Trosglwyddo eich ISA

Gallwch drosglwyddo’r holl arian yn eich Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), neu ran ohono, o un darparwr i un arall unrhyw bryd. Gallai hyn fod i fath gwahanol o ISA neu i’r un math o ISA. Gall y buddsoddiad fod wedi cael ei wneud eleni neu yn ystod y blynyddoedd blaenorol.

Mae cyfyngiadau ar y trosglwyddiadau y gallwch eu gwneud os oes gennych ISA gydol oes (yn agor tudalen Saesneg) neu ISA Iau (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei drosglwyddo

Gallwch drosglwyddo arian o’ch ISA cyllid arloesol i ddarparwr arall - ond efallai na fyddwch yn gallu trosglwyddo buddsoddiadau eraill ohono.

Holwch eich darparwr am unrhyw gyfyngiadau sydd ganddo ar drosglwyddo ISAs. Efallai y bydd hefyd yn codi ffi arnoch.

Sut mae trosglwyddo eich ISA

I newid darparwr, cysylltwch â’r darparwr ISA rydych am symud ato a llenwi ffurflen drosglwyddo ISA i symud eich cyfrif. Os byddwch yn tynnu’r arian allan heb wneud hyn, ni fyddwch yn cael ail-fuddsoddi’r rhan honno o’ch lwfans sy’n rhydd o dreth eto.

Dyddiadau cau a chwynion

Ni ddylai trosglwyddo ISA gymryd mwy na:

  • 15 diwrnod gwaith ar gyfer trosglwyddiadau rhwng ISAs arian
  • 30 diwrnod calendr ar gyfer mathau eraill o drosglwyddo

Os ydych eisiau trosglwyddo buddsoddiadau sy’n cael eu dal mewn ISA cyllid arloesol, holwch eich darparwr faint o amser bydd hynny’n ei gymryd.

Os bydd y trosglwyddo’n cymryd mwy o amser nag y dylai, cysylltwch â’ch darparwr ISA.

Os ydych yn anhapus gyda’r ymateb, gallwch godi’r mater gyda Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Ffôn (ar gyfer llinellau tir): 0800 023 4567
Ffôn (ar gyfer ffonau symudol): 0300 123 9123
Dydd Llun – Dydd Gwener, 08:00 i 20:00
Dydd Sadwrn, 09:00 i 13:00
Dysgwch am gostau galwadau