Taliadau Debyd Uniongyrchol treth cerbyd
Newid eich cyfeiriad, e-bost neu enw
Dywedwch wrth DVLA os ydych am newid y cyfeiriad, e-bost neu enw ar eich Debyd Uniongyrchol.
Gallwch ffonio DVLA os:
- ydych chi wedi symud tŷ
- oes gennych gyfeiriad e-bost newydd
- ydych wedi priodi neu wedi ysgaru ac eisiau diweddaru eich manylion
- oes camgymeriad gyda’ch enw neu gyfeiriad
Os gwnaethoch newid eich enw drwy weithred unrhan
Ysgrifennwch at DVLA os ydych chi wedi newid eich enw drwy weithred unrhan.
Mae angen ichi gynnwys:
- eich cyfeiriad a dyddiad geni
- eich enw banc neu gymdeithas adeiladu, rhif cyfrif a chod didoli
- copi o’ch gweithred newid enw
Anfonwch i:
DDC
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ