Trosolwg

Rydych yn rhoi cod treth y cyflogai i mewn i’ch meddalwedd cyflogres i gyfrifo faint o dreth i’w didynnu o’i gyflog drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae canllaw ar wahân ynghylch codau treth os ydych yn gyflogai.

Yr hyn sydd angen i chi’i wneud

Pan fydd cyflogai newydd yn dechrau gweithio i chi, fel rheol rydych yn cyfrifo’i god treth drwy ddefnyddio’i P45. Fel arfer, bydd y cod yn cynnwys sawl rhif yn ogystal â llythyren, megis 1257L.

Fel arfer, bydd angen i chi ddiweddaru cod treth eich cyflogai ar ddechrau blwyddyn dreth newydd. Os bydd y cod treth yn newid yn ystod y flwyddyn, bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn anfon e-bost atoch - dylech ddiweddaru’ch cofnodion y gyflogres cyn gynted â phosibl.

Cod treth 1257L

Y cod treth mwyaf cyffredin ar gyfer y flwyddyn dreth 2023 i 2024 yw 1257L. Fe’i defnyddir ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un swydd ac nad oes ganddynt incwm heb ei drethu, treth heb ei thalu na buddiannau trethadwy (er enghraifft, car cwmni).

Cod treth dros dro yw 1257L dim ond os oes ‘W1’, ‘M1’ neu ‘X’ i’w weld ar ei ddiwedd. Gellir defnyddio codau treth dros dro os nad oes gan gyflogai newydd P45.