Diweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw

Mae’r ffordd rydych yn diweddaru’r cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw yn dibynnu a oedd yr unigolyn yn gydberchennog neu’n unig berchennog eiddo.

Ceir ffordd wahanol i ddiweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw yn yr Alban ac i ddiweddaru cofnodion eiddo pan fydd rhywun yn marw yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Edrychwch ar y cofnodion eiddo os nad ydych yn gwybod:

  • pwy sy’n berchen ar eiddo
  • a yw’n cael ei berchen ar y cyd neu’n unigol

Pan fydd cydberchennog yn marw

Pan fydd cydberchennog eiddo yn marw, llenwch ffurflen DJP i dynnu ei enw o’r gofrestr.

Anfonwch y ffurflen wedi ei llenwi, ynghyd â chopi swyddogol o’r dystysgrif marwolaeth, i Gofrestrfa Tir EF.

Pan fydd unig berchennog yn marw

Pan fydd unig berchennog eiddo wedi marw, caiff yr eiddo ei drosglwyddo fel arfer i naill ai:

  • y person sy’n etifeddu’r eiddo (a elwir ‘y buddiolwr’)
  • trydydd parti, er enghraifft rhywun sy’n prynu’r eiddo

Bydd angen tystiolaeth ychwanegol:

  • os yw’r grant wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd, gall hyn fod os yw’r ysgutor a enwir yn blentyn o dan oed
  • os yw’r cynrychiolydd personol wedi marw, neu wedi penodi atwrnai i weinyddu’r ystad ar ei ran

Os ydych yn trosglwyddo i fuddiolwr

Er mwyn trosglwyddo eiddo i fuddiolwr, lawrlwythwch a llenwch y ffurflenni canlynol:

Rhaid ichi hefyd anfon:

Rhaid i’r buddiolwr lenwi ‘Cadarnhau hunaniaeth: dinesydd’ (a elwir weithiau’n ffurflen ID1). Bydd yn rhaid ichi lenwi’r ffurflen hefyd os ydych yn trosglwyddo’r eiddo ac nid chi yw’r ysgutor.

Anfonwch yr holl ffurflenni wedi eu llenwi a’r dogfennau cefnogol i Gofrestrfa Tir EF.

Os ydych yn gwerthu’r eiddo i drydydd parti

Rhaid ichi:

  • drosglwyddo perchnogaeth yr eiddo
  • rhoi copi swyddogol o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu a gyhoeddwyd yn y DU i’r prynwr

Rhaid ichi hefyd anfon:

Os oes gennych grant profiant tramor

Os ydych am ddiweddaru cofnodion eiddo a chael grant profiant neu rywbeth cyfwerth a gyhoeddwyd y tu allan i’r DU, bydd angen ichi wneud un o’r canlynol: