Edrych os ydych yn gymwys

I gael Benthyciad Trefnu mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn cael un neu fwy o’r budd-daliadau hyn am y 6 mis blaenorol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn

Os ydych wedi symud o Gredyd Cynhwysol i Gredyd Pensiwn, bydd unrhyw amser a dreuliwyd yn hawlio Credyd Cynhwysol yn cyfrif tuag at y 6 mis.

Mae ffordd wahanol i gael Benthycidau Trefnu yng Ngogledd Iwerddon.

Pan na fyddwch yn gallu gwneud cais

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, ni allwch gael Benthyciad Trefnu. Gwnewch gais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn lle hynny.

Ni allwch hefyd gael Benthyciad Trefnu os:

  • rydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd
  • rydych yn cymryd rhan mewn anghydfod diwydiannol (er enghraifft, streic, cerdded allan neu gael eich cloi allan)
  • mae arnoch fwy na £1,500 i gyd mewn Benthyciadau Argyfwng neu Fenthyciadau Trefnu