Cael gwybodaeth cerbyd gan DVLA

Gwirio ar-lein pa wybodaeth sydd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am gerbyd.

Bydd arnoch angen rhif cofrestru’r cerbyd (y plât rhif).

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio manylion am gerbyd, gan gynnwys:

  • treth cerbyd - y gyfradd gyfredol a phryd y daw i ben
  • statws HOS
  • pryd y mae ei MOT yn dod i ben
  • y dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
  • dyddiad cyhoeddi’r llyfr log diwethaf (V5CW)
  • dyddiad gwneuthuriad
  • categori math cymeradwyaeth
  • pwysau
  • lliw
  • maint yr injan
  • math o danwydd
  • allyriadau - CO2, lefel allyriadau gyrru real a statws Ewropeaidd
  • statws allforio

Defnyddiwch ‘askMID’ i wirio os yw’ch cerbyd wedi ei yswirio.

Gwybodaeth am geidwaid cofrestredig

Mae’n rhaid ichi ysgrifennu i DVLA i ofyn am wybodaeth am geidwad presennol neu flaenorol y cerbyd.

Gwybodaeth am betrol E10

Mae gwasanaeth gwahanol i wirio os yw’ch cerbyd yn gallu defnyddio petrol E10.

Ffyrdd eraill o wirio manylion cerbyd

Cysylltwch â DVLA i gael y wybodaeth ganlynol am y cerbyd:

  • dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
  • blwyddyn gwneuthuriad
  • maint yr injan
  • allyriadau CO2
  • lliw
  • cyfradd treth cerbyd gyfredol