Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Mae cyfradd fesul awr yr isafswm cyflog yn dibynnu ar eich oed ac a ydych chi’n brentis.

Mae’r tudalen hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhaid i chi fod o leiaf yn:

  • oed gadael ysgol er mwyn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • 23 oed i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol - bydd yr isafswm cyflog yn berthnasol o hyd i weithwyr 22 oed ac iau

Cyfraddau presennol

Dyma’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 23 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i’r rhai o oed gadael ysgol o leiaf). Mae’r cyfraddau hyn yn newid bob 1 Ebrill.

23 a throsodd 21 i 22 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebrill 2023 £10.42 £10.18 £7.49 £5.28 £5.28

Prentisiaid

Mae gan Brentisiaid hawl i gael y gyfradd prentis os ydynt naill ai:

  • o dan 19 oed
  • yn 19 oed neu drosodd ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Enghraifft

Mae gan brentis 21 oed ym mlwyddyn gyntaf ei brentisiaeth hawl i gael y gyfradd isafswm fesul awr o £5.28.

Mae gan brentisiaid hawl i gael yr isafswm cyflog ar gyfer eu hoed os ydynt:

  • yn 19 oed neu drosodd
  • wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Enghraifft

Mae gan brentis 21 oed sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf ei brentisiaeth hawl i gael cyfradd isafswm fesul awr o £10.18.

Cyfraddau blaenorol

Roedd y cyfraddau canlynol ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2017 ymlaen.

Y cyfraddau o 1 Ebrill 2021 ymlaen

23 a throsodd 21 i 22 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebrill 2022 i Mawrth 2023 £9.50 £9.18 £6.83 £4.81 £4.81
Ebrill 2021 i Mawrth 2022 £8.91 £8.36 £6.56 £4.62 £4.30

Y cyfraddau cyn 1 Ebrill 2021

Cyn 1 Ebrill 2021 roedd y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer y rhai 25 oed a throsodd.

25 a throsodd 21 i 24 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebrill 2020 i Mawrth 2021 £8.72 £8.20 £6.45 £4.55 £4.15
Ebrill 2019 i Mawrth 2020 £8.21 £7.70 £6.15 £4.35 £3.90
Ebrill 2018 i Mawrth 2019 £7.83 £7.38 £5.90 £4.20 £3.70
Ebrill 2017 i Mawrth 2018 £7.50 £7.05 £5.60 £4.05 £3.50

Pwy sy’n cael yr isafswm cyflog

Darllenwch yr wybodaeth am pwy sydd â hawl i gael yr isafswm cyflog.

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell isafswm cyflog i weld a yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei dalu.

Os nad ydych chi’n cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’ch bod chi’n meddwl y dylech chi, cysylltwch ag Acas.