneud y canlynol:

  • hawlio rhyddhad gordaliad

  • rhoi gwybod am incwm na wnaethoch ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth

Gallwch hawlio ad-daliad hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.

Yr hyn i’w gynnwys

Mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • y flwyddyn dreth yr ydych yn ei chywiro

  • pam yr ydych o’r farn eich bod wedi talu gormod o dreth, neu heb dalu digon

  • faint yr ydych yn credu eich bod wedi’i ordalu neu ei dandalu

  • eich llofnod (ni all neb arall lofnodi ar eich rhan)

Os ydych yn gwneud hawliad, dylech hefyd gynnwys y canlynol yn eich llythyr:

  • y ffaith eich bod yn gwneud hawliad am ryddhad gordaliad

  • rhywbeth sy’n profi eich bod wedi talu drwy’r drefn Hunanasesiad ar gyfer y cyfnod perthnasol

  • sut yr hoffech gael eich ad-dalu

  • y ffaith nad ydych wedi ceisio hawlio’r ad-daliad hwn yn ôl yn flaenorol

  • datganiad wedi’i lofnodi sy’n nodi bod y manylion yr ydych wedi’u rhoi yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth

Newidiadau i’ch bil

Byddwch yn gweld eich bil diwygiedig yn syth os gwnaethoch ddiweddaru’ch Ffurflen Dreth ar-lein. Cyn pen 3 diwrnod, bydd eich datganiad hefyd yn dangos y canlynol:

  • yr hyn sy’n wahanol i’r hen un, fel y gallwch weld a oes arnoch fwy neu lai o dreth

  • unrhyw log

Er mwyn bwrw golwg dros hyn, mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a dewiswch ‘Bwrw golwg dros ddatganiadau’ oʼr ddewislen ar y chwith.

Os oes treth yn ddyledus i chi

I hawlio ad-daliad, ewch i ‘Gwneud cais am ad-daliad’ o’r ddewislen ar y chwith o fewn eich cyfrif ar-lein CThEF. Dylech ganiatáu 4 wythnos i’ch ad-daliad gael ei anfon i’ch cyfrif banc.

Mae’n bosibl na chewch ad-daliad os oes gennych dreth sy’n ddyledus yn ystod y 35 diwrnod nesaf (er enghraifft ar gyfer taliad ar gyfrif). Yn hytrach, caiff yr arian ei ddidynnu oddi wrth y dreth sydd arnoch.

Os oes angen i chi dalu mwy o dreth

Bydd eich bil diweddaredig yn dangos y canlynol hefyd:

  • y dyddiad cau ar gyfer talu

  • yr effaith ar unrhyw daliadau ar gyfrif y mae’n rhaid i chi eu gwneud

Os gwnaethoch anfon Ffurflen Dreth bapur wedi’i diweddaru

Fel arfer, bydd CThEF yn anfon bil wedi’i ddiweddaru atoch cyn pen 4 wythnos.

Mae’n cymryd mwy o amser nag arfer i brosesu newidiadau. Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Bydd CThEF yn talu unrhyw ad-daliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, cyn belled â’ch bod wedi rhoi’ch manylion banc ar eich Ffurflen Dreth.