Cymhwyster

I gael Bonws Nadolig, mae rhaid i chi fod yn bresennol neu ‘fel arfer yn preswylio’n’ y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Gibraltar yn ystod yr wythnos gymhwyso.

Os ydych yn byw mewn gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir neu’n symud iddi, darganfyddwch am fudd-daliadau i wladolion y DU yn yr UE, yr AEE a’r Swistir.

Mae rhaid i chi hefyd fod yn cael o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol yn yr ‘wythnos gymhwyso’ - hwn fel arfer yw’r wythnos lawn cyntaf ym mis Rhagfyr:

  • Taliad Anabledd i Oedolion
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth i Ofalwyr
  • Taliad Anabledd Plentyn
  • Lwfans Gweini Parhaus (a delir o dan gynlluniau Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau (unwaith y byddwch wedi cyrraedd prif gyfnod y budd-dal ar ôl 13 wythnos gyntaf y cais)
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Budd-dal Analluogrwydd ar y gyfradd hirdymor
  • Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol (i wŷr gweddw neu wragedd gweddw)
  • Atodiad Symudedd
  • Credyd Pensiwn - yr elfen warantu
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn y Wladwriaeth (gan gynnwys Budd-dal Ymddeol Graddedig)
  • Lwfans Anabledd Difrifol (wedi’i amddiffyn dros dro)
  • Atodiad neu Lwfans i’r Anghyflogadwy (a delir o dan gynlluniau Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw

Os nad ydych wedi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ac nad oes gennych hawl i un o’r budd-daliadau cymwys eraill, ni fyddwch yn cael Bonws Nadolig.