Mewngofnodi i’ch cyfrif TAW ar-lein

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • cael gwybod pryd mae dyddiadau cau eich Ffurflenni TAW
  • anfon Ffurflen TAW ar gyfer y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn dechrau cyn 1 Tachwedd 2022
  • trefnu Debyd Uniongyrchol i dalu TAW
  • bwrw golwg dros eich taliadau a faint sydd arnoch
  • gwirio ac apelio yn erbyn cosbau
  • rhoi gwybod am newidiadau i’ch busnes
  • canslo’ch cofrestriad TAW

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gyflwyno Ffurflen TAW chwarterol.

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif TAW
  • Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

Byddwch yn cael y rhain pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer TAW.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn agor tudalen Saesneg.

Gwasanaethau TAW eraill

Gallwch hefyd fewngofnodi i’ch cyfrif TAW ar-lein er mwyn gwneud y canlynol:

Problemau gyda’r gwasanaeth

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).