Yswiriant Gwladol Gwirfoddol
Cyfraddau
Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yw:
-
£3.50 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 2
-
£17.75 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 3
Fel arfer, byddwch yn talu’r gyfradd bresennol pan fyddwch yn gwneud cyfraniad gwirfoddol.
Pan fyddwch yn talu cyfraddau gwahanol
Os ydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, neu gyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer y 2 flwyddyn dreth flaenorol, byddwch yn talu’r gyfradd wreiddiol ar gyfer y blynyddoedd hynny:
Os ydych yn talu ar gyfer blynyddoedd cynharach, byddwch yn talu’r gyfradd 2025 i 2026.
Os oes gennych fath penodol o swydd
Byddwch yn talu cyfradd Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) arbennig os ydych yn un o’r canlynol:
-
pysgotwr cyfran
-
gweithiwr datblygu gwirfoddol