Aros yn eiddo eich partner pan fyddwch yn ysgaru neu’n gwahanu

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwneud cais os yw’r eiddo yn gofrestredig

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru rhybudd ar gyfer hawliau cartref.

Anfonwch y ffurflen i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

HM Land Registry 
Citizen Centre 
PO Box 74 
Gloucester 
GL14 9BB

Cewch lythyr gan Gofrestrfa Tir EF yn dweud wrthych pan fydd eich hawliau wedi eu cofrestru. Bydd eich priod neu’ch partner sifil yn cael llythyr hefyd yn dweud eich bod wedi gwneud hyn.

Os ydych am symud i eiddo gwahanol

Gallwch ddiogelu eich hawl i fyw mewn un eiddo ar y tro yn unig.

Gallwch ofyn i Gofrestrfa Tir EF drosglwyddo eich hawliau cartref i eiddo arall y mae’ch priod neu’ch partner sifil yn berchen arno os oes gennych hawliau cartref eisoes ar gyfer un eiddo.

Llwythwch i lawr a llenwch y cais i gofrestru rhybudd ar gyfer hawliau cartref.

Anfonwch y ffurflen i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

HM Land Registry 
Citizen Centre 
PO Box 74 
Gloucester 
GL14 9BB

Dilynwch y broses gwneud cais ar gyfer eiddo digofrestredig os nad yw’r eiddo rydych yn symud iddo wedi’i gofrestru – gallwch chwilio’r gofrestr i weld a yw wedi’i gofrestru.

Aros yn yr eiddo ar ôl ysgaru neu wahanu

Efallai y gallwch barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod hwy, er enghraifft, os yw llys wedi gwneud ‘gorchymyn parhau’ sy’n caniatáu ichi wneud hynny yn ystod anghydfod parhaus ynghylch pwy sy’n berchen ar beth.

Mae’r modd rydych yn gwneud cais yn dibynnu ar a ydych eisoes wedi cofrestru eich hawliau cartref.

Llwythwch i lawr a llenwch naill ai:

Anfonwch y ffurflen, ynghyd â chopi swyddogol o orchymyn parhau’r llys, i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

HM Land Registry 
Citizen Centre 
PO Box 74 
Gloucester 
GL14 9BB

Cewch lythyr gan Gofrestrfa Tir EF yn dweud wrthych pan fydd eich hawliau parhau wedi eu cofrestru. Bydd eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn cael llythyr hefyd yn dweud eich bod wedi gwneud hyn.