Ffeilio’ch datganiad cadarnhau (ffurflen flynyddol) gyda Thŷ’r Cwmnïau

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i:

  • ffeilio’ch datganiad cadarnhau (ffurflen flynyddol gynt)
  • cofrestru i gael hysbysiadau e-bost i roi gwybod ichi pan fydd eich datganiad cadarnhau’n ddyledus

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cynnwys

Darllen arweiniad yn Saesneg ar baratoi’ch datganiad cadarnhau.

Sut i gofrestru

Bydd arnoch angen cyfrinair a chod dilysu gan Dŷ’r Cwmnïau.

Os nad yw’r rhain gennych, gallwch gofrestru ar lein.

Lawrlwytho a llenwi ffurflen datganiad cadarnhau a’i bostio i Dŷ’r Cwmnïau – mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd angen ichi lawrlwytho a llenwi rhannau 1 i 4 os ydych chi’n diweddaru gwybodaeth am eich cwmni.

Mae’n costio £40. Amgaewch siec gyda rhif eich cwmni wedi’i ysgrifennu ar y cefn.

Os oeddech i fod i ffeilio ffurflen flynyddol erbyn 30 Mehefin 2016, gallwch lawrlwytho a llenwi ffurflen AR01 yn Saesneg yn lle defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.