Adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr

Gallwch adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr cyn belled:

  • bod gennych un oherwydd cyflwr meddygol
  • ei bod yn ddilys am 1, 2, 3 neu 5 mlynedd
  • ei bod ar fin dod i ben, neu wedi dod i ben

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Adnewyddu ar-lein

Ar hyn o bryd, gallwch dim ond adnewyddu ar-lein os oes gennych ddiabetes, epilepsi, clefyd Parkinson, nam ar eich golwg, cyflwr cwsg, neu gyflwr y galon.

Bydd gennych un awr i ychwanegu gwybodaeth unwaith eich bod wedi dechrau. Ni allwch arbed a dychwelyd at eich cais yn ddiweddarach.

Dechrau nawr

Cynnwys

Oedi os caiff eich cais ei gyfeirio at feddyg

Efallai y bydd eich cais yn cymryd yn hirach na’r arfer os bydd angen ei gyfeirio at feddyg (oni bai eich bod yn gwneud cais am drwydded bws neu lori).

Os oes gennych drwydded yrru gyfredol ac nad yw’ch meddyg neu optegydd wedi dweud wrthych na ddylech yrru, efallai y byddwch yn gallu gyrru tra bod DVLA yn ystyried eich cais. Darllenwch ‘Gaf i yrru tra mae fy nghais gyda’r DVLA?’ am ragor o ganllawiau.

Pwy na all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

Defnyddiwch wasanaeth arall i wneud cais am drwydded yrru os yw eich trwydded wedi ei thynnu yn ôl neu eich bod wedi’i ildio oherwydd cyflwr meddygol.

Gallwch hefyd adnewyddu eich trwydded yrru feddygol tymor byr drwy’r post. Bydd DVLA yn anfon ffurflen atgoffa atoch 90 diwrnod cyn i’ch trwydded ddod i ben.

Os na fyddwch yn derbyn ffurflen atgoffa, dylech archebu ffurflen D1W, a lawrlwytho a llenwi’r ffurflenni meddygol ar gyfer eich cyflwr. Anfonwch nhw i gyd i DVLA - mae’r cyfeiriad ar y ffurflenni.